Neidio i'r prif gynnwy

Un agwedd yn unig ar Raglen Trawsnewid ADY yw’r Bil ADYTA.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan bron i chwarter y disgyblion yng Nghymru anghenion addysgol arbennig o ryw fath a bydd y Gweinidog heddiw yn cyhoeddi sut y bydd yn bwriadu bwrw ymlaen â deddfwriaeth o bwys i ddiogelu a chryfhau hawliau’r grŵp sylweddol hwn o ddisgyblion.

Bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ADYTA) a gafodd ei gyhoeddi’n rhan o raglen ddeddfwriaethol blwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon gan y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf,  yn trawsnewid y fframwaith cyfreithiol ac yn cael gwared ar yr anghysondebau a’r diffygion sydd yn y system ar hyn o bryd.

Bydd hefyd yn anelu at sicrhau y bydd asiantaethau sy’n bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn a pherson ifanc er mwyn gallu cymryd rhan mewn rhaglenni dysgu ac elwa arnynt.

Dywedodd y Gweinidog,

"Mae’r fframwaith cyfreithiol presennol sy’n cynorthwyo plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig yn seiliedig ar fodel a gyflwynwyd dros 30 o flynyddoedd yn ôl. Mae’n amlwg nad yw’n addas at y diben erbyn hyn.

"Ein gobaith gyda’r bil hwn yw y bydd yn trawsnewid disgwyliadau, profiadau a deilliannau plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.

"Mae’r broses o drawsnewid ar droed eisoes drwy raglen gynhwysfawr o ddiwygiadau ehangach ond bydd cyflwyno deddfwriaeth yn y maes yn gam pwysig ymlaen ar hyd y daith.

"Rydyn ni wedi ymgynghori’n eang ar y cynigion hyn, drwy gyfrwng Papur Gwyn a hefyd drwy gyflwyno Bil drafft y llynedd, ac mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw wedi’u cyhoeddi heddiw. Mae’r adborth a gawsom wedi cefnogi egwyddorion a dyheadau ein diwygiadau a byddwn yn ymgymryd â’r hyn a fynegwyd ac yn ei ddefnyddio’n sail i ddatblygu’r ddeddfwriaeth bwysig yma, yn ogystal â’r Rhaglen ehangach o drawsnewid ADY."

Nodau cyffredinol y Bil yw creu:

  • fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed sydd ag ADY mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach;
  • proses integredig, gydweithredol o asesu, cynllunio a monitro sy’n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol a
  • system deg a thryloyw o ddarparu gwybodaeth a chyngor ac o ddatrys pryderon ac apeliadau.

Un agwedd yn unig ar Raglen Trawsnewid ADY yw’r Bil ADYTA. Yn gwbl greiddiol i’r diwygiadau hyn mae ffocws ar gynhwysiant; rhoi plant a phobl ifanc yn y canol a sicrhau eu bod yn cael y cymorth i gyrraedd eu potensial llawn.

Dywedodd y Gweinidog,

"Bydd y diwygiadau hyn yn sicrhau gweddnewid y system yn llwyr. Bydd rhoi’r diwygiadau ar waith yn ymrwymiad sylweddol ond yn ymrwymiad sydd â gwir botensial o sicrhau gwelliannau sylweddol i bawb yr effeithir arnynt. Byddant hefyd, rwy’n sicr, yn cael effaith wirioneddol a phositif ar fywydau rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas."