Heddiw, cafodd y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a fydd yn helpu pobl i fyw bywydau iachach a'u hamddiffyn rhag niwed, ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gan groesawu'r newyddion fod y Bil wedi cael ei basio, dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cyhoeddus:
"Mae heddiw’n nodi carreg filltir newydd ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae'r Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn ddarn radical o ddeddfwriaeth a fydd yn gwella ac yn diogelu iechyd a lles y genedl.
“Pan ddaw yn gyfraith, bydd yn gwneud byd o wahaniaeth i bobl Cymru. Bydd plant yn cael eu diogelu rhag cael eu niweidio gan fwg ail law a pheryglon tyllu rhannau personol o'r corff; bydd darpariaeth toiledau cyhoeddus yn cael ei chynllunio'n well ac o ganlyniad bydd pobl hŷn, pobl anabl, a phobl sy'n gofalu am blant ifanc yn gallu cael tawelwch meddwl cyn gadael y tŷ a bydd unrhyw un sy'n cael triniaeth arbennig yn gallu bod yn hyderus bod gan yr unigolyn sy'n gyfrifol am gynnig y driniaeth honno arferion gweithio diogel.
“Bydd y gofynion ar gyrff cyhoeddus i asesu sut bydd eu penderfyniadau'n effeithio ar iechyd corfforol a meddwl pobl, yn ogystal â'r ffaith y bydd rhaid i wasanaethau fferyllol fod yn fwy ymatebol i anghenion cymunedau, o fudd i ni i gyd.
“Hoffwn i ddiolch i bob partner sydd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu'r Bil, ac Aelodau'r Cynulliad, sydd wedi craffu'n adeiladol er mwyn cryfhau'r ddeddfwriaeth derfynol. Bydd effaith gadarnhaol sylweddol y gyfraith radical newydd hon yn parhau yng Nghymru".