Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfraith newydd i wahardd ffioedd gosod eiddo yng Nghymru wedi cael Cydsyniad Brenhinol gan Ei Mawrhydi y Frenhines.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn seremoni selio swyddogol a gynhaliwyd heddiw daeth Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) yn Ddeddf gan y Cynulliad.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn drosedd i godi unrhyw dâl ar denant nad yw wedi'i bennu'n 'daliad a ganiateir' yn ôl y ddeddfwriaeth. Mae hynny'n golygu na chodir tâl ar denantiaid am bethau fel ymweliadau yng nghwmni rhywun, derbyn rhestr eiddo, llofnodi contract, neu adnewyddu tenantiaeth. 

Amcangyfrifir y bydd y Ddeddf yn arbed bron £200 i denantiaid fesul tenantiaeth.

Caniateir i asiantiaid gosod eiddo a landlordiaid godi tâl mewn perthynas â rhent, blaendaliadau sicrwydd, blaendaliadau cadw, neu ddiffygdaliadau (pan fydd tenant yn torri amodau contract) yn unig, gan gynnwys taliadau mewn perthynas â'r dreth gyngor, cyfleustodau, trwydded deledu, neu wasanaethau cyfathrebu.

Bydd y Deddf yn rhoi cap ar flaendaliadau cadw a delir i gadw eiddo cyn llofnodi'r contract rhentu i'r hyn a fydd gyfwerth ag wythnos o rent, ac yn creu darpariaethau i sicrhau y gwneir yr ad-daliad yn brydlon. Bydd hefyd yn rhoi'r pŵer i Lywodraeth Cymru  gyfyngu ar lefel y blaendaliadau sicrwydd – pe dymunai'r Llywodraeth ddefnyddio'r pŵer hwnnw yn y dyfodol.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai Gweinidog  a Llywodraeth Leol: 

Mae'r sector rhentu preifat yn gyfrifol bellach am 13% o'r holl dai yng Nghymru. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn sicrhau mwy o eglurder a fydd yn helpu i wella enw da'r sector yn gyffredinol, a hefyd yn rhoi mwy o sicrwydd i denantiaid eu bod yn cael bargen deg. Rwy am i rentu preifat fod yn ddewis cadarnhaol sydd ar gael i bawb.

Bydd y ddeddfwriaeth bwysig hon yn dod i rym ar 1 Medi eleni,  er mwyn cydbwyso'r angen i landlordiaid ac asiantiaid addasu eu modelau busnes â'r angen i'r newidiadau hynny ddod i rym cyn gynted ag sy'n bosibl.