Skip to main content

Tablau’n dangos y dull a ddefnyddir i gyfrifo cyfraddau LwfansTai Lleol o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021.

Gweler y manylion

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021
, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 54 KB

ODS
54 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Manylion

Bydd cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol a gyhoeddir yn parhau mewn grym tan 31 Mawrth 2021.

Nid yw’r tablau yn darparu unrhyw ddangosydd gwarantedig o gyflwr y farchnad rhenti na thueddiadau yn y farchnad honno. Nid yw Swyddogion Rhenti Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am achosion llys neu ddyfarniadau y mae  hawlwyr Lwfans Tai Lleol neu eraill yn eu cymryd ar sai defnyddio’r tablau.

Dull

Mae’r tablau’n dangos y dull a ddefnyddir i gyfrifo cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol yn unol â chyfraith statud.

Colofn 1

Yma dangosir cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer Ebrill 2019

Colofn 2

Mae'r 30ain cyfres o ffigurau canraddol a ddangosir yma yn seiliedig ar werth deuddeg mis o wybodaeth am dai a gafodd eu gosod hyd at ddiwedd Medi 2019.

Colofn  3

Yma dangosir cyfraddau Colofn Un, wedi'u cynyddu ar sail y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer Medi. (Y Mynegai a gyhoeddwyd ar 16 Hydref 2019 yw 1.7%).

Colofn 4

Yma dangosir cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol a fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2020. Y ffigurau isaf yn Colofnau Dau a Thri yw'r rhain.

Cysylltu

Am unrhyw ymholiadau ynghylch polisi, dylech gysylltu â’r Adran Waith a Phensiynau.

Rhannu’r dudalen hon