Tablau’n dangos y dull a ddefnyddir i gyfrifo cyfraddau LwfansTai Lleol o fis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2018.
Dogfennau
Cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol o fis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2018 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 58 KB
Manylion
Bydd cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol a gyhoeddir yn parhau mewn grym tan 31 Mawrth 2018.
Nid yw’r tablau yn darparu unrhyw ddangosydd gwarantedig o gyflwr y farchnad rhenti na thueddiadau yn y farchnad honno. Nid yw Swyddogion Rhenti Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am achosion llys neu ddyfarniadau y mae hawlwyr Lwfans Tai Lleol neu eraill yn eu cymryd ar sail defnyddio’r tablau.
Dull
Mae’r tablau’n dangos y dull a ddefnyddir i gyfrifo cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol yn unol â chyfraith statud.
Colofn 1
Yma dangosir y cyfraddau Lwfans Tai Lleol sy’n weithredol ar gyfer mis Ebrill 2016.
Colofn 2
Mae ffigurau’r 30ain canradd a ddangosir yma wedi’u cymryd o’r wybodaeth am eiddo ar osod dros y 12 mis diwethaf, a gasglwyd hyd at ddiwedd mis Medi 2016.
Colofn 3
Categorïau sy’n gymwys i gael chwyddiad o 3% o ran Cyllid Fforddiadwyedd wedi’i Dargedu.
Colofn 4
Yma dangosir cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol a fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2017. Dyma’r ffigurau isaf a ddangosir yng ngholofnau 1 a 2, neu chwyddiad o 3% o ran Cyllid Fforddiadwyedd wedi’i Dargedu o’u cymharu â ffigurau 2016 a ddangosir yng ngholofn 3.
Cysylltu
Am unrhyw ymholiadau ynghylch polisi, dylech gysylltu â’r Adran Waith a Phensiynau.