Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ar 8 Mehefin 2023, fe gyhoeddon ni fwletin ystadegol yn dadansoddi cyfansoddiad aelwydydd yng Nghymru o ran y Gymraeg a throsglwyddiad yr iaith o genhedlaeth i genhedlaeth gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021.

Mae’r pennawd hwn a’r tablau data atodol yn darparu data ychwanegol am gyfradd trosglwyddo’r Gymraeg (y broses lle mae iaith yn cael ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth trwy ryngweithiadau teuluol arferol rhieni neu warcheidwaid a phlant) yn ôl rhyw y rhiant neu’r partner.

Mae’r data ar drosglwyddo’r Gymraeg ar yr aelwyd yn cael eu cyflwyno ar gyfer aelwydydd un teulu sydd â phlant rhwng tair a phedair oed. Diffinnir cyfradd trosglwyddo’r Gymraeg fel cyfran y plant tair i bedair oed o fewn math o deulu penodol sy’n gallu siarad Cymraeg.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfradd trosglwyddo’r Gymraeg ar gyfer aelwydydd cwpl lle'r oedd un partner yn unig yn gallu siarad Cymraeg yn uwch lle'r oedd y partner Cymraeg ei iaith yn fenyw (45%) yn hytrach na gwryw (34%).
  • Nid oedd gwahaniaeth rhwng cyfradd trosglwyddo’r Gymraeg ar gyfer aelwydydd mam unigol ac aelwydydd tad unigol lle mai'r rhiant oedd yr unig oedolyn a allai siarad Cymraeg (53% ill dau).

Cyfraddau trosglwyddo’r Gymraeg ar gyfer aelwydydd cwpl

Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd cyfradd trosglwyddo’r Gymraeg ar gyfer aelwydydd cwpl, lle mai dim ond un partner oedd yn gallu siarad Cymraeg, yn uwch lle roedd y partner Cymraeg ei iaith yn fenyw yn hytrach na gwryw. Roedd hyn yn wir am bob un o’r ugain awdurdod lleol lle mae data ar gael. Mae’r data ar gyfer Blaenau Gwent a Thorfaen wedi’u hatal oherwydd niferoedd bach.

Ar gyfer aelwydydd cwpl sy’n byw yng Nghymru (sy’n cynnwys cyplau o’r un rhyw a chyplau o rywiau gwahanol):

  • roedd cyfradd trosglwyddo’r Gymraeg lle mai dim ond un partner benywaidd oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 45%
  • roedd cyfradd trosglwyddo’r Gymraeg lle mai dim ond un partner gwrywaidd oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 34%

Cyfraddau trosglwyddo’r Gymraeg ar gyfer aelwydydd un rhiant

Nid oedd gwahaniaeth rhwng cyfradd trosglwyddo’r Gymraeg ar gyfer aelwydydd mam unigol ac aelwydydd tad unigol yng Nghymru.

Ar gyfer aelwydydd un rhiant lle mai’r rhiant oedd yr unig oedolyn oedd yn gallu siarad Cymraeg:

  • roedd cyfradd trosglwyddo’r Gymraeg lle roedd mam unigol yn gallu siarad Cymraeg yn 53%
  • roedd cyfradd trosglwyddo’r Gymraeg lle roedd tad unigol yn gallu siarad Cymraeg yn 53%

Ansawdd y data a methodoleg

Sylwch na ellid cymharu’r cyfraddau trosglwyddo yn ôl rhyw a ddyfynnir yn y pennawd hwn yn uniongyrchol â’r ffigurau a adroddwyd ar gyfer Cyfrifiad 2011, na chwaith y cyfraddau trosglwyddo a ddyfynnir yn y bwletin ystadegol ar drosglwyddo’r iaith a gyhoeddwyd yn flaenorol o Gyfrifiad 2021.

Rydym yn cyfrifo’r cyfraddau trosglwyddo yn ôl rhyw ar gyfer 2021 drwy werthuso gallu i siarad Cymraeg y partneriaid (yn achos aelwydydd cwpl) neu’r rhiant (yn achos aelwydydd un rhiant), yn hytrach na gallu oedolion yr aelwyd i siarad Cymraeg yn fwy cyffredinol. Mae hyn yn golygu cyfuno dau newidyn deilliedig sy’n gysylltiedig â theuluoedd ac aelwydydd o Gyfrifiad 2021.

Gellir dod o hyd i restr o ddiffiniadau data yn y bwletin ystadegol a gyhoeddwyd yn flaenorol ar drosglwyddo iaith.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yn defnyddio technegau rheoli datgeliadau ystadegol i sicrhau nad oes modd adnabod unrhyw berson neu sefydliad o ganlyniadau dadansoddiad. Roedd y technegau hyn wedi’u cymhwyso ar gyfer y data a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan y SYG ar gyfer y dadansoddiad hwn drwy ddileu pob cyfrif llai na 10 a thalgrynnu’r holl ffigurau sy’n weddill i’r pump agosaf.

Gallai gwahaniaethau yn y dulliau a ddefnyddir i reoli datgeliadau ystadegol arwain at fân-wahaniaethau yng nghyfansymiau data rhwng gwahanol allbynnau’r cyfrifiad. Efallai y bydd ffigurau mymryn yn wahanol yn cael eu cynnwys mewn datganiadau yn y dyfodol yn sgil peidio â thalgrynnu a defnyddio prosesau ystadegol pellach. Gan ein bod ni’n talgrynnu’r holl ffigurau yn unigol, mae’n bosib na fydd cyfanswm y tablau yn cyfrifo’n union. Cyfrifwyd y cyfraddau trosglwyddo ar sail niferoedd wedi eu talgrynnu.

Mae cwestiynau’r cyfrifiad am sgiliau Cymraeg wedi'u seilio ar hunanasesiad unigolyn o’u gallu. Mewn rhai achosion, yn enwedig mewn perthynas â phlant, unigolyn arall oedd yn cofnodi eu sgiliau Cymraeg, er enghraifft, rhiant neu warchodwr.

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), ar 21 Mawrth 2021. Roedd hyn yn dilyn cyfnodau clo a chyfnodau dysgu o bell i blant, ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid ydym yn gwybod sut effeithiodd y pandemig ar y ffordd roedd pobl yn adrodd am eu sgiliau Cymraeg neu ar eu canfyddiadau o sgiliau Cymraeg pobl eraill. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ansawdd data am yr iaith Gymraeg o Gyfrifiad 2021 yn ein bwletin ystadegol cyntaf ar y Gymraeg yng Nghymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Cian Siôn
E-bost: DataIaithGymraeg@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol