O fis Ebrill 2019 ymlaen bydd Llywodraeth Cymru yn gallu amrywio’r cyfraddau Treth Incwm sy'n cael eu talu gan drethdalwyr Cymru.
Cynnwys
Sut mae’ch treth yn cael ei chasglu
Ym mis Ebrill 2019, gostyngodd Llywodraeth y DU y 3 cyfradd Treth Incwm sy’n cael eu talu gan drethdalwyr Cymru fel y dangosir yn y diagram isod. Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar gyfraddau treth incwm Cymru sy'n cael eu hychwanegu at gyfraddau gostyngol y DU. Gall ddewis amrywio'r cyfraddau hyn neu eu cadw’r un fath â'r rhai y mae trethdalwyr Lloegr a Gogledd Iwerddon yn eu talu.
Y cyfraddau
Mae Senedd Cymru wedi cytuno ar gyfraddau arfaethedig y dreth incwm yng Nghymru ar gyfer 2023 i 2024, sy'n golygu na fydd unrhyw newid i gyfraddau treth incwm cyffredinol trethdalwyr Cymru.
Sut mae’ch treth yn cael ei chasglu
Mae Treth Incwm gan drethdalwyr Cymru yn cael ei chasglu gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM).
Mae’r swm o arian y gall pobl ei ennill cyn dechrau talu treth (eu lwfans personol) yr un fath ag ar gyfer gweddill y DU. Gall swm y lwfans personol amrywio, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.
Mae 3 band treth: sylfaenol, uwch ac ychwanegol. Mae'r pwynt lle mae pobl yn dechrau talu'r cyfraddau Treth Incwm uwch ac ychwanegol yr un fath ag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Llywodraeth y DU fydd yn dal yn gyfrifol am drethu’r incwm o gynilion a difidendau.
Sut mae eich treth yn cael ei gwario
Sut mae hyn yn effeithio arna i?
Os ydych yn byw yng Nghymru bydd y newidiadau i gyfraddau’r dreth incwm yng Nghymru yn effeithio arnoch chi.
I gael rhagor o wybodaeth gweler y ddiffiniad cyfreithiol o drethdalwr Cymreig (Saesneg yn unig).