Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar holl ffermwyr Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy blannu coed wrth i gyfraddau talu uwch ar gyfer creu coetir gael eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Mai 25).
Cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, y bydd cyfraddau talu yn cael eu codi i dalu 100% o gostau gwirioneddol 2023 fel rhan o ymgyrch Cymru i blannu 86 miliwn o goed erbyn diwedd y degawd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
“Rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd a choed yw ein hachubiaeth. Drwy blannu coed mae’n cael gwared ar nwyon tŷ gwydr o’n hatmosffer drwy storio carbon.
“Yn gynharach eleni, siaradom â’r sectorau ffermio a choedwigaeth i ddeall yn well yr hyn sy’n rhwystro ffermwyr rhag creu coetir.
“Roedd cyfraddau talu yn broblem; gwrandawon ni ac rydym yn falch iawn o gadarnhau cynnydd sylweddol heddiw – byddwn yn cadw llygad ar y cyfraddau o hyn ymlaen, yn enwedig tra bo chwyddiant yn parhau’n uchel.”
Ychwanegodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru:
“Rydyn ni am weithio gyda ffermwyr ar yr egwyddor ‘y goeden gywir yn y man cywir’.
“Gall plannu coed hefyd ddod yn ased dros amser – gan ddarparu cysgod i dda byw neu incwm o’r pren.
“Mae cyllid ar gael nawr a dylai’r cyfraddau uwch ei wneud yn gynnig mwy deniadol i ffermwyr.
“Byddem yn annog ffermwyr ar draws Cymru i fanteisio ar y cymorth nawr, a hynny o ran cyllid a chyfarwyddyd, fel ein bod i gyd yn gallu chwarae ein rhan i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, a helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant.”
Gallwch ddarllen rhagor a darganfod sut i ymgeisio yma: Grantiau coedwigaeth | LLYW.CYMRU