Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Cyflwyniad

Rhif: WG49928

ISBN 978-1-83625-216-0

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i estyn y cyfnodau ad-dalu ac eithrio o dair blynedd ar gyfer cyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir, o dan amgylchiadau penodedig, ac ymateb Llywodraeth Cymru.

Y camau nesaf

Caiff yr offeryn statudol drafft, sef testun yr ymgynghoriad hwn, ei osod gerbron y Senedd ar 18 Mehefin 2024.

Camau i'w cymryd

Mae'r ddogfen hon er gwybodaeth yn unig.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth:

Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Dreth Trafodiadau Tir

Yr Is-adran Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol
Trysorlys Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Copïau ychwanegol

Ar ffurf electronig yn unig y caiff y crynodeb hwn o ymatebion a chopïau o'r holl ddogfennaeth ymgynghori eu cyhoeddi, a gellir eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

2. Diben yr ymgynghoriad

2.1 Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i estyn y cyfnodau ad-dalu ac eithrio o dair blynedd ar gyfer cyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir, o dan amgylchiadau penodedig, ac ymateb Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru. Cynigir y dylid estyn y cyfnodau ad-dalu ac eithrio o dair blynedd i drethdalwyr ar gyfer y dreth trafodiadau tir, pan gaiff gwerthiant perthnasol ei atal ac, felly, ei ohirio gan gyfyngiadau brys, a/neu pan gaiff gwerthiant prif gyn breswylfa ei rwystro ac, felly, ei ohirio gan faterion sy'n ymwneud â diffygion diogelwch tân.

2.2 Roedd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 19 Rhagfyr 2023 a 17 Mawrth 2024. Mae'r dogfennau ymgynghori ar gael yma:

Cyfraddau Preswyl Uwch y Dreth Trafodiadau Tir: cynnig i newid y rheolau ynglyn ag ad-dalu ac eithrio

3. Y broses ymgynghori

3.1 Nid oedd unrhyw ddyletswydd statudol penodol i ymgynghori ar y materion a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn dewis ymgynghori ag aelodau o'r cyhoedd er mwyn ceisio eu barn ar fanteision ac effeithiau posibl y rheolau newydd arfaethedig. Mae egwyddorion treth Llywodraeth Cymru yn amlinellu'r dull o ddatblygu trethi datganoledig a'u rhoi ar waith, gan nodi y dylai trethi Cymreig godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl; cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru; bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml; cael eu datblygu drwy gydweithio a chynnwys pobl; a chyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru sy'n fwy cyfartal.

3.2 Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad yn Gymraeg a Saesneg ar dudalen we ymgynghoriad Llywodraeth Cymru. Gallai'r ymatebwyr gyflwyno eu safbwyntiau a'u sylwadau yn Gymraeg neu yn Saesneg, drwy'r post (copi caled), drwy e-bost neu gan ddefnyddio ffurflen ymateb ar-lein. Cynhaliwyd trafodaethau â rhanddeiliaid allweddol yn ystod y cyfnod ymgynghori.

3.3 Roedd y ddogfen ymgynghori yn cynnwys fersiynau drafft o'r offeryn statudol a Memorandwm Esboniadol y cynigiodd Llywodraeth Cymru y dylid eu gosod gerbron y Senedd maes o law.

3.4 Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn 15 o gwestiynau o dan y saith pennawd canlynol:

  1. Trosolwg o'r hyn y bydd y rheolau newydd yn ei wneud
  2. Y driniaeth wahanol yn y rheolau newydd ar gyfer trafodiadau yn ôl y rhwystr penodol a wynebwyd
  3. Meini prawf gwahanol ar gyfer senario gwerthu cyn prynu a senario prynu cyn gwerthu yn y rheolau newydd arfaethedig
  4. Manteision a Chostau
  5. Effeithiau'r ddeddfwriaeth newydd ar y Gymraeg
  6. A oes modd llunio neu newid y ddeddfwriaeth newydd, gan roi sylw penodol i'r Gymraeg
  7. Sylwadau eraill

3.5 Gwahoddodd Llywodraeth Cymru atebion i'r cwestiynau penodol hyn yn arbennig, a chroesawodd hefyd bob sylw arall ynghylch y cynigion. At y diben hwnnw, roedd lle ar gael ar y ffurflenni ymateb i'r ymatebwyr wneud sylwadau ychwanegol ac, yng nghwestiwn saith yr ymgynghoriad, gwahoddwyd ymatebwyr i godi unrhyw faterion cysylltiedig nad ymdriniwyd â nhw yn benodol mewn man arall a gwneud sylwadau ar yr offeryn statudol drafft.

4. Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad

4.1 Cafwyd 15 o ymatebion i'r ymgynghoriad, 11 gan unigolion, tri gan sefydliadau (gan gynnwys un ymateb ar y cyd gan ddau sefydliad) ac un na nododd a oedd yn ymateb gan unigolyn neu sefydliad.

4.2  Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r atebion i gwestiynau'r ymgynghoriad a'r pwyntiau a godwyd yn adrannau sylwadau ychwanegol y ffurflen ymateb ac mewn mannau eraill. (Nodwch, wrth ystyried y dadansoddiad rhifol o atebion a nodir isod, na chafodd rhai cwestiynau eu hateb gan bob ymatebydd.)

4.3 Cwestiynau adran un: Trosolwg o'r hyn y bydd y rheolau newydd yn ei wneud

Cwestiwn 1.1 yr Ymgynghoriad “Yn gyffredinol, ydych chi'n cytuno y dylid newid y gyfraith i gynnig cymorth ychwanegol i drethdalwyr cymwys?”

Ymatebion unigol*
Cytuno'n gryf11
Cytuno1

* mae'r term ‘unigol’ yma, ac mewn tablau tebyg yn yr adran hon o'r adroddiad cryno, yn dynodi'r categori sy'n cynnwys ymatebion gan unigolion ac un ymateb a gafwyd na nodwyd ei fod wedi'i gyflwyno gan unigolyn neu sefydliad.

Cwestiwn 1.2 yr Ymgynghoriad “Yn gyffredinol, ydych chi'n credu y bydd y mesur hwn yn cael, neu o bosibl yn cael, effaith gadarnhaol, effaith negyddol, neu ddim effaith arnoch chi, neu ar y rhai rydych chi'n eu cynghori?”

Ymatebion unigol
Effaith gadarnhaol11
Dim effaith1

Roedd yr ymatebion a gafwyd gan ymatebwyr unigol i gwestiynau 1.1.ac 1.2, o ran ymatebion ticio blwch a sylwadau ychwanegol, yn dangos cefnogaeth i'r cynnig.

Roedd y sefydliadau cynrychioliadol a ymatebodd hefyd o'r farn y byddai'r rheolau newydd yn fuddiol ac y byddent yn cael effaith gadarnhaol. Gwnaeth un ymateb bwyntiau gwerthfawr ynghylch pwysigrwydd egluro mai dim ond ar ôl i'r rheolau newydd hynny ddod i rym y byddai rheolau sy'n ymwneud â chyfyngiadau a osodwyd ar y farchnad dai yn gymwys.

Croesawyd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu ar ôl gweithredu.

4.3.1 Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r mesurau newydd o leiaf unwaith y flwyddyn a bydd yn cofnodi'r canlyniadau yn yr Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru a gyhoeddir yn y Gyllideb Ddrafft.

Lle y bo'n bosibl, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio adrodd ar y defnydd a wneir o'r rheolau newydd a pha mor ddefnyddiol ydynt. Mae cyhoeddi gwybodaeth am dreth a threthdalwyr yn cael ei lywio'n rhannol gan ystyriaethau cyfrinachedd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth ystyried nifer bach o drafodiadau cysylltiedig, megis y rhai a allai gael budd o'r estyniadau i'r cyfnodau ad-dalu ac eithrio, oherwydd, am eu bod yn nifer cymharol fach, mae'n bosibl y byddai'n haws eu hadnabod.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai ei dull o ddiffinio meini prawf cymhwysedd yn fanwl yn y rheolau newydd, er ei fod yn rhoi eglurder i drethdalwyr, hefyd gael ei ystyried yn anhyblyg, o gymharu â rheol ‘amgylchiadau eithriadol’ Treth Dir y Dreth Stamp sy'n cael ei defnyddio yn Lloegr. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw, os nodir sefyllfaoedd yn y dyfodol y cred Llywodraeth Cymru eu bod yn haeddu rheolau arbennig, y caiff diwygiadau pellach eu hystyried.

4.4 Cwestiynau adran dau: y driniaeth wahanol yn y rheolau newydd ar gyfer trafodiadau yn ôl y rhwystr penodol a wynebwyd

Cwestiwn 2.1 yr Ymgynghoriad “Ydych chi'n cytuno y dylid trin trafodiadau sy'n cael eu rhwystro gan ddiffygion diogelwch tân fel hyn?”

Ymatebion unigol
Cytuno'n gryf11
Cytuno1
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno1

Roedd y sefydliadau cynrychioliadol a ymatebodd yn cytuno â'r agwedd hon ar y cynnig.

Cwestiwn 2.2 yr Ymgynghoriad “Ydych chi'n cytuno y dylid trin trafodiadau sy'n cael eu hatal gan gyfyngiadau brys a osodwyd gan y llywodraeth fel hyn?”

Ymatebion unigol
Cytuno'n gryf11
Cytuno1

O blith y pedwar sefydliad cynrychioliadol a ymatebodd, roedd tri yn cytuno â chynnig Llywodraeth Cymru ac roedd un yn anghytuno. Roedd rhai ymatebwyr unigol, ac un o'r sefydliadau, a ymatebodd o'r farn y dylid estyn y cyfnodau ad-dalu ac eithrio i gefnogi hefyd drethdalwyr y mae cyfyngiadau a osodwyd ar y farchnad dai yn ystod pandemig COVID-19 wedi effeithio arnynt.

Cwestiwn 2.3 yr Ymgynghoriad “Ydych chi'n credu y bydd yr agwedd hon ar y ddeddfwriaeth newydd yn cael, neu o bosibl yn cael, effaith gadarnhaol, effaith negyddol, neu ddim effaith arnoch chi, neu ar y rhai rydych chi'n eu cynghori?”

Ymatebion unigol
Effaith gadarnhaol9
Dim effaith2

Roedd y sylwadau yn adlewyrchu rhywfaint o wahaniaeth barn ynghylch y dull arfaethedig o drin trafodiadau y mae cyfygniadau a osodwyd yn ystod pandemig COVID-19 wedi effeithio arnynt ond, ar y cyfan, roeddent yn credu y byddai'r cynnig yn cael effaith gadarnhaol.

4.4.1 Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â newid y cynigion i ddarparu rheolau eithrio ac ad-dalu mewn perthynas â chyfyngiadau brys a oedd ar waith yn y gorffennol, gan gynnwys cyfnodau'r cyfyngiadau symud yn ystod pandemig COVID-19. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai hwn yw'r ymateb mwyaf cymesur.

Daeth y dreth trafodiadau tir, gan gynnwys rheolau ad-dalu ac eithrio’r cyfraddau preswyl uwch, i rym yng Nghymru ar 1 Ebrill 2018. Roedd y farchnad dai yng Nghymru ar gau, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, oherwydd cyfyngiadau COVID-19 rhwng 23 Mawrth a 27 Gorffennaf 2020. Felly, roedd cyfnod cymhwysedd o bron i ddwy flynedd (rhwng 1 Ebrill 2018 a 23 Mawrth 2020) cyn i'r marchnadoedd gael eu cau, ac wyth mis neu fwy (o 27 Gorffennaf 2020) ar ôl iddynt ailagor, ar gael i drethdalwyr a oedd yn awyddus i elwa ar reolau ad-dalu a/neu eithrio'r cyfraddau preswyl uwch. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn, er bod bwlch yn y cyfnod cymhwysedd yn achos rhai trethdalwyr, ei fod yn gyfnod digonol serch hynny.

Byddai deddfu i gynyddu'r cyfnod hwnnw ar gyfer y rhai y mae'r bwlch wedi effeithio arnynt yn cyflwyno cymhlethdod a fyddai'n anghymesur â'r fantais ddisgwyliedig.

Nododd un ymateb i'r ymgynghoriad, mewn achosion sy'n ymwneud â diffygion diogelwch tân, y dylid capio'r estyniad ar bum mlynedd. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn, er y gallai pum mlynedd gael eu hystyried yn gyfnod digonol mewn llawer o achosion yn y pen draw, fod ansicrwydd ynghylch gwaith unioni, a'r tebygolrwydd y caiff camau unioni eu cymryd yn unol ag amserlenni amrywiol, mai'r dull mwy hyblyg o beidio â gosod cap â therfyn amser yw'r un gorau Mae cyfnod amhenodol yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol os bydd materion cysylltiedig yn codi yn y dyfodol.

4.5 Cwestiynau adran tri – meini prawf gwahanol ar gyfer senario gwerthu cyn prynu a senario prynu cyn gwerthu yn y rheolau newydd arfaethedig

Cwestiwn 3.1 yr Ymgynghoriad “Ydych chi'n cytuno y dylai'r ddeddfwriaeth newydd wahaniaethu rhwng senario gwerthu cyn prynu a senario prynu cyn gwerthu?”

Ymatebion unigol
Cytuno'n gryf7
Cytuno2
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno2
Anghytuno'n gryf1

Cwestiwn 3.2 yr Ymgynghoriad “Ydych chi'n credu y bydd yr agwedd hon ar y ddeddfwriaeth newydd yn cael, neu o bosibl yn cael, effaith gadarnhaol, effaith negyddol, neu ddim effaith arnoch chi, neu ar y rhai rydych chi'n eu cynghori?”

Ymatebion unigol
Effaith gadarnhaol7
Dim effaith3

Roedd yr ymatebion i gwestiynau 3.1 a 3.2 yn gefnogol ar y cyfan. Fodd bynnag, roedd un ymatebydd unigol ac un o'r pedwar sefydliad cynrychioliadol o'r farn nad oedd angen gwahaniaethu rhwng gwerthu cyn prynu a phrynu cyn gwerthu.

4.5.1 Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai'r rheolau newydd wahaniaethu rhwng gwerthu cyn prynu a phrynu cyn gwerthu.

Fel y nodir yn yr ymgynghoriad, mae gwahaniaeth allweddol rhwng gwerthu cyn prynu a phrynu cyn gwerthu. Mewn trafodiadau prynu cyn gwerthu, mae trethdalwyr yn caffael unig neu brif breswylfa newydd cyn iddynt werthu unig neu brif gyn breswylfa. Felly, mewn sefyllfaoedd prynu cyn gwerthu, gall diffygion diogelwch tân a/neu gyfyngiadau brys (yn y dyfodol) effeithio ar werthiant unig neu brif gyn breswylfa (sydd ei angen er mwyn hawlio ad-daliad am gyfraddau preswyl uwch yn llwyddiannus.

Fodd bynnag, mewn senario gwerthu cyn prynu, nid oes rhaid i drethdalwr sy'n ceisio prynu unig neu brif breswylfa newydd, brynu eiddo y mae diffygion diogelwch tân wedi effeithio arno er mwyn canfod unig neu brif breswylfa newydd o fewn tair blynedd i werthu unig neu brif gyn breswylfa. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gallai trethdalwr mewn sefyllfa gwerthu cyn prynu ei gael ei hun mewn contract i brynu preswylfa a chanfod y gallai cyfyngiadau brys beri oedi i'r trafodiad cyn i'w gyfnod o dair blynedd ddod i ben.

4.6 Cwestiynau adran pedwar: manteision a chostau

Cwestiwn 4.1 yr Ymgynghoriad “Ydych chi'n cytuno y bydd y rheoliadau newydd yn cynnig manteision i drethdalwyr?”

Ymatebion unigol
Cytuno'n gryf10
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno2

Cwestiwn 4.2 yr Ymgynghoriad “Ydych chi'n cytuno y bydd y rheoliadau newydd yn cynyddu costau ichi?”

Individual responses
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno2
Anghytuno5
Anghytuno'n gryf5

Cwestiwn 4.3 yr Ymgynghoriad “Ydych chi'n cytuno y bydd manteision y rheoliadau newydd yn cyfiawnhau'r costau ichi?”

Ymatebion unigol
Cytuno'n gryf6
Cytuno2
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno3

Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr o'r farn y byddai'r mesurau arfaethedig yn fuddiol ac y byddai'r budd yn cyfiawnhau'r gost. Fodd bynnag, nododd un o'r pedwar sefydliad cynrychioliadol a ymatebodd, mewn rhai achosion, y gallai'r rheoliadau newydd arafu trafodiadau tai ac, wedyn, arwain at gostau ychwanegol gan y gallai gymryd mwy o amser i gwblhau trafodiadau.

4.6.1 Ymateb Llywodraeth Cymru

Noda Llywodraeth Cymru y pryder a fynegwyd gan un sefydliad cynrychioliadol y gallai rhai trafodiadau fod yn fwy costus ac yn arafach oherwydd y rheolaui newydd. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn ystyried sut y gellir rhoi'r newidiadau ar waith mewn ffordd a fydd yn sicrhau, o leiaf, na chaiff costau na'r amser a gymerir i gwblhau trafodiadau eu cynyddu gan y rheolau newydd.

4.7 Cwestiynau yn adrannau pump a chwech: yr effaith ar y Gymraeg

Cwestiwn 5 yr Ymgynghoriad “. Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y ddeddfwriaeth newydd ar y Gymraeg?” 
Cwestiwn 5.1 yr Ymgynghoriad “Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?”

Ymatebion unigol
Oes5
Nac oes7

Cwestiwn 5.2 yr Ymgynghoriad “Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?”

Ymatebion unigol
Oes7
Nac oes5

Cwestiwn 6.1 yr Ymgynghoriad “Yn eich barn chi, a oes modd llunio neu newid y ddeddfwriaeth newydd er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â'i thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg?”

Ymatebion unigol
Oes1
Nac oes11

Cwestiwn 6.2 yr Ymgynghoriad “Yn eich barn chi, a oes modd llunio neu newid y ddeddfwriaeth newydd er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â'i thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg?”

Ymatebion unigol
Oes2
Nac oes10

Ochr yn ochr â'r ymatebion ticio blwch, nododd sylwadau ychwanegol a wnaed gan ymatebwyr unigol, ac ymatebion sefydliadau, na fyddai'r cynigion yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg, ac nad oedd unrhyw gyfleoedd penodol i'r gynigion hyrwyddo'r Gymraeg.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'n llawn ac yn annog y defnydd o'r Gymraeg.  Darperir deddfwriaeth a dogfennau ategol dwyieithog mewn perthynas â'r newidiadau hyn i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn darparu canllawiau dwyieithog a gall trethdalwyr drafod eu materion treth a gohebu yn eu cylch yn Gymraeg neu yn Saesneg.

4.8 Cwestiwn adran saith: sylwadau eraill

Cwestiwn 7 yr Ymgynghoriad. “Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw yn benodol, defnyddiwch y gwagle isod i roi gwybod amdanynt, gan gynnwys unrhyw sylw penodol ar yr Offeryn Statudol drafft.”

Pwysleisiodd ymatebion i'r cwestiwn hwn bwysigrwydd canllawiau hygyrch ac awdurdodol i weithwyr proffesiynol a threthdalwyr ac y dylai canllawiau gyfeirio at y diffiniadau a ddefnyddir yn y rheolau newydd ac esbonio sut y dylid cyflwyno hawliadau. Roedd yr ymatebion hefyd yn cynnwys awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid gwella'r offeryn statudol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i'r ymatebwyr am y nifer mawr o bwynitau pwysig a defnyddiol a wnaed, mewn ymateb i'r cwestiwn hwn a'r cwestiynau eraill a ofynnwyd yn yr ymgynghoriad. Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr holl ymatebion yn ofalus. 

Bydd canllawiau wedi'u diweddaru gan Awdurdod Cyllid Cymru ar gael o'r adeg y daw'r rheolau newydd i rym.

Ar ôl ystyried awgrymiadau ar gyfer gwella'r offeryn statudol, ynghyd â'r holl ymatebion i'r cwestiynau a ofynnwyd yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys y gefnogaeth sylweddol a fynegwyd, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod yr offeryn statudol drafft a gyhoeddwyd ar adeg yr ymgynghoriad cyhoeddus (rhwng 19 Rhagfyr 2023 a 17 Mawrth 2024) yn briodol i'w osod gerbron y Senedd heb ei ddiwygio'n sylweddol.

Ers yr ymgynghoriad, mae mân newidiadau wedi'u gwneud i'r OS drafft a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori arno, i fynd i'r afael â gwallau teipograffyddol a gwallau drafftio eraill.

Mae’r Rheoliadau drafft a’r Memorandwm Esboniadol a osodywd gebron y Senedd ar gael yma:

Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024

Memorandwm Esboniadol ar gyfer Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024

Mae’r Asesiad Effaith Integredig, a gynhyrchwyd yn dilyn yr ymgynghoriad, ar gael yma:

Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024: asesiad effaith integredig

5. Y camau nesaf

5.1 Bydd yr offeryn statudol drafft, sef testun yr ymgynghoriad hwn, yn cael ei osod gerbron y Senedd ar 18 Mehefin 2024.

5.2 Caiff aelodau'r Senedd gyfle i drafod yr offeryn statudol drafft mewn sesiwn lawn ac, yna, gofynnir iddynt gymeradwyo ei wneud.

6. Manylion yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad

Mae'r tabl canlynol yn nodi nifer yr ymatebion fesul categori, yn ôl y categorïau a gynigiwyd ar y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad.

Categori’r ymatebyddNifer yr ymatebwyr

Corff Proffesiynol / Grŵp â Buddiant:

  • Y Sefydliad Siartredig Trethiant a'r Grŵp Ymarferwyr Trethi Stamp (ymateb ar y cyd)
  • Cymdeithas y Technegwyr Trethiant
  • Propertymark
3
Unigolion – Ymateb yn breifat11
Ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth1

Gweler y ddogfen ymgynghori yma:

Cyfraddau Preswyl Uwch y Dreth Trafodiadau Tir: cynnig i newid y rheolau ynglyn ag ad-dalu ac eithrio