Cyfraddau cymorth myfyrwyr ôl-raddedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 (SFWIN 03/2025)
Mae’r hysbysiad gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru hwn yn disgrifio’r cyfraddau cymorth myfyrwyr i ôl-raddedigion.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Gall y cyfraddau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r cyfraddau hyn yn destun rheoliadau sydd wrthi’n cael eu llunio. Os bydd gwahaniaeth rhwng y rheoliadau a’r ddogfen hon, y rheoliadau sy’n drech.
Cymorth i fyfyrwyr ar gyrsiau ôl-raddedig
Cwrs meistr
Gall myfyrwyr cymwys fod â hawl i dderbyn benthyciad, fel cyfraniad at gostau, os ydynt yn astudio cwrs gradd meistr ôl-raddedig dynodedig. Nid yw cyfanswm y cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar brawf modd ac mae’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’r myfyriwr.
Mae'r cymorth sydd ar gael ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025 yn fenthyciad o hyd at £19,255, dros gyfnod y cwrs.
Gall cyrsiau fod yn rhai llawn amser neu’n rhan-amser a rhwng un a tair blynedd o hyd. Mae taliadau’n cael eu gwneud mewn cyfrannau ar draws nifer y blynyddoedd yn y cwrs meistr
Mae uchafswm y cymorth sy'n daladwy mewn unrhyw un flwyddyn academaidd yn dibynnu ar hyd y cwrs. Pan fydd y cwrs yn para un flwyddyn, gall myfyrwyr cymwys gael yr swm cyfan. Pan fydd hyd y cwrs yn hirach, rhennir y swm yn gyfartal ar draws blynyddoedd y cwrs.
Nid yw’r rhai sy’n derbyn mathau uniongyrchol eraill o gymorth y Llywodraeth ar gyfer costau cynhaliaeth a ffioedd, gan gynnwys unrhyw gyfraniadau cyflog neu ffioedd a ddarperir gan y GIG neu wasanaethau gofal cymdeithasol at ddibenion astudiaeth Meistr, yn gymwys.
Bydd y trefniadau cyfredol yn parhau i fyfyrwyr ôl-raddedig parhaus a ddechreuodd eu cyrsiau ym mlwyddyn academaidd 2017 i 2018 neu 2018 i 2019.
Bydd cyrsiau a ddechreuodd ym mlwyddyn academaidd 2019 i 2020 neu’n hwyrach (h.y. ar neu ar ôl 1 Awst 2019) ond cyn 1 Awst 2025 yn gymwys i gael cymorth ar sail y cyfraddau sy’n berthnasol i’r flwyddyn academaidd y dechreuodd y cyrsiau (h.y. 2019 i 2020, 2020 i 2021, 2021 i 2022, 2022 i 2023, 2023 i 2024 neu 2024 i 2025).
Cyrsiau doethurol
Gall myfyrwyr cymwys fod â hawl i dderbyn benthyciad, fel cyfraniad at gostau, os ydynt yn astudio cwrs gradd doethurol ôl-raddedig dynodedig. Nid yw cyfanswm y cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar brawf modd ac mae’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’r myfyriwr.
Mae'r cymorth sydd ar gael ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025 yn fenthyciad o hyd at £29,130, fel cyfraniad at gostau, dros gyfnod y cwrs.
Gall cyrsiau fod yn rhai llawn amser neu’n rhan-amser a rhwng tair ac wyth mlynedd o hyd. Mae taliadau’n cael eu gwneud mewn cyfrannau ar draws nifer y blynyddoedd yn y rhaglen ddoethurol.
Mae uchafswm y cymorth sy'n daladwy mewn unrhyw flwyddyn academaidd wedi'i gapio ar 50 y cant, wedi'i dalgrynnu i lawr i'r £5 cyfan agosaf o gyfanswm y cymorth sef £29,130.
Nid yw’r rhai sy’n derbyn cyllid ysgoloriaeth gan unrhyw un o saith Cyngor Ymchwil y DU (boed yn llawn neu ffioedd yn unig) yn gymwys i dderbyn benthyciad. Nid yw’r rhai sy’n derbyn mathau uniongyrchol eraill o gymorth y Llywodraeth ar gyfer costau cynhaliaeth a ffioedd, yn cynnwys unrhyw gyfraniadau cyflog neu ffioedd a ddarperir gan y GIG neu wasanaethau gofal cymdeithasol at ddibenion astudiaeth ddoethurol, yn gymwys. Hefyd, nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd â Gradd Ddoethurol mewn Seicoleg Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd ac sy'n derbyn bwrsari yn gymwys.
Mae cyrsiau sy’n dechrau o flwyddyn academaidd 2018 i 2019 neu’n ddiweddarach (h.y. ar neu ar ôl 1 Awst 2018) ond cyn 1 Awst 2025 yn gymwys i gael cymorth ar sail y cyfraddau sy’n berthnasol i’r flwyddyn academaidd y dechreuodd y cyrsiau (h.y. 2019 i 2020, 2020 i 2021, 2021 i 2022, 2022 i 2023, 2023 i 2024 neu 2024 i 2025).
Grant Myfyrwyr Anabl
Gall myfyrwyr ôl-raddedig, sy'n astudio'n llawn-amser neu'n rhan-amser, fod yn gymwys i gael grant i’w cynorthwyo â gwariant ychwanegol a ysgwyddir o ganlyniad uniongyrchol i anabledd. Nid yw'n seiliedig ar brawf modd nac wedi'i raddio'n seiliedig ar ddwysedd yr astudio. Uchafswm y grant yn 2025 i 2026 fydd £34,000 ac mae'n cwmpasu'r meysydd gwariant canlynol:
- cynorthwyydd personol nad yw'n feddygol
- eitemau mawr o offer arbenigol
- gwariant arall sy'n gysylltiedig ag anabledd
Bydd lwfans teithio ar wahân sydd heb ei gapio hefyd ar gael i fyfyrwyr sy'n ysgwyddo costau teithio ychwanegol sy'n gysylltiedig ag astudio oherwydd anabledd.