Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y symiau a gasglwyd, ôl-ddyledion a symiau a ddilëwyd ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2024.

Prif bwyntiau

  • Yn 2023-24, casglwyd 96.0% o filiau'r dreth gyngor gan awdurdodau bilio, gostyngiad o 0.1 pwynt canran.
  • Bu cynnydd blwyddyn ar ôl blwyddyn yng nghyfraddau casglu 9 awdurdod yn 2023-24 a gostyngiad yn 13 awdurdod.
  • Cafwyd y gyfradd gasglu uchaf y flwyddyn hon yng Nghastell-nedd Port Talbot (97.9%) a’r gyfradd gasglu isaf ym Mlaenau Gwent (93.2%).
  • Yr union swm a gasglwyd o safbwynt biliau 2023-24, heb gynnwys cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, oedd £2,036 miliwn allan o’r £2,122 miliwn a oedd yn ddyledus.
  • Yn ystod 2023-24, casglwyd £42 miliwn o ôl-ddyledion o ran blynyddoedd blaenorol gan awdurdodau bilio, a chafodd gwerth £8 miliwn eu dileu fel dyledion drwg. 
  • Y cyfanswm a oedd yn ddyledus ar 31 Mawrth 2024 oedd £224 miliwn, gyda £85 miliwn o’r swm hwn yn ôl-ddyledion yn ystod y flwyddyn.

Adroddiadau

Cyfraddau casglu'r Dreth Gyngor: Ebrill 2023 i Fawrth 2024 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 423 KB

PDF
Saesneg yn unig
423 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Anthony Newby

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.