Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Chwefror 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 86 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Anfonwch eich safbwyntiau atom am y dull o weithredu y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu ei fabwysiadu mewn perthynas â gorfodi a'r cyfarwyddyd cysylltiedig.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn creu corff amgylcheddol unigol newydd o’r enw Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd yn rheoleiddiwr amgylcheddol a bydd ganddo bwerau i ymateb i droseddau (tramgwyddau) amgylcheddol.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â’r dull arfaethedig o weithredu mewn perthynas â’r polisi a’r cyfarwyddyd gorfodi ac erlyn. Nid ydym yn ymgynghori ynghylch a ddylai Cyfoeth Naturiol Cymru gael pwerau sancsiynau sifil. Cafodd hyn sylw mewn ymgynghoriad ym mis Awst 2012.
Polisi gorfodi ac erlyn
Mae’r Polisi Gorfodi ac Erlyn yn cynnwys yr holl droseddau y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn awdurdod gorfodi cyfrifol ar eu cyfer. Mae’r rhain yn cynnwys y troseddau hynny a oedd yn gyfrifoldeb yr awdurdodau gorfodi blaenorol:
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru
- y Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru
- Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru.
Cyfarwyddyd ar orfodi a sancsiynau
Mae’r Cyfarwyddyd ar Orfodi a Sancsiynau yn egluro sut bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud y canlynol:
- gweithredu’r polisi hwn
- gwneud penderfyniadau am ein hymatebion gorfodi i droseddau.
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 198 KB
Polisi gorfodi ac erlyn , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 193 KB
Canllawiau gorfodi a chosbi , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 511 KB
Enghreifftiau o dramgwyddau a'r opsiynau ar gyfer ein hymateb gorfodi , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 200 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Daeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn weithredol ym mis Ebrill 2013. Ceir gwybodaeth am bolisi’r gorfodi ac erlyn Cyfoeth Naturiol Cymru (dolen allanol) ar ei wefan.