Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi cadarnhau na fydd y Parth Atal Ffliw Adar yn cael ei ailgyflwyno ar ôl i gyfnod y Parth presennol ddod i ben ar 30 Ebrill.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu y bydd cyfnod y Parth Atal yn dod i ben yn sgil cyngor arbenigol oddi wrth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Fodd bynnag, bydd y gwaharddiad dros dro ar grynhoi rhai rhywogaethau o adar yn parhau tra bo tystiolaeth ychwanegol yn cael ei hystyried. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Fis Rhagfyr diwethaf, gwnes i ddatgan bod Cymru gyfan yn Barth Atal Ffliw Adar mewn ymateb i adroddiadau am achosion o Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI) (H5N8) ar draws Ewrop, Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol. Gwnaed hyn er mwyn bod yn rhagofalus a lleihau'r risg y byddai dofednod ac adar caeth eraill yn cael eu heintio gan adar gwyllt. 

"Rydym wedi bod yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa ac mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi bod yn paratoi ac yn diweddaru asesiadau risg er mwyn pwyso a mesur y risg o ran achosion o'r clefyd. Wrth gynnal yr asesiad risg milfeddygol diweddaraf, daeth i'r casgliad bod y risg y gallai adar dŵr gwyllt sy'n byw yma fod wedi'u heintio â H5N8 o hyd yn Isel i Ganolig a bod y risg y byddai ffermydd dofednod yn dod i gysylltiad â'r clefyd yn Isel, ond yn uwch ac y bydd yn dibynnu ar y mesurau bioddiogelwch ar bob fferm.  Mae'r lefel risg, felly, yr un peth ag ym mis Tachwedd 2016, pan welwyd achosion o'r clefyd hwnt ac yma ar draws Ewrop a phan gafwyd adroddiadau am achosion yn cael eu canfod mewn adar gwyllt o bryd i'r gilydd.

“Rwyf, felly, yn falch o gael cyhoeddi na fydd y Parth Atal Ffiw Adar yng Nghymru yn cael ei ailgyflwyno ar ôl i gyfnod y Parth presennol ddod i ben ar 30 Ebrill.

"Rwyf yn siŵr y bydd croeso mawr i'r newydd hwn ond mae'n bwysig cofio bod ffliw adar yn parhau'n fygythiad cyson a real iawn i'n dofednod ac i’n adar caeth eraill." 

Ychwanegodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:

“Hoffwn bwysleisio bod angen i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth domestig barhau i fod yn wyliadwrus a chadw llygad am arwyddion o'r clefyd a chysylltu â'u milfeddygon eu hunain os bydd ganddynt unrhyw bryderon. Os bydd unrhyw un yn amau bod adar yn dioddef o'r clefyd, dylai gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith.

“Mae'n hanfodol bod pawb sy'n cadw adar yn parhau i arfer mesurau bioddiogelwch effeithiol, a dylent ystyried cadw'r arferion bioddiogelwch llymach. Mae'r arferion hynny'n cynnwys ystyried a diweddaru'r ffurflenni hunanasesu, glanhau a diheintio (gan ddefnyddio diheintyddion cymeradwy) dillad, cyfarpar a cherbydau, a rhoi camau effeithiol ar waith i reoli plâu fel y bo cyn lleied o gyfleoedd â phosibl i adar domestig ac adar gwyllt a bywyd gwyllt ddod i gysylltiad â'i gilydd.

“Gall pob un ohonom chwarae rhan drwy gysylltu â llinell gymorth Prydain ar 03459 335577 i roi gwybod am unrhyw adar gwyllt marw. Dylem wneud hynny'n benodol yn achos unrhyw hwyaid gwyllt, gwyddau gwyllt, elyrch, gwylanod neu adar ysglyfaethus neu pan fo mwy na phum aderyn o unrhyw rywogaeth yn cael eu canfod yn farw yn yr un lle. Rhaid inni hefyd sicrhau ein bod yn cydymffurfio â mesurau bioddiogelwch y rheini sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill, ac yn parchu'r mesurau hyn.

“Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i atgoffa'r rheini sy'n cadw 50 neu fwy o ddofednod fod yn rhaid iddynt gofrestru eu heidiau ar y Gofrestr Ddofednod a byddwn yn annog pawb sy'n cadw dofednod, gan gynnwys y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi eu manylion i'r Gofrestr Ddofednod. Bydd hynny'n fodd i sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, drwy e-bost neu neges destun, os ceir achosion o ffliw adar, gan olygu y byddan nhw'n gallu diogelu eu haid cyn gynted â phosibl.

“Os yw dofednod neu adar caeth eraill yn cael mynd allan i'r awyr agored ar ôl bod dan do am amser hir, byddwn yn argymell yn gryf bod pawb sy'n eu cadw yn trafod yr effeithiau posibl ar eu hiechyd gyda'u milfeddyg preifat eu hunain."