Rydyn ni'n ceisio barn ar ddyfodol safle gwaith glo brig
Mae gan drigolion sy'n byw yn agos i'r gwaith glo brig a'r olchfa yn Onllwyn a Nant Helen ym mhen Cwm Dulais y cyfle i ddweud eu dweud am y cynlluniau i adeiladu cyfleuster profi rhyngwladol ar y safle.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys i ddatblygu cynigion ar gyfer Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd.
Byddai'n gweithredu fel ysgogydd ar gyfer arloesi, buddsoddi a thwf yn y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan gynorthwyo yn y gwaith o adfer y safle wrth i weithgareddau sy'n gysylltiedig â glo ddod i ben.
Mae cam cyntaf y briffio a'r ymarfer trafod yn agor heddiw (2 Gorffennaf) ac yn cau ar 7 Hydref. Mae'n hysbysu ymatebwyr y bydd y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn cael ei chyflawni drwy gyfuno tair elfen wahanol:
- Cylch cledrau trydan allanol, cyflymder uchel (6.9km) ar gyfer profi trenau teithwyr ar hyd at 110mya; yr unig gylch cledrau trydan mewnol, cyflymder isel yn Ewrop (4.5km) ar gyfer profi seilwaith ac offer, ac adeilad rheoli ar dir sy'n gysylltiedig â'r safe gwaith glo brig.
- Canolfan ymchwil a gweithrediadau ar dir sy'n gysylltiedig ar hyn o bryd â'r olchfa ar gyfer addysg, ymchwil a datblygu, swyddfeydd a chynadleddau, storio, gwaith cynnal a chadw a datgomisiynu trenau a cherbydau.
- Trac profi llinellol, cyflymder isel (555 metr) ac iddo system a weithredir â phwli mecanyddol ar gyfer profi seilwaith.
Byddai'r ganolfan yn sbardun ar gyfer buddsoddi yn y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru, gan ddarparu 'cyflymydd arloesi' modern ar gyfer ymchwil a datblygu, a chapasiti datblygu a phrofi yn y DU.
Byddai'r gwaith adeiladu ynddo'i hun yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol, gyda'r potensial i gyflogi 300 o weithwyr amser llawn yn ystod y cyfnod hwn.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae'r angen am y cyfleuster hwn wedi bod yn cael ei drafod ar draws y diwydiant rheilffyrdd ers o leiaf 15 mlynedd. Dyma'r cyfle gorau mae ein cenhedlaeth ni wedi'i gael i'w gyflawni. Bydd y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn cynnig amrywiaeth o wahanol rolau, a gallai gynnal dros 150 o swyddi pan fydd yn llawn weithredol. Gallen ni ragweld y bydd y safle'n un o ganolfannau'r DU ar gyfer cynnal hyfforddiant gweithrediadol mewn amgylchedd dynamig, i ffwrdd o'r rhwydwaith gweithredol, gan ddarparu cyfleoedd i bobl ennill y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer gyrfa yn y diwydiant rheilffyrdd.
"Bydd y cyfleusterau'n denu rhagor o weithgareddau ac ymwelwyr rheolaidd i'r ardal, wrth i academyddion, peirianwyr, contractwyr a thimau cymorth ddefnyddio'r safle ar gyfer gwahanol brosiectau, gan ddarparu hwb posibl i ddiwydiannau gwasanaethu lleol.
"Mae'n hanfodol ein bod yn cynyddu'r manteision economaidd cymaint ag y bo modd, wrth leihau'r effeithiau ar yr amgylchedd.
"Mae'n hanfodol ein bod yn trafod â'r cymunedau lleol o amgylch y safle'n gynnar, a dyna pam rydyn ni'n agor y cyfnod briffio a thrafod ynghylch y cynllun cychwynnol, gan gynnwys dau ddigwyddiad galw heibio yng Nghastell-nedd ac Aber-craf, a hoffwn i annog trigolion yn yr ardal i ddod a gofyn cwestiynau."
Ychwanegodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot:
Rydyn ni'n croesawu'r cynnydd sydd wedi cael ei wneud ar y prosiect cyffrous, a allai ddod â'r swyddi a'r buddsoddiadau sydd eu hangen yn fawr iawn i gymunedau ein cwm, yn ogystal â manteision ehangach. Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys, a byddwn ni'n cynnal trafodaethau llawn â'n cymunedau ynghylch y prosiect yn y ffordd mae'r Gweinidog wedi'i disgrifio".
Dywedodd y Cynghorydd Martin Weale, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros yr Economi a Chynllunio:
"Mae'r rhagolygon ar gyfer y ganolfan rhagoriaeth hon a'r posibiliadau y bydd yn dod â nhw o ran swyddi yn yr ardal a buddsoddi yn y diwydiant rheilffyrdd yn gyffrous iawn. Ar hyn o bryd mae profi'n cael ei gynnal yn Ewrop, felly mae hyn yn gyfle gwych i dyfu ein gweithlu ein hunain yng Nghymru, a dw i'n siŵr y bydd pobl leol yn croesawu'r cyfle i ddweud eu dweud."
I ddysgu mwy dewch i un o'n digwyddiadau galw heibio:
- 13:00 – 19:00 ar ddydd Mercher 17 Gorffennaf yn Neuadd Les Onllwyn, Wembley Avenue, Onllwyn, Castell-nedd SA10 9HL
- 13:00 – 19:00 ar ddydd Iau 18 Gorffennaf yn Sefydliad Lles y Glowyr Aber-craf, Tan yr Allt Road, Aber-craf SA9 1AX