Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ynghylch y rheolau cyfnod atal byr sy’n dod yn lle rheolau lleol a chenedlaethol blaenorol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyffredinol

Beth yw ystyr “cyfnod atal byr”?

Mae “cyfnod atal byr wedi’i gyflwyno ar draws Cymru i helpu i ddod ag achosion o’r coronafeirws o dan reolaeth unwaith eto. Golyga hyn y bydd cyfres o fesurau ar waith o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref tan 12:01am ddydd Llun 9 Tachwedd 2020.

Pam mae hyn yn digwydd?

Mae angen cymryd camau am bythefnos i achub bywydau ac atal y GIG rhag cael ei lethu.

Mae achosion o’r coronafeirws wedi bod yn cynyddu’n gyflym yng Nghymru wedi i’r feirws ddeffro ar gyfer y gaeaf. Er bod y mesurau cenedlaethol a lleol a roddwyd ar waith ar draws Cymru wedi helpu i reoli’r lledaeniad, mae cytundeb cynyddol bod angen camau ychwanegol erbyn hyn.

Rhwng 9 ac 15 Hydref, cofnodwyd 4,127 o achosion newydd o coronafeirws gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn seiliedig ar ganlyniadau profion positif, ond bydd y gwir lefel yn llawer iawn uwch. Mae nifer y bobl yn yr ysbyty gyda symptomau coronafeirws yn tyfu’n ddyddiol ac yn anffodus, mae’r un peth yn wir am y nifer o bobl sy’n marw gyda coronafeirws.

Mae’r rhif R erbyn hyn rhwng 1.1 ac 1.4, sy’n golygu bod twf cyflym iawn yn y nifer o achosion ac mae’r gyfradd achosion yng Nghymru dros gyfnod o saith diwrnod yn fwy na 130 o achosion am bob 100,000 o’r boblogaeth.

Pa gyfyngiadau sydd ar waith?

Mae 5 prif beth:

  • rhaid i bobl aros adref, ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn
  • ni chaiff pobl ymweld ag aelwydydd eraill na chwrdd â phobl eraill nad ydynt yn byw gyda nhw
  • rhaid i fusnesau a lleoliadau penodol, gan gynnwys bariau, bwytai a’r rhan fwyaf o siopau gau
  • caiff ysgolion uwchradd ddysgu ar-lein yn unig yn ystod yr wythnos ar ôl hanner tymor, ac eithrio ar gyfer plant ym mlynyddoedd saith ac wyth. Caiff ysgolion cynradd a lleoliadau gofal plant aros ar agor
  • mae gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn orfodol yn y lleoliadau cyhoeddus o dan do sydd ar agor (yn amodol ar rai eithriadau ac esemptiadau), gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis

Os byddwch yn torri’r cyfreithiau newydd hyn:

  • Efallai y gofynnir ichi fynd adref neu byddwch yn cael eich danfon adref.
  • Gallech orfod talu hysbysiad cosb benodedig o £60. Bydd hwn yn codi i £120 am yr ail drosedd,
  • Neu gellir cymryd camau troseddol yn eich erbyn. Ar ôl eich cael yn euog bydd rhaid ichi dalu dirwy.
  • Hyd yn oed lle y gellir caniatáu rhywbeth, gofynnwn ichi beidio â meddwl a yw’n cael ei ganiatáu, ond yn hytrach a yw'n wirioneddol angenrheidiol a synhwyrol. Diben y cyfnod atal byr hwn yw creu ymdrech genedlaethol ar y cyd i wneud popeth o fewn ein gallu i atal lledaeniad coronafeirws, ac mae pob cyfraniad unigol yn cyfrif.

Am ba hyd y bydd y mesurau hyn ar waith?

Bydd y mesurau hyn ar waith o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref tan ddechrau dydd Llun 9 Tachwedd 2020.

Beth fydd yn digwydd ar ôl dydd Llun 9 Tachwedd?

Ar ddiwedd y cyfnod atal byr, bydd set newydd o reolau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno, yn ymdrin â sut y caiff pobl gwrdd a sut y bydd y sector cyhoeddus a busnesau’n gweithredu.

Roedd fy ardal o dan gyfyngiadau lleol – a yw’r rhain yn dal yn berthnasol?

Nac ydynt – mae’r cyfnod atal byr yn berthnasol yn yr un modd i bob ardal ar draws Cymru.

Beth yw'r rheolau ynglŷn â gorchuddion wyneb?

Nid yw’r rheolau ar orchuddion wyneb yn newid yn ystod y cyfnod atal byr. Ewch i'n tudalen ar wahân ar gyfer cwestiynau am orchuddion wyneb.

Aros adref

Pryd caf i adael fy nghartref?

Dim ond at ddibenion cyfyngedig iawn y dylech adael eich cartref, sy’n cynnwys:

  • yr angen i gael cyflenwadau a gwasanaethau i chi neu’ch aelwyd, er enghraifft bwyd, meddyginiaeth, a phethau hanfodol ar gyfer cynnal a chadw yn yr aelwyd. Rydym yn annog pawb i sicrhau eu bod yn gwneud hyn mor anaml â phosibl
  • i ymarfer corff, ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch aelwyd. Rydym yn eich annog i wneud hyn yn lleol.
  • i gael gofal plant ac addysg
  • i gael gwasanaethau meddygol neu wasanaethau cyhoeddus eraill
  • i dalu arian i mewn i fanc neu sefydliad tebyg, neu i godi arian
  • i roi gofal neu i helpu person agored i niwed; mae hyn yn cynnwys nôl bwyd neu feddyginiaeth iddynt
  • i helpu’r GIG drwy roi gwaed
  • at ddibenion gwaith, neu at ddibenion gwirfoddol neu elusennol, ond dim ond pan nad yw’n ymarferol i wneud hyn gartref
  • i fynd i fynwent, claddfa neu ardd goffa i dalu teyrnged
  • i fynd i briodas, partneriaeth sifil neu angladd os ydych yn cael gwahoddiad
  • i fynd i’r llys neu i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol eraill
  • i ddianc rhag risg o salwch neu anaf, fel ar gyfer dioddefwyr camdriniaeth ddomestig neu bobl sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth ddomestig
  • i gael gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr trosedd neu gamdriniaeth ddomestig neu rai sydd mewn perygl uniongyrchol o ddioddef yn sgil y pethau hyn.

Pan fyddwch yn gadael eich cartref, dylech geisio treulio cyn lleied o amser â phosibl y tu allan i’ch cartref, a sicrhau eich bod yn cadw o leiaf 2 fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw, neu mewn “swigen” a ganiateir gyda nhw.

Beth os nad oes gen i gartref, neu os wyf yn byw mewn llety anaddas?

Dylai eich awdurdod lleol eich helpu i ddod o hyd i lety brys addas mewn a’ch helpu os nad oes gennych gartref neu os ydych yn byw mewn llety anaddas. Mae ganddynt gyllid i gynorthwyo gyda hyn.

Os oes angen cymorth arnoch, dylech gysylltu â’r tîm opsiynau tai yn eich ardal leol. Bydd eu manylion cyswllt ar wefan eich awdurdod lleol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Shelter Cymru i ddarparu cyngor a chymorth tai annibynnol. Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth pellach ar gael ar wefan Shelter Cymru.

A yw camau gwarchod yn cael eu cyflwyno eto?

Nid oes angen i bobl eithriadol o agored i niwed ddefnyddio mesurau gwarchod caeth yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r rheoliadau sydd ar waith yn gweithredu i leihau lledaeniad y feirws a thrwy gadw’n gaeth at y rheolau gall pobl agored i niwed leihau eu risg o ddal yr haint. Gellir lleihau’r risg ymhellach drwy wneud y canlynol:

  • dod i gysylltiad gyda chyn lleied o bobl â phosibl y tu allan i’r aelwyd ac osgoi pob sefyllfa o dan do neu yn yr awyr agored lle na ellir cadw pellter corfforol o 2m oddi wrth pobl nad ydynt yn byw yn eich aelwyd
  • siopa ar adegau tawelach o’r dydd a mynd unwaith yr wythnos yn hytrach nag unwaith y dydd, os na allwch wneud hyn ar-lein
  • golchi’ch dwylo yn rheolaidd am 20 eiliad gyda sebon a dŵr a defnyddio hylif diheintio dwylo os nad oes cyfleusterau golchi dwylo ar gael
  • gwisgo gorchudd wyneb pan fo hynny’n ofynnol
  • osgoi cyffwrdd arwynebau y mae eraill wedi’u cyffwrdd

Gweld pobl eraill

A gaf i gwrdd ag aelwyd arall?

Ar gyfer y rhan fwyaf o aelwydydd yr ateb fydd na chewch. Ni chewch gwrdd ag unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn fel rhoi neu dderbyn gofal (gweler yr ateb isod am gyfrifoldebau gofalu).

Os ydych yn oedolyn sy’n byw ar eich pen eich hun neu’n aelwyd un rhiant, cewch ffurfio aelwyd estynedig dros dro gydag un aelwyd arall. Bydd hyn yn eich galluogi i dreulio amser gyda phobl yn yr aelwyd honno fel pe baech yn byw gyda nhw.

A yw ffrindiau neu deulu o aelwyd arall yn cael dod i’m cartref?

Nac ydyn – gweler yr ateb uchod.

A oes rheolau ynglŷn â phwy y caf i gwrdd â nhw o dan do ac yn yr awyr agored?

Nac oes. Diben y cyfnod atal byr hwn yw lleihau pob cyswllt corfforol rhwng aelwydydd i’r lleiaf posibl, er mwyn gwneud popeth y gallwn i arafu lledaeniad coronafeirws.

A gaf i ffurfio aelwyd estynedig (neu swigen)?

Na chewch, ni chewch ffurfio aelwyd estynedig. Yr unig eithriad i hyn yw os ydych chi’n oedolyn sy’n byw ar eich pen eich hun neu’n aelwyd un rhiant. Yn yr achosion hyn cewch ffurfio aelwyd estynedig dros dro gydag un aelwyd arall.

A yw’r rheolau’n wahanol os wyf i’n byw mewn Tŷ Amlfeddiannaeth (HMO) neu dŷ â chymorth?

Nac ydynt. Os ydych chi’n oedolyn sengl neu’n aelwyd rhiant sengl yn y cartref a rennir (Tŷ Amlfeddiannaeth neu HMO) mae’r un rheolau’n berthnasol; cewch fod mewn aelwyd estynedig dros dro gydag un aelwyd arall o’r tu allan i’r cartref a rennir. Mae hyn hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n byw mewn tai amlfeddiannaeth a phobl mewn tai â chymorth lle mae gan bobl denantiaethau unigol.

Os ydych chi’n rhannu cyfleusterau fel ystafelloedd ymolchi neu geginau, dylech fod yn ymwybodol o’r risgiau cynyddol a chymryd camau pellach i leihau’r risg – gweler canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Rwy’n rhannu cyfrifoldeb rhieni am blentyn gyda rhywun nad yw’n byw gyda mi – a gaf i eu gweld nhw?

Os yw cyfrifoldeb rhieni’n cael ei rannu, caiff y trefniadau presennol barhau ac fe ganiateir i’r y plentyn symud rhwng y rhieni, ac felly rhwng aelwydydd y rhieni.

Mae gennyf gyfrifoldebau gofalu ar gyfer rhywun nad yw’n byw gyda mi – a gaf i ymweld â nhw?

Rydych yn cael helpu neu roi gofal i rywun sydd ei angen, fel person hŷn, plentyn neu oedolyn agored i niwed, hyd yn oed os nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd. Cewch hefyd ymweld â rhywun ar sail dosturiol os oes angen.

Wrth ystyried a oes angen ymweld â rhywun y tu allan i’ch aelwyd chi, yn enwedig o dan do, dylech gofio fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i adnabod y risgiau i ni ein hunain, ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymuned yn sgil y feirws.

Mae angen i bobl farnu drostynt eu hunain beth sy’n rhesymol, yn unol â’r egwyddor gyffredinol honno. Dylech gadw mewn cof mai diben y cyfyngiadau yw atal lledaeniad y feirws, gan gynnwys i’r bobl yr ydym yn gofalu amdanynt.

Beth ydych chi’n ei olygu wrth ‘sail dosturiol’?

Efallai fod gennych resymau tosturiol dros ymweld â rhywun o dan amgylchiadau eithriadol. Er enghraifft, efallai fod y person hwnnw'n cael trafferth gyda'r cyfyngiadau ar gwrdd ag eraill yn gyffredinol, yn dioddef o salwch corfforol neu feddyliol, wedi cael profedigaeth, neu eich bod yn pryderu am ei les yn gyffredinol.

Caniateir ymweliadau â lleoedd fel llety â chymorth, cartrefi plant, ysbytai neu gartrefi gofal mewn amgylchiadau eithriadol, os yw’r lleoliad perthasol yn caniatáu hynny. Ym mhob achos, mae’n rhaid i'r darparwr gwasanaeth sicrhau mesurau priodol o ran diogelwch a chadw pellter cymdeithasol cyn caniatáu ymweliadau. Dylech gysylltu â nhw cyn ichi deithio yno.

Rwy’n dibynnu ar fy nheulu estynedig a’m ffrindiau i ddarparu gofal plant pan fyddaf yn y gwaith. A ydynt yn cael gwneud hyn?

Ydyn, ond dim ond os nad oes unrhyw ofal plant arall ar gael y dylid caniatáu hyn. Ni ddylid gofalu am blant y tu allan i’w cartref os ydynt yn sâl, ac ni ddylai unrhyw un sy’n sâl ofalu amdanynt.

Rydw i’n byw ar fy mhen fy hun neu'n rydw i’n rhiant sengl, felly mae gen i hawl i greu aelwyd estynedig – a oes rhaid i hyn fod gydag aelwyd yn fy ardal leol?

Nid oes unrhyw reolau sy'n nodi bod rhaid i'ch aelwyd estynedig fod gyda rhywun yn ardal eich awdurdod lleol, nac o fewn unrhyw bellter penodol i'ch cartref. Nid oes unrhyw reolau chwaith sy’n rhwystro creu aelwydydd estynedig gydag aelwydydd y tu allan i Gymru, ac rydym yn cydnabod mai dyma yw’r dewis cywir ar gyfer pobl sy’n byw yn agos at y ffin, yn enwedig. 

Fodd bynnag, o gofio mai amcan cyffredinol y cyfnod atal byr yw lleihau'r cysylltiad rhwng pobl gymaint â phosibl, rydym yn argymell bod aelwydydd estynedig yn cael eu creu’n lleol lle bo modd. Yn benodol, rydym yn gofyn i bobl feddwl yn ofalus iawn am ddewisiadau eraill posibl cyn ffurfio aelwydydd estynedig a fyddai'n golygu teithio helaeth neu deithio i ardaloedd y tu allan i Gymru lle mae’r achosion o’r coronafeirws yn uchel iawn.
 

Ymarfer corff a gweithgareddau awyr agored

A gaf i adael fy nghartref i ymarfer corff?

Cewch. Mae ymarfer corff yn bwysig ar gyfer iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Cewch adael eich cartref mor aml ag yr hoffech i ymarfer corff cyn belled ag eich bod yn gwneud hynny gan gychwyn o’ch cartref, ac ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch aelwyd (a/neu ofalwr).

Pa fath o ymarfer corff a ganiateir?

Nid oes cyfyngiadau cyfreithiol ar hyn, ond yn ymarferol cyfyngir ar hyn gan gyfyngiadau eraill sydd wedi'u gosod megis cau canolfannau hamdden, campfeydd a phyllau nofio. Gan mai un o ddibenion y cyfyngiadau yw lleihau’r pwysau ar y GIG yng Nghymru, rydym hefyd yn gofyn i bobl osgoi gweithgareddau sy’n golygu cryn dipyn o risg (er enghraifft nofio neu ymarfer corff arall yn y môr, mewn llynnoedd, afonydd neu ddyfrffyrdd eraill).

A oes unrhyw gyfyngiadau ar ba mor bell y caf redeg neu feicio ar gyfer ymarfer corff?

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y pellter y gallwch ei deithio yn ystod ymarfer corff, er mai gorau oll eich bod yn aros yn agos at eich cartref. Dylai eich ymarfer ddechrau a gorffen o'ch cartref a dylech ymarfer ar eich pen eich hun neu gydag aelod o'ch cartref. 

A yw cerdded yn cyfrif fel ymarfer corff?

Ydy. Mae'r holl amser a dreulir yn yr awyr agored yn fuddiol, cyn belled ag y bydd pobl yn osgoi rhyngweithio â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw.

A gaf i ymarfer corff drwy fynd i bysgota neu farchogaeth ceffylau?

Nid yw hyn wedi’i wahardd yn benodol. Fodd bynnag, ni ddylech yrru i rywle i ymarfer corff ac nid yw'r angen i gario offer chwaraeon yn cael ei ystyried yn gyfiawnhad ar ei ben ei hun dros yrru o dan yr amgylchiadau hyn. Bydd hyn yn golygu'n ymarferol na all y rhan fwyaf o bobl wneud y pethau hyn am gyfnod byr yn ystod y cyfnod atal byr.

Mae'n rhaid i chi ymarfer corff ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o'ch aelwyd.

A gaf i chwarae tennis neu golff?

Rhaid i glybiau tennis a golff gau yn ystod y cyfnod atal byr, a chyrsiau golf a chyrtiau tennis hefyd.

A yw parciau ar agor?

Caniateir i barciau aros ar agor ar gyfer ymarfer corff yn yr awyr agored. Gallwch fynd i barciau gydag aelodau o'ch aelwyd ond rhaid ichi beidio â threfnu i gyfarfod ag aelwydydd eraill.

Ond bydd rhai rhannau o barciau fel cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio, meysydd bowlio a chyrsiau golff (gan gynnwys gweithgareddau fel pytio a golff byr) ar gau.

A yw meysydd chwarae plant ar agor?

Ydynt. Mae manteision chwarae yn yr awyr agored i blant yn sylweddol ac mae cadw parciau a meysydd chwarae ar agor yn cefnogi iechyd a lles meddyliol a chorfforol y plant. Mae llai o risg o drosglwyddo coronafeirws yn yr awyr agored.

Fodd bynnag, ni ellir dileu risg yn gyfan gwbl, ac anogir rhieni a gwarcheidwaid i sicrhau nad yw meysydd chwarae'n mynd yn rhy brysur, a chymryd cyfrifoldeb am gadw pellter cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer oedolion a phlant dros 11 oed. Yn benodol, rhaid i chi beidio â threfnu i gyfarfod ag aelwydydd eraill mewn meysydd chwarae ac ni ddylech gymdeithasu yno.

Rydym hefyd yn annog golchi dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio yn aml, peidio â bwyta nac yfed mewn parciau, glanhau offer gyda’ch cadachau eich hun, a sicrhau bod niferoedd isel o bobl yn y parc ac ar yr offer drwy gymryd eich tro neu ddefnyddio parciau ar adegau llai prysur.

Gaf i yrru i rywle er mwyn gwneud ymarfer corff?

Dylid gwneud ymarfer corff yn lleol – o’ch cartref neu mor agos â phosibl at y cartref. Yn gyffredinol mae hyn yn golygu na all pobl yrru i leoliad ymhell oddi cartref at y diben hwn. Ni ddylid teithio unrhyw bellter sylweddol, er enghraifft, dim ond er mwyn gwneud ymarfer corff yng nghefn gwlad neu mewn mannau prydferth.

Mae’n bosibl, fodd bynnag, y gallai fod angen i bobl sydd â chyflyrau iechyd neu symudedd penodol deithio o’u cartrefi er mwyn gallu gwneud ymarfer corff. Er enghraifft, efallai na fydd rhai defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu dechrau gwneud ymarfer corff yn union y tu allan i’w cartrefi am resymau mynediad ymarferol, ac efallai y bydd angen iddynt yrru i leoliad gwastad addas, fel parc, at y diben hwn. O dan yr amgylchiadau hyn dylai’r daith fod i’r lleoliad hygyrch cyfleus agosaf ac ni ddylid gwneud unrhyw siwrneiau hir oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol.

Nid yw'r angen i gario offer chwaraeon yn cael ei ystyried yn gyfiawnhad ar ei ben ei hun dros yrru o dan yr amgylchiadau hyn.

A gaf i wneud pethau eraill pan fyddaf allan yn ymarfer corff?

Cewch, cyn belled â'u bod hefyd yn cael eu caniatáu, ac nad ydynt yn golygu ymgynnull gyda phobl o aelwydydd eraill y tu allan i’r "swigen" a ganiateir. Ystyrir bod cyfuno gwneud ymarfer corff gyda mynd â’r ci am dro neu fynd i’r siop i brynu bwyd, er enghraifft, yn rhesymol.

Ni ddylid defnyddio gadael eich cartref i wneud ymarfer corff fel esgus i ymgymryd â gweithgaredd nad yw’n cael ei ganiatáu. Diben gadael y cartref yw i wneud ymarfer corff. Nid yw mynd am dro ac yna cael picnic neu dreulio cyfnod estynedig ar fainc yn y parc, er enghraifft, yn cael ei ystyried yn ymarfer corff ac ni fwriedir iddo fod yn esgus rhesymol.

A yw chwaraeon proffesiynol neu elît yn cael eu caniatáu?

Caniateir i chwaraewyr sy'n gweithio ac yn ennill bywoliaeth drwy chwaraeon i barhau i weithio ac fel pawb arall gallant adael eu cartref i wneud hynny os na allant weithio gartref. Fodd bynnag, mae’r rhaglen elît, a oruchwylir gan Chwaraeon Cymru, wedi’i hatal yn ystod y cyfnod atal byr hwn.

Mae'r digwyddiadau chwaraeon canlynol, nad ydynt yn rhai proffesiynol, hefyd wedi cael caniatâd i fynd rhagddynt (sy'n golygu y gall yr hyfforddi ar eu cyfer barhau hefyd):

  • Gêm bêl-droed Pencampwriaethau Ewropeaidd UEFA Cymru v Norwy ar 27 Hydref 
  • Gem rygbi’r 6 Gwlad menywod Cymru v Yr Alban ar 1 Tachwedd 
  • Gêm Cynghrair Pencampwyr UEFA sy'n cynnwys tîm pêl-droed menywod clwb Dinas Abertawe, sydd i'w chynnal ar 3 neu 4 Tachwedd

A fydd gemau chwaraeon proffesiynol, megis gemau rygbi rhyngwladol yr hydref neu gemau Pencampwriaeth EFL, yn cael parhau yn ystod y cyfnod hwn?

Byddant. Caniateir i gemau sy'n cynnwys chwaraewyr proffesiynol barhau y tu ôl i ddrysau caeedig. Bydd pawb sy’n cymryd rhan, fel chwaraewyr, swyddogion a darlledwyr yno fel rhan o’u gwaith.    

Gwaith

Beth yw'r rheolau ynghylch gweithio gartref?

Rhaid ichi weithio gartref os yw’n bosibl.

Fodd bynnag, gall pobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref, ond sy'n gallu gweithio'n ddiogel yn eu gweithleoedd, wneud hynny, ar yr amod bod eu gweithle yn parhau ar agor.

Ein canllawiau i gyflogwyr yw na ddylai gweithwyr gael eu rhoi o dan bwysau i ddychwelyd i weithle os nad oes angen busnes clir iddynt wneud hynny. Dylai cyflogwyr sy'n ystyried ei gwneud yn ofynnol i'w staff ddychwelyd i weithleoedd asesu'n gyntaf a allai trefniadau amgen ddiwallu'r rhan fwyaf o anghenion y cyflogwr. Dylid trafod hyn gyda staff neu gynrychiolwyr staff.

Alla i ddim gwneud fy ngwaith gartref – a gaf i ddal i fynd i'r gwaith?

Cewch. Caiff galwedigaethau fel adeiladu a gweithgynhyrchu barhau, ar yr amod bod rheolau eraill yn cael eu dilyn, er enghraifft cyflogwyr yn sicrhau bod pob mesur rhesymol yn cael ei gymryd i atal lledaeniad y coronafeirws.

A gaf i wneud gwaith adeiladu, trwsio neu gynnal a chadw yng nghartref rhywun?

Caiff gwaith yng nghartrefi pobl, er enghraifft gan weithwyr, barhau cyn belled â'i fod yn cael ei reoli mewn ffordd ddiogel a bod y gweithiwr ac aelodau'r cartref yn iach ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau coronafeirws. Fodd bynnag, rydym yn argymell y dylai pobl ystyried gohirio'r gwaith tan ar ôl cyfnod atal byr hwn, os yw’n ddiogel gwneud hynny.

Fel busnesau eraill, rhaid i bobl sy'n gweithio yng nghartref rhywun arall gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws wrth weithio yng nghartrefi pobl eraill. Gweler y canllawiau ar fesurau rhesymol ac ar weithio yng nghartrefi pobl eraill i gael rhagor o wybodaeth.Argymhellir hefyd na ddylai unrhyw waith gael ei wneud mewn cartref lle mae rhywun yn hunanynysu, heblaw i drwsio nam sy'n peri risg uniongyrchol i ddiogelwch pobl – er enghraifft, gwaith plymio brys neu wneud addasiad i alluogi’r preswylwyr i aros yn eu cartref. Os na ellir osgoi cael gweithwyr i’r tŷ (oherwydd sefyllfa frys neu argyfwng), dylid cymryd pob gofal ychwanegol i gadw’r gweithwyr ac aelodau’r cartref ar wahân yn llwyr. Mewn achosion o’r fath, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor i weithwyr ac aelwydydd. Ond ni ddylai unrhyw waith gael ei wneud gan weithiwr sydd â symptomau coronafeirws, waeth pa mor ysgafn ydyn nhw.

Rwyf i wedi dechrau gwaith adeiladu, trwsio neu gynnal a chadw yng nghartref rhywun – a gaf i orffen y gwaith?

Caiff gwaith sydd ar y gweill barhau cyn belled â'i fod yn cael ei reoli mewn ffordd ddiogel a bod y gweithiwr ac aelodau'r cartref yn iach ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau coronafeirws. Fodd bynnag, rydym yn argymell y dylai pobl ystyried gohirio'r gwaith tan ar ôl cyfnod atal byr hwn, os yw’n ddiogel gwneud hynny.

A gaf i ddarparu cymorth mewn llety brys, llety â chymorth neu yng nghartref rhywun?

Gellir darparu gwasanaethau digartrefedd, gwasanaethau tai a chymorth wyneb yn wyneb, ond dylai darparwyr y cymorth sicrhau bod pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i liniaru'r risg y bydd y coronafeirws yn lledaenu. Dylai darparwyr gwasanaethau hefyd ystyried a ellir darparu'r  gwasanaeth dros y ffôn neu drwy alwad fideo yn ystod y cyfnod hwn.

A gaf i wneud gwaith gwirfoddol?

Cewch, er bod yn rhaid i chi wneud hynny o'ch cartref os yw hynny’n rhesymol ymarferol. Os ydych yn chwilio am fwy o gyfleoedd lleol i wirfoddoli, gallwch gysylltu â'ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.

Gallwch hefyd fynd allan i ddarparu gofal neu gymorth i berson sy'n agored i niwed, gan gynnwys cymorth brys. Mae hyn yn cynnwys cael bwyd a meddyginiaethau ar eu cyfer. Ond mae'n bwysig nad ydych yn rhoi eich hun na'r person rydych chi'n gofalu amdano mewn perygl.

A oes rhaid i'm busnes gau dan y cyfyngiadau newydd?

Rydym wedi cyhoeddi rhestr lawn o fusnesau y mae'n rhaid iddynt gau dros dro.

Rydym yn cydnabod yr ymdrechion enfawr y mae busnesau wedi'u gwneud i wneud eu safleoedd yn ddiogel. Nid yw'r gofyniad hwn i gau yn adlewyrchiad o'r ymdrechion hynny, a dim ond risg isel neu gymedrol o drosglwyddo’r feirws sydd mewn llawer o safleoedd busnes. Ond ar hyn o bryd, mae lleihau unrhyw gyfraniad at ledaenu’r feirws yn bwysig, a dyna pam rydym yn ei gwneud yn ofynnol i rai busnesau gau dros dro.

Rwy’n rhedeg busnes sydd wedi'i gau oherwydd y cyfyngiadau newydd. A oes unrhyw gymorth ar gael?

Oes – gweler ein tudalennau ar gymorth ariannol i fusnesau.

Rwy’n byw yn Lloegr ond yn gweithio yng Nghymru, a gaf i deithio o hyd?

Mae unrhyw un sydd yng Nghymru, boed yn byw yma neu'n teithio yma, yn gorfod dilyn y rheolau hyn. Fodd bynnag, mae teithio i weithle yng Nghymru yn esgus rhesymol dros adael eich cartref. Yn yr un modd, caiff pobl sy'n byw yng Nghymru deithio i Loegr at ddibenion gwaith lle bo hynny'n angenrheidiol ac na allant weithio gartref.

A gaiff busnesau ddarparu gwasanaeth dosbarthu nwyddau, hyd yn oed os ydyn nhw’n gorfod bod ar gau?

Caiff busnesau ddarparu gwasanaeth dosbarthu ar-lein neu dros y ffôn yn unig, hyd yn oed os ydynt yn gorfod bod ar gau. 

Addysg a gofal plant

A fydd ysgolion cynradd yn aros ar agor?

Byddant – bydd ysgolion cynradd yn aros ar agor heblaw yn ystod y gwyliau hanner tymor arferol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud drwy'r amser fod sicrhau bod plant yn gallu parhau i gael eu haddysgu yn yr ysgol yn flaenoriaeth, ac mae ysgol hefyd yn amgylchedd diogel.

Darllen canllawiau cyfnod atal manwl ynghylch ysgolion.

A fydd ysgolion uwchradd yn aros ar agor?

Bydd ysgolion uwchradd yn ailagor ar ôl yr hanner tymor i blant ym mlynyddoedd saith ac wyth. Bydd disgyblion yn gallu dod i mewn i sefyll arholiadau ond bydd disgyblion eraill yn parhau i ddysgu o gartref am wythnos ychwanegol.

Darllen canllawiau cyfnod atal manwl ynghylch ysgolion.

Rwy'n byw yng Nghymru ond yn teithio'n ddyddiol i Loegr i fynd i’r ysgol, y coleg neu'r brifysgol. A gaf i fynd yno o hyd?

Cewch. Os ydych yn mynd i ysgol, coleg neu brifysgol yn Lloegr, nad yw'r cyfyngiadau’n berthnasol iddynt, mae'n esgus rhesymol i deithio yno ac mae gennych hawl i wneud hyn yn ystod y cyfnod atal byr os nad oes modd ichi gael addysg ar-lein.

Mae hyn hefyd yn berthnasol hefyd i staff sy'n teithio i Loegr i addysgu mewn ysgolion, colegau neu brifysgolion ac nad ydynt yn gallu gweithio gartref yn ystod y cyfnod atal.  Ond bydd angen ichi gymryd sylw o unrhyw gyfyngiadau sydd ar waith yn yr ardal yr ydych yn teithio iddi yn Lloegr.

Beth yw’r rheolau ynglŷn â dysgu mewn prifysgolion?

Gall prifysgolion barhau i ddarparu cyfuniad o ddysgu personol a dysgu cyfunol.

Er bod achosion o COVID-19 wedi cynyddu ymysg y boblogaeth myfyrwyr, mae tystiolaeth yn dangos bod hyn yn digwydd y tu allan i'r amgylchedd addysgu a dysgu. Mae prifysgolion yn gweithredu i ddiogelu eu campysau rhag COVID ac yn cadw at reolau llym o ran cadw pellter cymdeithasol. Mae’r achosion o’r coronafeirws ymysg staff yn parhau’n isel.

Mae hi hefyd yn llawer mwy diogel i fyfyrwyr aros ar y campws yn hytrach na theithio adref.

A oes disgwyl i fyfyrwyr prifysgol sy'n byw oddi cartref ddychwelyd adref?

Rydym yn gofyn i bob myfyriwr sy'n byw yng Nghymru, a'n holl fyfyrwyr o Gymru sy'n byw y tu allan i Gymru, ein helpu i gadw Cymru'n ddiogel drwy beidio â theithio rhwng y brifysgol a'r cartref.

Dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol, er enghraifft ar gyfer gwaith, i ddarparu neu dderbyn gofal neu oherwydd pryderon am eich lles y dylech symud rhwng eich cyfeiriad tymor a'ch cyfeiriad cartref. Ni ddylech ddychwelyd adref am 'ymweliad' yn ystod y cyfnod hwn. Ni ddylech deithio adref os gofynnwyd i chi hunanynysu neu os oes gennych symptomau COVID-19.

Beth yw’r rheolau ynglŷn â dysgu mewn colegau?

Bydd colegau'n newid i ddarpariaeth ar-lein yn unig ar gyfer yr wythnos yn dilyn hanner tymor.  Bydd rhaglenni dysgu seiliedig ar waith, fel prentisiaethau a hyfforddeiaethau, a dysgu oedolion, yn cael eu darparu ar-lein yn unig dros gyfnod y cyfyngiadau. Gall myfyrwyr sydd i dof i sefyll arholiadau TGAU neu arholiadau mynediad prifysgolion yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd fynychu'r coleg i wneud hynny.

A yw darparwyr gofal plant yn cael gweithio o hyd?

Ydynt.  Gall plant barhau i fynd at eu darparwr gofal plant arferol, a gallwch deithio i ddarparu gofal plant, i gael gafael ar ofal plant neu i dderbyn gofal plant.  Caiff plant barhau hefyd i fynychu darpariaeth gwaith chwarae wedi'i staffio, er enghraifft sesiynau chwarae mynediad agored.

Caiff pob darparwr gofal plant a gwaith chwarae, gan gynnwys gofal plant Dechrau'n Deg, aros ar agor a chynnig eu gwasanaethau arferol, gan gynnwys darpariaeth drwy'r gwyliau hanner tymor. Mae hyn yn cynnwys darparwyr gofal plant a gwaith chwarae sy'n gweithredu ar safleoedd ysgolion, canolfannau cymunedol ac , addoldai. Gall nanis hefyd barhau i ddarparu gofal plant.

A yw teulu neu ffrindiau yn cael darparu gofal plant anffurfiol?

Ydynt, ond dim ond pan nad oes dulliau eraill ar gael y dylid defnyddio'r math hwn o ofal plant. Ni ddylid gofalu am blant y tu allan i'w cartref os ydynt yn sâl, ac ni ddylai unrhyw un sy'n sâl ofalu amdanynt.  Ni ddylai oedolion sy'n mynd â’u plant i gael gofal fynd i mewn i dŷ neb arall. 

A oes hawl i gynnal gweithgareddau a chlybiau i blant?

Nac oes. Heblaw am eithriadau cyfyngedig iawn (fel clybiau gofal plant a rhai sy’n cael eu cynnal dros wyliau’r ysgol)ni chaniateir cymysgu rhwng aelwydydd yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn cynnwys pob math o ymgynnull dan do ac yn yr awyr agored, gan gynnwys gweithgareddau fel grwpiau Sgowtaid, grwpiau rhiant a phlentyn a dosbarthiadau dawnsio. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith na ddylai neb, gan gynnwys plant, fod yn treulio amser gyda phobl nad ydynt yn byw gyda nhw oni bai bod hynny’n hanfodol.

A yw llyfrgelloedd ar agor?

Nac ydynt, mae llyfrgelloedd ar gau dros gyfnod y cyfyngiadau.

Iechyd a gofal cymdeithasol

A gaf i ddefnyddio gwasanaethau iechyd o hyd?

Mae GIG Cymru yma o hyd i'ch helpu os oes angen gofal arnoch, ac mae'n bwysig eich bod yn parhau i fynychu apwyntiadau ac yn gofyn am help ar gyfer materion meddygol brys. Cewch adael eich cartref i ddefnyddio gwasanaethau iechyd lleol, gan gynnwys eich meddygfa, eich deintydd, eich optometrydd neu unrhyw wasanaeth iechyd arall.  Os bydd eich apwyntiad yn newid, bydd eich bwrdd iechyd neu'ch gweithiwr iechyd proffesiynol yn cysylltu â chi. Mae cyngor ar wasanaethau sy'n dal i weithredu ar gael ar wefan eich bwrdd iechyd neu'ch ymddiriedolaeth. Rydym yn eich cynghori i ffonio ymlaen llaw a dilyn unrhyw ganllawiau sydd gan eich meddygfa, eich deintydd, eich optometrydd neu'ch gwasanaeth iechyd lleol i'ch amddiffyn chi a'r staff, gan gynnwys yr angen i gadw 2 fetr oddi wrth gleifion eraill wrth aros i gael eich gweld. 

Os oes gennych symptomau coronafeirws, peidiwch ag ymweld â meddyg teulu, ysbyty, fferyllfa, deintydd nac optometrydd. I gael rhagor o wybodaeth, defnyddiwch wiriwr symptomau GIG Cymru.

A gaf i ymweld â rhywun yn yr ysbyty?

Cynghorir chi i gysylltu â'r bwrdd iechyd neu'r ymddiriedolaeth i gael gwybodaeth leol cyn ymweld

A gaf i ymweld â rhywun mewn cartref gofal?

Ni ddylid cynnal ymweliadau arferol (o dan do nac yn yr awyr agored) yn ystod y cyfnod atal byr. Caniateir ymweliadau â chartrefi gofal mewn amgylchiadau eithriadol yn ystod y cyfnod hwn. Mae hynny’n cynnwys ymweliadau diwedd oes, ymysg amgylchiadau eraill.

Rydym yn gofyn i ddarparwyr cartrefi gofal sicrhau bod trefniadau priodol a sensitif yn cael eu gwneud i gefnogi ymweliadau o’r fath. Dylid trafod yr ymweliad a chytuno arno gyda'r cartref gofal ymlaen llaw cyn teithio.

A gaf i ymweld a rhywun sy’n byw mewn tŷ â chymorth?

Os ydych yn aelwyd unigol mewn tŷ â chymorth, mae gennych hawl i ymestyn eich aelwyd i gynnwys un aelwyd arall.

Mae'n bwysig fod penderfyniadau sy'n ymwneud â phobl mewn tai â chymorth yn cael eu gwneud ar y cyd â’r bobl sy'n byw yno, eu teuluoedd, darparwyr gofal a chymorth a chomisiynwyr gwasanaethau.

A gaf i weld fy ngweithiwr cymorth o hyd?

Cewch weld eich gweithiwr cymorth o hyd. Ond, dylai gwasanaethau cymorth ystyried a oes modd darparu cymorth dros y ffôn neu fideo. Os caiff cymorth ei ddarparu wyneb yn wyneb, dylai'r darparwr cymorth sicrhau bod hynny’n cael ei wneud mewn modd diogel, gan gadw pellter cymdeithasol a darparu cyfarpar diogelu personol os oes angen.

Siopa a gwasanaethau personol

Pa siopau sydd ar agor?

Mae pob safle hamdden a siopau sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol ar gau. Mae hyn yn cynnwys siopau dillad, siopau dodrefn a gwerthwyr ceir ymhlith llawer o rai eraill. Mae rhestr lawn o'r mathau o fusnesau y mae'n ofynnol iddynt gau ar gael yn ein canllawiau ar gau busnesau.

Mae siopau sy’n cael aros ar agor yn cynnwys archfarchnadoedd a manwerthwyr bwyd eraill, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post. Fodd bynnag, lle bynnag y bo'n bosibl dylai pobl osgoi ymweliadau diangen â'r rhain, a defnyddio dulliau eraill fel gwasanaethau archebu ar-lein a danfon nwyddau. 

Pa mor bell gaf i deithio i siopa am nwyddau hanfodol?

Arhoswch yn lleol i'ch cartref lle bynnag y bo modd. Nid oes rheolau penodol ar hyn, ond cynghorir pobl i osgoi teithio diangen ac osgoi mannau gorlawn lle bynnag y bo modd, yn enwedig o dan do. Dylid defnyddio dulliau eraill fel gwasanaethau archebu ar-lein a danfon nwyddau lle bynnag y bo modd.

Pa gyfyngiadau sydd ar waith ar werthu alcohol?

Rhaid i siopau sydd â hawl i fod ar agor yn ystod y cyfnod atal byr roi'r gorau i werthu alcohol am 10pm ac ni chânt ddechrau gwerthu alcohol eto tan 6am drannoeth. Ni ddylai archebion ar-lein sy’n cael eu dosbarthu gan archfarchnadoedd a darparwyr eraill gynnwys alcohol ar ôl 10pm. Bwriad y rheoliad yw sicrhau nad yw archfarchnadoedd (ble bynnag mae eu gweithrediadau wedi'u lleoli) yn cyflenwi alcohol i gwsmeriaid yng Nghymru, yn y man derbyn, ar ôl 10pm. Dylai unrhyw fanwerthwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ond sy'n dosbarthu nwyddau i gwsmeriaid yn Lloegr ddilyn rheoliadau Lloegr.

Ydw i'n cael defnyddio gwasanaethau "clicio a chasglu"?

Os yw siop yn cael agor, mae ganddi hawl hefyd i ddarparu gwasanaeth clicio a chasglu.  Dylid darparu'r rhain mewn ffordd ddiogel o ran COVID-19. Ni ddylech deithio'n bell ar gyfer gwasanaethau clicio a chasglu.

A gaf i fynd i siopa gyda fy ffrindiau?

Na chewch. Ni chaniateir cyfarfod â phobl o'r tu allan i'ch cartref i siopa.

A yw siopau trin gwallt a salonau harddwch yn cael aros ar agor?

Nac ydynt – mae’r gwasanaethau hyn wedi’u gwahardd o dan y rheoliadau newydd ar gyfer y cyfnod atal.

A yw safleoedd gwastraff ac ailgylchu ar agor?

Na, nid yw’r rhain ar agor yn ystod cyfnod y cyfyngiadau (heblaw ar gyfer cwsmeriaid masnachol).

A gaiff gwasanaethau cysylltiad agos aros ar agor?

Na chânt. Rydym yn gofyn i bob gwasanaeth cysylltiad agos, fel tylino (gan gynnwys tylino chwaraeon a thylino clinigol), aciwbigo, tatŵs a gwasanaethau trin gwallt a harddwch gau. Gweler y canllawiau ar gau busnesau i gael rhagor o fanylion.

Yr unig driniaethau neu wasanaethau cysylltiad agos sy’n cael parhau i weithredu yw'r rhai sy'n darparu triniaethau meddygol ar gyfer salwch neu anaf - er enghraifft, therapyddion sy'n gweithio ar y cyd â gweithiwr iechyd proffesiynol statudol sy’n cael ei reoleiddio.

Bwytai, caffis, tafarndai ac adloniant

A yw caffis, bwytai, tafarndai a bariau yn cael agor?

Caniateir i'r safleoedd hyn agor ar gyfer gwasanaethau cludfwyd yn unig. Ni cheir bwyta bwyd a diod yn y safle. Nid oes hawl i werthu diodydd alcohol rhwng 10:00pm a 6.00am. 

Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith a bydd gofyn i staff wisgo gorchudd wyneb.

Pa leoliadau adloniant sydd ar gau?

Rhaid cau pob lleoliad adloniant, fel sinemâu, theatrau ac alïau bowlio.

Teithio a thrafnidiaeth

A oes cyfyngiadau teithio ar waith yng Nghymru?

Oes. Mae teithio wedi'i gyfyngu i deithiau hanfodol yn unig, er enghraifft ar gyfer cyfrifoldebau gofalu neu at ddibenion gwaith lle na all pobl weithio gartref.

Rwy’n byw yng Nghymru - a gaf i fynd ar wyliau yng Nghymru neu rywle arall yn y Deyrnas Unedig?

Na chewch. Nid yw teithio o fewn Cymru ar wyliau yn un o’r rhesymau dros deithio a ganiateir o dan y Rheoliadau. Nid yw teithio i fynd ar wyliau mewn rhan arall o’r DU yn esgus rhesymol chwaith yn ystod y cyfnod atal byr.

Os ydych wedi trefnu gwyliau ymlaen llaw – ac eisoes wedi talu – byddem yn eich cynghori i gysylltu â'r asiant neu gwmni teithio i drafod y sefyllfa bresennol yng Nghymru a'r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gyfyngu ar deithio nad yw'n hanfodol. Dylech hefyd gysylltu â'ch yswiriwr teithio i drafod y sefyllfa – er bod sawl yswiriwr wedi llunio polisïau gyda chymalau eithrio o ran y coronafeirws, mae'n bosibl y bydd rhai polisïau blynyddol yn cynnwys y sefyllfa hon.

Dydw i ddim yn byw yng Nghymru, a gaf i deithio yno ar wyliau neu i ymweld â theulu a ffrindiau?

Na chewch. Mae teithio i mewn i Gymru wedi'i gyfyngu i deithio hanfodol yn unig yn ystod y cyfnod atal byr, er enghraifft teithio at ddibenion gwaith neu ddychwelyd adref.

Mae angen i bobl sy’n teithio o sir neu diriogaeth sydd wedi heithrio fod ag esgus rhesymol dros ddod i Gymru ac aros yno, a rhaid iddynt gydymffurfio a’r rheoliadau ar y cyfnod atal, fel yr esbonir yn y canllawiau hyn.

Mae angen i bobl o wlad sydd heb ei heithrio fod ag esgus rhesymol dros ddod i Gymru ac aros yno a rhaid iddynt hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl cyrraedd.

A gaf i fynd ar wyliau dramor?

Na chewch. Dim ond pobl sydd ag esgus rhesymol sy’n cael teithio dramor.

Gwyddom y bydd hyn yn peri siom, ond nid yw teithio allan o Gymru yn un o'r rhesymau a ganiateir o dan y Rheoliadau. Mae'r Rheoliadau ar waith er mwyn eich diogelu chi a'ch anwyliaid rhag y coronafeirws ac i atal y feirws rhag lledaenu i ardaloedd eraill o Gymru, y DU a gwledydd eraill.

Os ydych wedi trefnu gwyliau ymlaen llaw – ac eisoes wedi talu – byddem yn eich cynghori i gysylltu â'r asiant neu’r cwmni teithio i drafod y sefyllfa bresennol yng Nghymru a'r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gyfyngu ar deithio nad yw'n hanfodol. Dylech hefyd gysylltu â'ch yswiriwr teithio i drafod y sefyllfa – er bod sawl yswiriwr wedi llunio polisïau gyda chymalau eithrio o ran y coronafeirws, mae'n bosibl y bydd rhai polisïau blynyddol yn cwmpasu'r sefyllfa hon.

A gaf i fynd i faes awyr i ddanfon neu gasglu rhywun os ydynt yn teithio i mewn neu allan o Gymru am reswm sy’n cael ei ganiatáu?

Cewch, os mai'r unig ddewis arall fyddai iddynt ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu dacsi. Dilynwch y canllawiau ar deithio'n ddiogel.

A yw busnesau llety yng Nghymru yn cael agor?

Nac ydynt, mae’n rhaid i bob busnes llety fod ar gau.


Fodd bynnag, gall llety sydd ar gau barhau i ddarparu llety i unrhyw un sy'n byw yno fel ei brif breswylfa o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref, neu sy'n aros yno bryd hynny ac nad yw'n gallu dychwelyd i'w brif breswylfa. Dylai busnesau llety sicrhau nad ydynt yn gwneud unrhyw un yn ddigartref yn anfwriadol o ganlyniad i gau. Os oes angen cyngor  arnynt dylent gysylltu â thîm opsiynau tai'r awdurdod lleol.

Gall Awdurdodau Lleol neu Weinidogion Cymru hefyd awdurdodi neu wneud cais i fusnesau llety ddarparu rhai gwasanaethau eraill tra byddant ar gau. Gallai hyn olygu, er enghraifft, lletya gweithwyr allweddol, pobl sydd wedi cael eu dadleoli neu sy'n ddigartref, neu gleifion meddygol.

Dydw i ddim yn byw yng Nghymru ond rydw i yma ar fy ngwyliau ar hyn o bryd. Pryd caf i fynd adref?

Rydym yn cydnabod nad yw rhai pobl wedi gallu mynd adref cyn i'r cyfyngiadau ddod i rym, er enghraifft am eu bod wedi archebu taith awyren ar ddyddiad na ellid r ei newid.

O dan yr amgylchiadau hyn, bydd angen ichi gydymffurfio â'r cyfyngiadau yn eich lleoliad presennol hyd nes y gallwch deithio adref neu i rywle arall y tu allan i Gymru, a dylech wneud hynny cyn gynted ag y bo modd.

Yn yr achosion hyn, caniateir i'ch darparwr llety barhau i ddarparu ei wasanaethau ichi nes y gallwch ddychwelyd adref. Nid oes angen i’r darparwr gael caniatâd arbennig i adael ichi ddal i aros yno.

Dydw i ddim yn byw yng Nghymru – a gaf i fynd drwy Gymru, er enghraifft i ddefnyddio'r maes awyr neu i deithio rhwng Lloegr ac Iwerddon?

Caniateir hyn, ond dylech stopio cyn lleied â phosibl yng Nghymru a lleihau’r cysylltiad â phobl gymaint â phosibl.

Rydw i’n byw yng Nghymru ond rydw i ar wyliau y tu allan i Gymru ar hyn o bryd. Pryd bydda i'n gallu dod adref? 

Rydym yn cydnabod nad yw rhai pobl wedi gallu dod adref cyn i'r cyfyngiadau ddod i rym, er enghraifft am eu bod wedi archebu taith awyren ar ddyddiad na ellir ei newid. O dan yr amgylchiadau hyn dylech ddychwelyd adref cyn gynted ag y bo modd.

A gaf i deithio i'm hail gartref ac oddi yno yn ystod y cyfyngiadau?

Tan ddydd Llun 9 Tachwedd, am 12.01am, mae teithio yng Nghymru heb esgus rhesymol yn drosedd. Nid yw teithio i Gymru, teithio allan o Gymru na theithio o fewn y wlad i ymweld ag ail gartref, i’w archwilio nac i aros ynddo yn esgus rhesymol.

Mae’r un rheolau’n berthnasol i garafannau, cychod a mathau eraill o leoedd aros dros dro.

Bydd angen i berchnogion carafannau drefnu gyda pherchnogion y safle i gadw eu carafannau dros y gaeaf ar ôl i’r cyfnod atal dros dro ddod i ben.

A yw trafnidiaeth gyhoeddus yn dal i weithredu?

Mae gwasanaethau'n parhau, yn enwedig yn ystod oriau brig. Fodd bynnag, mae amserlenni bysiau a rheilffyrdd wedi’u lleihau ac mae’n bosibl y byddant yn cael eu canslo heb lawer o rybudd. Edrychwch ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth cyn ichi deithio.

A gaiff tacsis barhau i weithredu?

Caiffl tacsis barhau i weithredu os oes mesurau ar waith i liniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â rhannu cerbyd. Fodd bynnag, rhaid i bob siwrnai fod at un o'r dibenion cyfyngedig iawn a ganiateir o dan y rheolau.

A gaf i ddal i drefnu gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar fy ngherbyd?

Cewch, os oes angen gwneud hyn ac na ellir ei ohirio'n rhesymol tan ar ôl cyfnod y cyfngiadau. Dylid gohirio gwasanaethau rheolaidd.

Disgwylir i'm MOT gael ei wneud yn ystod y cyfyngiadau – a oes rhaid i mi ei gael o hyd?

Oes, bydd angen tystysgrif MOT ddilys arnoch o hyd os bydd angen i chi ddefnyddio eich cerbyd ar gyfer teithio hanfodol. Os nad yw’n amser ar gyfer eich MOT yn ystod cyfnod y cyfyngiadau ond bod gennych apwyntiad wedi'i drefnu, ystyriwch ei ohirio.  

A gaf i rannu car gyda rhywun neu roi lifft iddynt?

Dylech osgoi rhannu car gyda pherson arall y tu allan i'ch cartref. Gallwch ddilyn y canllawiau hyn ar deithio'n ddiogel.

Alla i gael gwersi gyrru?

Na chewch - yn ystod y cyfnod byr hwn o gyfyngiadau, ni ddylid cynnal gwersi gyrru.

Mae gennyf brawf gyrru neu brawf theori wedi'i drefnu yn ystod y cyfnod hwn – a gaiff ddal i ddigwydd?

Na – dylech aildrefnu eich prawf ar gyfer 9 Tachwedd neu'n hwyrach. Ar hyn o bryd, ni chodir tâl am aildrefnu eich prawf gyda’r DVSA.

Symud tŷ

A gaf i symud tŷ?

Oes, os na allwch ohirio'r dyddiad symud tan ar ôl i'r cyfnod byr o gyfyngiadau ddod i ben.

Gall gweithgareddau cysylltiedig, er enghraifft, prosesau symud eiddo, paratoi eiddo, trosglwyddo allweddi, arolygon a phrisiadau ddigwydd hefyd yn unol â’r canllawiau ar weithio yng nghartrefi pobl eraill.

A gaf i fynd i weld tai?

Na chewch. Nid oes hawl i fynd i weld eiddo yn ystod cyfnod y cyfyngiadau ac mae'n ofynnol i asiantaethau tai y stryd fawr gau. Gellir parhau i weld tai drwy ddull rhithwir.

A gaf i drefnu i gynnal arolwg morgais neu brisio yn fy eiddo nawr?

Nid yw pobl sy’n gyfrifol am gynnal arolygon fel hyn wedi’u gwahardd rhag mynd i gartrefi pobl, os yw’r broses yn cael ei rheoli’n ddiogel a bod y gweithiwr ac aelodau'r cartref yn iach ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau coronafeirws. Ond rydym yn argymell y dylai pobl ystyried a oes modd gohirio’r gwaith tan ar ôl y cyfnod atal byr hwn os yw’n ddiogel gwneud hynny.

A allwn i gael fy nhroi allan o'm cartref yn ystod y cyfnod atal?

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi wedi cadarnhau na fydd unrhyw droi allan o gartrefi yn digwydd yn ystod y cyfnod atal. Bydd unrhyw droi allan sydd wedi'i drefnu’n barod ar gyfer cyfnod y cyfyngiadau yn cael ei ohirio tan ar ôl 9 Tachwedd.

A yw llochesi yn dal yn agored?

Mae llety brys i bobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal ar agor ac yn parhau i dderbyn atgyfeiriadau.  Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth 24 awr am ddim i unrhyw un sy'n profi trais neu gamdriniaeth, neu i unrhyw un sy'n pryderu am ddiogelwch rhywun arall. Gellir cysylltu â Byw Heb Ofn drwy

Ffonio: 0808 8010 800 neu Neges destun: 078600 77333

Sgwrsio byw.

Mae canllawiau i ddarparwyr lloches ar sut wneud y llety’n ddiogel ar gael yma.

Mannau addoli, priodasau a phartneriaethau sifil, mynwentydd ac angladdau

Beth yw’r rheolau ar gyfer gwasanaethau crefyddol?

Nid yw addoldai yn agored i'r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil neu angladdau, lle gall pobl fynychu ar wahoddiad y trefnydd. Gweler y canllawiau ar angladdau a'r canllawiau ar briodasau i gael rhagor o wybodaeth.

Caiff arweinwyr ffydd fynd i mewn i’r addoldy i ddarlledu (heb gynulleidfa) weithred o addoli neu angladd, boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu. Gellir hefyd ddarlledu priodasau ac angladdau o addoldai.

A yw lleoliadau posibl ar gyfer seremoni priodas neu bartneriaeth sifil yn cael bod ar agor?

Caiff mannau addoli a Swyddfeydd Cofrestr aros ar agor ar gyfer seremonïau priodas a phartneriaeth sifil. Mae hyn yn amodol ar yr angen i gymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ledaenu'r feirws ar y safle.

Mae'n ofynnol i 'safleoedd cymeradwy' eraill, fel gwestai, gau yn yr un modd â busnesau eraill yn y sector lletygarwch.

Ni chaniateir cynnal derbyniadau priodas neu bartneriaeth sifil, ac yn ymarferol mae’n ofynnol i lawer o leoliadau gau drwy gydol y cyfnod byr hwn o gyfyngiadau.

A oes cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael mynychu seremonïau?

Bydd y nifer sy’n cael mynychu seremoni o dan do yn cael ei gyfyngu gan gapasiti'r lleoliad lle mae'n cael ei gynnal, unwaith y bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi'u hystyried.

Er mwyn sicrhau bod y rheol ynghylch y nifer uchaf sy’n cael mynychu yn cael ei chadw, rhaid i’r presenoldeb fod drwy wahoddiad yn unig. Gweler y canllawiau perthnasol ar briodasau a seremonïau partneriaeth sifil.

Beth yw'r rheolau ar gynnal derbyniadau?

Ni chaniateir cynnal derbyniadau priodas na phartneriaeth sifil.

Mae aelod agos o'r teulu wedi marw ac mae angen i mi drefnu'r angladd – beth ddylwn i ei wneud?

Gall angladdau fod yn brofiad gofidus, ac mae effaith y coronafeirws yn ei gwneud yn anoddach fyth i wneud trefniadau ymarferol. Mae canllawiau ar angladdau wedi'u cyhoeddi.

A gaf i fynd i angladd?

Cewch, ond mae'n rhaid i chi gael gwahoddiad. Mae'r niferoedd wedi'u cyfyngu oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol. 

A gaf i gynnal gwylnos neu fath arall o gynulliad ar ôl angladd?

Na chewch – drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau, ni chaniateir cynnal cynulliadau fel hyn. 

A gaf i fynd i fynwent i ymweld â bedd aelod o'r teulu?

Cewch. Ond dylech sicrhau eich bod yn dilyn yr arferion cadw pellter cymdeithasol wrth wneud hynny.

Digwyddiadau’r Cofio

A oes hawl i gynnal digwyddiadau’r Cofio ger Cofeb Ryfel neu Senotaff?

Caniateir i ddigwyddiadau’r Cofio gael eu cynnal yn yr awyr agored ar 7 neu 8 Tachwedd. Ni chaniateir gwasanaethau o dan do.

Caniateir i hyd at uchafswm o 30 o unigolion, gan gynnwys trefnwyr y digwyddiad, ymgynnull yn yr awyr agored a gallant gymryd rhan mewn seremoni Cofio. Bydd gan y rhai sy'n trefnu’r digwyddiad ddyletswydd gofal i'r rhai sy'n mynychu i'w wneud mor ddiogel â phosibl a chadw at y canllawiau ynghylch cadw pellter cymdeithasol a hylendid.

A oes hawl i gynnal gwasanaethau’r Cofio mewn addoldy?

Nac oes - ni fydd addoldai yn agored i'r cyhoedd ar gyfer gwasanaethau’r Cofio. Dim ond ar gyfer seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil ac angladdau y caiff addoldai agor.

Caiff arweinwyr ffydd fynd i addoldy i ddarlledu (heb gynulleidfa) weithred o addoliad, dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu. Gallai hyn gynnwys gwasanaeth coffa, a chaiff pobl eraill sy'n gweithio i hwyluso'r darllediad fod yn bresennol hefyd.

A oes hawl i gynnal parêd neu orymdaith i nodi’r Cofio eleni?

Nac oes - ni ddylid cynnal gorymdeithiau.

A gaiff pobl deithio i gymryd rhan yn nigwyddiadau’r Cofio?

Mae gan berson esgus rhesymol i adael y man lle mae'n byw i fynychu digwyddiad Cofio a gynhelir ar 7 neu 8 Tachwedd.

Iechyd a lles anifeiliaid

A yw milfeddygon yn dal i gael gweithio?

Ydynt, ond dim ond os yw'n fater brys ac na ellir gohirio’r driniaeth ar gyfer eich anifeiliaid tan ar ôl 9 Tachwedd.

A gaf i deithio i ofalu am fy anifeiliaid am resymau lles?

Os oes modd, dylech wneud trefniadau eraill nad ydynt yn golygu teithio. Darllenwch ein canllawiau ar gyfer perchnogion da byw a cheffylau.

Gorfodi a dirwyon

Pwy sy'n gorfodi'r cyfyngiadau?

Caiff y cyfyngiadau eu gorfodi gan swyddogion gorfodi awdurdodau lleol a'r heddlu.

Beth gaiff swyddogion gorfodi awdurdodau lleol ei wneud

Cânt gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig neu argymell erlyn mewn llys ynadon. Yn ogystal, mae ganddynt bwerau eang i gymryd camau ymarferol i wasgaru cynulliadau, ei gwneud yn ofynnol i bobl fynd adref a chael mynediad i eiddo.

Beth os na chymerir camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn mangre neu weithle?

Mae swyddogion gorfodi awdurdodau lleol bellach yn gallu cyflwyno hysbysiad gwella mangre. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n gyfrifol am y fangre gymryd camau penodedig ac, os na chymerir y camau hynny, gall swyddog gyflwyno “hysbysiad cau mangre” a fydd yn golygu y bydd yn rhaid cau'r fangre. Pan fo angen, gall swyddog hefyd gyflwyno hysbysiad cau mangre hyd yn oed os na chyflwynwyd hysbysiad gwella mangre o'r blaen.

Felly, os na fydd pobl yn cydymffurfio, gellir cau'r fangre.

Beth fydd yr heddlu yn ei wneud?

Bydd yr heddlu yng Nghymru yn trafod â phobl, yn esbonio beth sydd angen iddynt ei wneud ac yn eu hannog i gydymffurfio. Ond rhoddwyd pwerau i'n heddluoedd a byddant yn eu defnyddio – caiff y cyfyngiadau eu gorfodi os na fydd pobl yn ymateb.

Beth yw'r cosbau ariannol?

Mae rheoliadau'r coronafeirws yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cyflwyno hysbysiad cosb benodedig ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o dorri'r rheoliadau, gan gynnwys dirwy o £60; caiff y swm hwn ei gynyddu i £120 am ail drosedd a bydd yn parhau i ddyblu ar gyfer troseddau pellach, hyd at gyfanswm o £1,920. Fodd bynnag, os caiff yr unigolyn ei erlyn, caiff llys orfodi unrhyw ddirwy (nid oes uchafswm).

Mae trefnu digwyddiad cerddoriaeth didrwydded ar gyfer mwy na 30 o bobl yn drosedd ar wahân. Digwyddiadau yw'r rhain nad ydynt wedi'u trwyddedu neu eu hawdurdodi fel arall o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Bydd torri'r gwaharddiad hwn yn drosedd y gellir ei chosbi drwy gollfarn a dirwy ddiderfyn neu, yn lle collfarn, drwy gosb benodedig a bennir ar £10,000.  

Mae'r ddirwy ddiderfyn neu gosb benodedig sylweddol i drefnwyr y digwyddiadau anghyfreithlon hyn yn adlewyrchu'r canlyniadau difrifol posibl i iechyd y cyhoedd ar hyn o bryd.

Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn deall difrifoldeb y sefyllfa rydym yn ei hwynebu ac y byddant yn cydymffurfio â'r rheoliadau, heb orfod eu cosbi.

Rhannu’r dudalen hon