Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Gweinidog Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi nodi'n swyddogol bod y cyfnod adeiladu wedi dechrau ar ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth iddo ymweld ag Ystad Ddiwydiannol Cibyn i dorri'r dywarchen gyntaf, dywedodd y Gweinidog fod y cynllun yn ddatblygiad arwyddocaol ar gyfer y Gogledd-orllewin a fydd yn lliniaru tagfeydd ac yn gwella diogelwch yn yr ardal.

Bydd y ffordd osgoi newydd 9.8 cilometr o hyd yn cael ei hadeiladu o gylchfan y Goat ar gyffordd yr A499/A487 hyd at gylchfan Plas Menai, o amgylch Llanwnda, Dinas, Bontnewydd a Chaernarfon.

Gallai'r gwaith i adeiladu'r ffordd osgoi, sy'n cael ei wneud ar y cyd gan Balfour Beatty a Jones Bros o Ruthun, gael ei gwblhau erbyn Hydref 2021.

Bydd gwaith i ffensio'r safle adeiladu ar ei hyd ac i glirio'r safle yn cael ei wneud cyn bo hir gan ganiatáu i'r prif waith cloddio ddechrau.

Bydd cyfleoedd gwaith i bobl leol, a lleoliadau gwaith ar gyfer hyfforddeion, prentisiaid a graddedigion yn ystod y cyfnod adeiladu a bydd pwyslais yn cael ei roi hefyd ar wario'n lleol ar ddeunyddiau ar ac is-gontractau pryd bynnag y bo modd. Bydd digwyddiadau cwrdd â'r prynwr yn cael eu cynnal maes o law i annog pobl a chwmnïau lleol i wneud cais am waith dan y prosiect.

Dywedodd Ken Skates: 

“Mae'n bleser cael nodi bod y gwaith adeiladu wedi dechrau ar y cynllun seilwaith pwysig hwn yn y Gogledd-orllewin.

"Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £135 miliwn yn ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i sut bydd pobl yn teithio. Mae'n golygu y bydd siwrneiau mewn ceir yn gynt ac yn fwy dibynadwy ac y bydd llai o dagfeydd traffig ar ffyrdd lleol. Bydd hynny yn ei dro yn arwain at gyfleoedd gwell i deithio mewn ffyrdd llesol ac rydyn ni'n cydweithio â Sustrans a Chyngor Gwynedd yn hynny o beth.

“Gall y cynllun hwn gael effaith wirioneddol gadarnhaol ar yr ardal, yn ystod y cyfnod adeiladu ei hun drwy gynnig gwaith yn lleol a chyfleoedd hyfforddiant, a hefyd ar ôl iddo gael ei gwblhau drwy ddarparu gwell cysylltiadau ar gyfer cymunedau ac aer o ansawdd gwell. Bydd yn hollbwysig hefyd o ran darparu cysylltiadau gwell i gyrchfannau twristiaeth.

“Ochr yn ochr â'n cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros Afon Menai, y Cynllun Gwella o Abergwyngregyn i Dai’r Meibion, a chynigion i gael gwared ar y cylchfannau yn Llanfairfechan ac ym Mhenmaen-mawr ar yr A55, mae adeiladu ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd yn enghraifft wych arall o sut rydyn ni, fel llywodraeth, yn buddsoddi'n sylweddol yn y rhanbarth.”