Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi cymeradwyo ehangu ymgynghoriadau iechyd fideo yn genedlaethol, fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r achosion o goronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y gwasanaeth ar y we’n galluogi i bobl siarad gyda gweithwyr proffesiynol y GIG drwy fideo, heb orfod ymweld â meddyg teulu neu ganolfan gofal iechyd. Bydd hyn yn helpu’r rhai sy’n hunan-ynysu oherwydd coronafeirws i gael gofal a chyngor wyneb yn wyneb gan eu meddyg teulu o’u cartref eu hunain.

Bydd pobl angen ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur gyda gwe-gamera yn rhedeg porwr Chrome neu Safari i ddefnyddio’r gwasanaeth. Nid yw’r ymgynghoriad yn gadael unrhyw ôl troed digidol ac mae’r holl apwyntiadau’n cael eu dileu ar unwaith ar ôl yr ymgynghoriad.  

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

Roedden ni wedi buddsoddi eisoes mewn peilot yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a nawr gallwn ehangu’r dechnoleg hon ledled Cymru i’n helpu wrth i ni ymateb i’r achosion o goronafeirws. 

Bydd y dechnoleg hon yn helpu pobl i gael cyngor gofal iechyd o’u cartrefi, yn enwedig os ydynt yn hunan-ynysu oherwydd y feirws, gan helpu’r GIG i ymdopi â’r cynnydd mewn galw. Rydw i’n falch ein bod ni ar flaen y gad gyda defnyddio’r dechnoleg ddigidol hon ledled Cymru.

Bydd ymestyn y defnydd o’r dechnoleg ddigidol hon, sydd eisoes yn chwarae rhan bwysig yn y GIG yng Nghymru, yn helpu i leihau’r pwysau ar wasanaethau rheng flaen y GIG. 

Mae’r dechnoleg yn cael ei hehangu fel rhan o Gronfa Fuddsoddi Blaenoriaethau Digidol gwerth £50m Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi darparu gwasanaethau digidol yn y GIG yng Nghymru. Mae peilot llwyddiannus wedi bod yn weithredol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ers 2018, yn cael ei reoli gan y rhaglen Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC Cymru).