Cymuned Llanfihangel-y-fedw

“Mae cydweithio wedi dod â’r gymuned ynghyd” yn ôl cymuned wledig, sydd bellach â mynediad at un o’r cysylltiadau band eang cyflymaf yn y DU.

Cyflymder cyfartalog y rhyngrwyd ym mhentref Llanfihangel-y-fedw oedd 4Mbps, ac felly penderfynodd y preswylwyr adeiladu eu rhwydwaith band eang eu hunain. Rhoddodd y prosiect hwn fynediad i breswylwyr ac i fusnesau at fand eang Ffibr i’r Adeilad (FTTP). Nawr, mae gan breswylwyr gyflymder uwchlwytho a lawrlwytho o 1Gbps neu 1000Mbps.

Mae’r prosiect cymunedol wedi cyflogi contractwyr i wneud rhywfaint o’r gwaith, ac mae timau o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan mewn llawer o'r gweithgareddau. Mae hyn yn cynnwys cloddio, uno ceblau ffibr, gosod pibellau a gosod offer yn hyb cyfathrebu’r pentref. Mae tua 200 o eiddo wedi eu cysylltu hyd yma.

Y gymuned sy’n berchen ar y rhwydwaith, ac y gymuned sy’n ei weithredu. Fe gododd y preswylwyr yr arian a oedd ei angen er mwyn adeiladu’r rhwydwaith, ac yna cafodd y cysylltiadau eu hariannu gan gynllun talebau Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn un ffordd i gymuned ariannu cysylltiad; gellir defnyddio modelau eraill i sefydlu prosiect band eang a arweinir gan y gymuned

Dywedodd un o gyfarwyddwyr Cwmni Buddiannau Cymunedol Rhyngrwyd Llanfihangel-y-fedw, David Schofield:  “Dechreuodd hyn fel sgwrs am fand eang y pentref yn y dafarn leol, a datblygodd hynny i fod yn gyfarfod cyhoeddus â thua 70 o bobl yn y Neuadd Bentref. Roedd y ffaith bod cymaint o ddiddordeb yn rhoi’r hyder i ni fynd ati i gynllunio sut gallai hyn weithio. Cynhaliwyd rhagor o gyfarfodydd cyhoeddus, a phenderfynom sefydlu Cwmni Buddiannau Cymunedol. Penodwyd 5 cyfarwyddwr i’r cwmni, ac fe benderfynon ni ar yr enw MyFi.

“Fe benderfynon ni ddewis y dechnoleg band eang Ffeibr i'r Adeilad (FTTP) gan ein bod eisiau dewis rhywbeth a oedd yn gwbl addas ar gyfer y dyfodol. Un o’r heriau oedd deall beth oedd angen i ni ei wneud gan fod cymaint o waith ynghlwm â’r prosiect; dewis llwybrydd, dewis ffeibr, siambrau mynediad, bwledi uno, peiriant uno, peiriannau chwythu, croesfannau, pibellau, TG, fforddfreintiau (hawl tramwy gan dirfeddiannwr), dewis lleoliad ar gyfer ein hyb ac ati.

“Roedd ein cymdogion yn buddsoddi llawer o arian ac yn ymddiried ynom, ac felly fe wnaethom sicrhau ein bod yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd. Roedden ni’n eu cynnal yn wythnosol i ddechrau ac yna bob pythefnos er mwyn cynnal diddordeb a sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn digwydd. Drwy gydweithio, daeth y gymuned ynghyd. Nid gwaith oedd popeth, roeddem yn mynd i'r dafarn fel arfer ar ddiwedd y dydd, ac roedd hyn yn helpu i ddod â phawb ynghyd, ac yn rhoi cyfle i bobl ddod i adnabod ei gilydd yn well.

“Mae hyn wedi cael ei gyflawni oherwydd ymdrech anferthol gwirfoddolwyr lleol, sydd wedi bod yn gweithio ym mhob tywydd er mwyn helpu i adeiladu ein rhwydwaith. Heb y gwirfoddolwyr hynny, y gefnogaeth gan dirfeddianwyr, y neuadd bentref, buddsoddwyr lleol, a chynlluniau grant Llywodraeth Cymru, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl. Mae ffermwyr a thirfeddianwyr wedi bod yn wych. Braf yw cael dweud bod pawb rydym wedi gofyn iddynt wedi rhoi fforddfraint am ddim i ni, sy’n wych. Rhwng gwaith y gwirfoddolwyr a’r fforddfreintiau rydym wedi eu cael am ddim, rydym wedi arbed llawer iawn o arian. Mae gennym bellach gyflymder rhyngrwyd o’r radd flaenaf, ac mae hynny’n gwneud yr holl ymdrech yn werth chweil. Mae wedi dod â'r gymuned yn agosach at ei gilydd.

“Rydym wedi rhoi llawer o gyngor i gymunedau eraill yn barod, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU. Os oes unrhyw gymunedau eraill yng Nghymru yn ceisio gwneud yr un fath, mae gennym ni’r rhan fwyaf o'r atebion i'r cwestiynau y maent angen eu gofyn yn barod. Y peth pwysicaf oll sydd ei angen yw grŵp bach o bobl ymrwymedig i yrru’r prosiect yn ei flaen.”

Dysgwch fwy am sefydlu prosiect band eang cymunedol.