Neidio i'r prif gynnwy

Daw’r data yn yr erthygl hon o ddata olrhain systemau lleoli byd-eang (GPS) mewn cerbydau Trafficmaster.

Gan nad yw pob cerbyd gyda’r systemau hyn, mae’n debygol y bod tuedd na all ei fesur yn perthyn i’r data.

Cyflymder cyfartalog a roddir yn yr erthygl hon, sef y cyflymder cyffredinol dros gyfnod o fisoedd. Ar unrhyw ddiwrnod penodol, mae’n bosib y ceir digwyddiadau sy’n golygu bod y cyflymder yn is neu’n uwch na’r cyfartaledd ar wahanol ddarnau o’r ffordd.

Dyma’r ail dro i ystadegau cyflymder cerbydau ar draffyrdd Cymru gael eu cyhoeddi.

Prif bwyntiau

  • Ar dros hanner lleiniau’r A55, 60 mya neu fwy oedd y cyflymder cyfartalog, i’r naill gyfeiriad a’r llall, yn ystod yr oriau brig ac ar adegau nad ydynt yn oriau brig.
  • Mae dwy ran o’r A55 lle mae’r cyflymder cyfartalog yn aml yn llai na 30 mya. Mae’r darnau hyn yng Nghaergybi a ger croesfan Pont Britannia.
  • Mae’n bosib bod y cyflymder cyfartalog yn ystod yr wythnos ar yr A55 wedi codi rhywfaint yn y ddwy flynedd rhwng Ebrill a Mehefin 2014 ac Ebrill a Mehefin 2016.
  • Ar benwythnosau, roedd y cyflymder cyfartalog ar ei isaf am tua 12:15 tua’r gorllewin, ac am tua 16:15 tua’r dwyrain.
  • Roedd y cyflymder cyfartalog yn arafach yn ystod oriau brig y bore ar ddiwrnodau ysgol nag yn ystod gwyliau’r ysgol.

Adroddiadau

Cyflymder cerbydau ar yr A55, Ebrill i Mehefin 2016 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.