Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd llinell gymorth y gwasanaeth iechyd ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys yn cael ei chyflwyno'n genedlaethol.
Mae'r llinell gymorth 111 yn wasanaeth am ddim sy’n darparu cyngor a mynediad at driniaethau. Caiff y gwasanaeth ei reoli gan dîm o staff proffesiynol a fydd yn trin defnyddwyr neu eu cyfeirio at y gwasanaeth iechyd cywir ar gyfer eu hanghenion. Mae'r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Ar hyn o bryd, dim ond yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin mae'r gwasanaeth ar gael gan mai dyma lle cafodd ei lansio fel cynllun peilot ym mis Hydref 2016. Bwriad y cynllun hwn oedd profi pa mor ymarferol fyddai cyfuno Galw Iechyd Cymru a’r gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau.
Mae'r gwasanaeth yn uno gwasanaethau ateb galwadau a brysbennu Galw Iechyd Cymru a’r gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau. Mae'n wahanol i fodelau eraill y DU gan ei fod yn cynnwys cyfran uwch o staff clinigol.
Daw'r penderfyniad i gyflwyno'r gwasanaeth yn genedlaethol yn sgil gwerthusiad annibynnol o'r cynllun peilot. Daeth y gwerthusiad i'r casgliad bod y gwasanaeth wedi cael dros 71,000 o alwadau yn ystod y chwe mis cyntaf, a dywedodd 95% o'r rheini a ymatebodd i'r arolwg eu bod un ai’n fodlon neu'n fodlon iawn â'r gwasanaeth.
Hefyd, gwelwyd gostyngiad o 1% yn y nifer a aeth i'r Adran Argyfwng yn Abertawe Bro Morgannwg yn ystod chwe mis cyntaf y gwasanaeth.
Yn ystod y cyfnod adolygu, bu gostyngiad hefyd yn nifer y cleifion a gafodd eu cludo i Adrannau Argyfwng mewn ambiwlans. Roedd y newid hwn i'w weld yn bennaf yn nifer y cleifion a gafodd eu cludo mewn achosion nad ydynt yn rhai brys – sef gostyngiad o ychydig dros 25% yn ystod y cyfnod gwerthuso.
Dywedodd Vaughan Gething:
"Rwy'n falch o gyhoeddi y byddwn yn cyflwyno'r gwasanaeth 111 yn genedlaethol dros y 3 blynedd nesaf yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot.
"Mae'n galonogol iawn gweld gwerthusiad sy'n awgrymu cysylltiad rhwng y gwasanaeth 111 a’r gostyngiad yn y nifer sy'n cael eu cludo mewn ambiwlans. Mae hefyd yn glir o'r adborth y bu'r gwasanaeth hwn yn werthfawr wrth gefnogi cleifion a helpu'r gwasanaeth iechyd i drin cleifion sydd ag anghenion gofal brys yn fwy effeithiol.
"Rydyn ni wedi bod yn agored ac yn onest am y pwysau ar ein Hadrannau Argyfwng, yn enwedig yn ystod y gaeaf hwn. Gall pobl helpu i wneud gwahaniaeth drwy ddefnyddio ein gwasanaeth iechyd mewn ffordd synhwyrol. Bydd y gwasanaeth 111 yn helpu pobl i gael y gwasanaethau mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion, ar yr adeg gywir ac yn y man cywir."
Ychwanegodd Rheolwr Ardal Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dros 111/Galw Iechyd Cymru, Chris Powell:
“Rydyn ni’n falch iawn o’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y gwasanaeth 111 a’r adborth calonogol rydyn ni wedi’i gael yn ystod camau cychwynnol y cynllun peilot.
“Mae pobl sy’n byw yn ardaloedd Abertawe Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin wedi bod yn manteisio ar wasanaethau 111 ers sawl mis erbyn hyn, a chyn hir bydd modd i bawb yng Nghymru ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn gam arall tuag at ddarparu gofal brys mewn ffordd fwy modern, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant 111 hyd yma.”