Cyflwyno'r geiriadur meddyginiaethau a dyfeisiau (WHC/2024/042)
Rhaid i'r byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau GIG ac awdurdodau iechyd arbennig defnyddio'r geiriadur meddyginiaethau a dyfeisiau (dm+d).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Cydymffurfio.
Categori:
Safonau data.
Teitl:
Cyflwyno'r geiriadur meddyginiaethau a dyfeisiau (dm+d).
Dyddiad adolygu:
31 Ionawr 2028.
I'w weithredu gan:
- Byrddau iechyd lleol y GIG.
- Ymddiriedolaethau'r GIG.
- Awdurdodau iechyd arbennig y GIG.
Er gwybodaeth:
Cyflenwyr iechyd a gofal digidol.
Angen gweithredu erbyn:
Ar unwaith.
Anfonir gan:
Mike Emery,
Cyfarwyddwr Technoleg a Digidol,
Iechyd Digidol a Thrawsnewid / y Prif Swyddog Digidol,
Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Flynyddoedd Cynnar,
Llywodraeth Cymru.
Enw cyswllt yn Llywodraeth Cymru:
Amir Ramzan,
Uwch Reolwr,
Safonau Iechyd Digidol,
Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol, a'r Flynyddoedd Cynnar,
Llywodraeth Cymru.
Cyfeiriad:
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ.
E-bost: amir.ramzan@gov.wales.
Dogfennau amgaeedig:
Canllawiau.
Cyflwyno'r geiriadur meddyginiaethau a dyfeisiau (dm+d)
Y cefndir
Annwyl gydweithwyr,
Mae'r strategaeth digidol a data ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2023, yn cydnabod pwysigrwydd canolog rheolau sy'n seiliedig ar safonau ar gyfer llywodraethu mynediad at gofnod iechyd a gofal cymdeithasol a rennir at wahanol ddibenion, gan gynnwys ym meysydd gofal clinigol, cynllunio a rheoli gwasanaethau iechyd, ymchwil, ac arloesi.
Er mwyn cyflawni hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol mabwysiadu 4 egwyddor arweiniol ar gyfer data iechyd a gofal cymdeithasol (FAIR). Hynny yw, dylai data fod yn:
- ganfyddadwy ("findable")
- hygyrch ("accessible")
- rhyngweithredol ("interoperable")
- ddata y gellid ei ailddefnyddio ("reusable")
I gefnogi'r egwyddorion hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi mandadu nifer o safonau agored i sicrhau bod data yn cael eu disgrifio mewn perthynas â'u cystrawen, sgema, geiriadur neu gyfeiriad y data, ac yn mabwysiadu, lle bo hynny'n bosibl, safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd wedi eu dogfennu'n dda, ac sydd ar gael yn agored er mwyn manteisio i'r eithaf ar y posibiliadau rhyngweithredu.
Mae'r dull hwn yn golygu nad oes angen unrhyw ymdrechion arbennig ychwanegol yn y camau mapio a thrawsnewid wrth gael gafael ar y data a'u defnyddio, ac mae’n cynnal strwythur a chyd-destun i wella eu hansawdd a'u cywirdeb.
Geiriadur sy'n cynnwys dynodwyr unigryw a disgrifiadau testunol cysylltiedig ar gyfer meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yw geiriadur meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol (dm+d) y GIG. Mae wedi ei ddatblygu i'w ddefnyddio ar draws y GIG (ym mhob lleoliad gofal) fel ffordd o ddynodi yn unigryw y meddyginiaethau neu'r dyfeisiau penodol a ddefnyddir wrth ddarparu gofal iechyd i gleifion.
Mae defnyddio'r dynodwyr unigryw yn y dm+d yn galluogi rhyngweithredu rhwng systemau clinigol amrywiol, gan sicrhau bod gwybodaeth am feddyginiaethau yn cael ei chyfnewid mewn modd diogel a dibynadwy. Datblygwyd y dm+d i ganiatáu i systemau TG gyfathrebu gwybodaeth am feddyginiaethau â'i gilydd mewn modd hawdd a diogel. Mae'n safon rhyngweithredu yn Lloegr (SCCI0052) lle mae'n rhaid i systemau electronig ddefnyddio'r dm+d wrth gyfnewid neu rannu gwybodaeth am feddyginiaethau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gofal y claf. Mae cynnwys arall yn y dm+d, megis dyfeisiau meddygol, sydd wedi ei eithrio rhag cydymffurfio â'r safon.
Ar hyn o bryd mae 5 cydran i fodel y dm+d. Mae pob cydran yn disgrifio cynnyrch ar wahanol lefelau o gronynnedd i gefnogi gwahanol achosion defnydd. Mae pob cydran o'r model yn cynnwys rhestr o gysyniadau, pob un â disgrifiad a dynodydd unigryw. Mae'r holl ddynodwyr unigryw a ddefnyddir yn y dm+d yn ddynodwyr cysyniad SNOMED CT (a thrwy hynny maent yn cysylltu â'r derminoleg glinigol GIG a ddewisir). Am ragor o wybodaeth am y dm+d, trosolwg, dogfennaeth, gweminarau, a dolen at y porwr dm+d, ewch i wefan dm+d Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.
Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n berchen ar y dm+d, ac mae'r gwaith o'i gynnal a'i gadw yn gydgyfrifoldeb Gwasanaethau Presgripsiynau Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG a GIG Lloegr.
Mae data dm+d yn cael eu rhyddhau'n wythnosol mewn set o ffeiliau XML, trwy Technology Reference Data Update Distribution Service (TRUD) GIG Lloegr. Mae wedi ei drwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, a gellir ei ddefnyddio am ddim. Rhaid i ddefnyddwyr dderbyn telerau'r drwydded er mwyn lawrlwytho'r ffeiliau dm+d o TRUD.
Ni ellir defnyddio'r dm+d ar ei ben ei hun, rhaid ei ddefnyddio o fewn systemau TG. Cyfrifoldeb sefydliadau iechyd a gofal yw sicrhau bod eu systemau TG yn defnyddio'r dm+d yn ddiogel. Felly, dylid ystyried gweithredu'r dm+d yn frodorol mewn systemau.
Mae mabwysiadu'r safon sylfaenol hon yn alinio GIG Cymru yn strategol â GIG Lloegr, a bydd yn gwella ac yn sicrhau cysondeb ac effeithlonrwydd o ran rheoli meddyginiaethau yng Nghymru, oherwydd ei photensial i helpu i wella rhyngweithredu, ac felly gofal a chanlyniadau'r claf.
Bydd hyn hefyd yn ei gwneud yn haws alinio â thueddiadau rhyngwladol, gan fod geiriaduron eraill wedi eu datblygu i'w defnyddio gan gyrff gofal iechyd cenedlaethol, gan gynnwys RxNorm yn yr Unol Daleithiau, ac AMT (Australian Medicines Terminology).
Gofynion gweithredu yng Nghymru
Pan fydd system ddigidol yn cofnodi meddyginiaethau ac yn trosglwyddo'r wybodaeth honno i system arall, rhaid i fyrddau iechyd lleol y GIG, ymddiriedolaethau'r GIG, ac awdurdodau iechyd arbennig y GIG sicrhau bod y dm+d yn cael ei ddefnyddio i nodi'r meddyginiaethau hynny ar y lefel strwythurol briodol.
Mae rhagor o wybodaeth am y dm+d, gan gynnwys ei lefelau strwythurol, ar gael ar y gwefannau canlynol:
- Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
- dm+d porwr (chwilio cynnwys dm+d)
- gwefan dm+d GIG Lloegr a'r dm+d e-ddysgu ar gyfer gofal iechyd (dogfennau ategol ac adnoddau e-ddysgu)
- Technology Reference Data Update Distribution Service (TRUD) GIG Lloegr (a ddefnyddir gan GIG Lloegr i drwyddedu a dosbarthu data cyfeirio)
- gweinydd terminoleg GIG Lloegr (ateb sy'n cydymffurfio â FHIR sy'n dal ac yn lledaenu terminolegau a dosbarthiadau cenedlaethol a rhyngwladol sydd wedi eu sicrhau (megis SNOMED CT ac ICD-10) a theminolegau sydd wedi eu mandadu i'w defnyddio yn Lloegr megis dm+d)
- dyfodol terminoleg meddyginiaethau y DU GIG Lloegr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau'r dm+d
I gael mynediad at y dm+d ac i gael cymorth i'w weithredu yng Nghymru, cysylltwch â Gwasanaeth Terminoleg Gyfeirio Cymru drwy DHCW.ReferenceDataTeam@wales.nhs.uk.
Cydnabyddir nad yw pob defnydd posibl o ddata meddyginiaethau yn gofyn am weithredu cynnwys llawn y dm+d, a dim ond yr agweddau hynny sy'n berthnasol i'r defnydd y bwriedir ei wneud o'r system y mae'n rhaid eu rhoi ar waith. Rhaid i fyrddau iechyd lleol y GIG, ymddiriedolaethau'r GIG, ac awdurdodau iechyd arbennig y GIG sicrhau bod y gofynion hyn yn cael eu nodi'n briodol wrth greu, caffael neu ddiweddaru system ddigidol sy'n cofnodi meddyginiaethau ac yn trosglwyddo'r wybodaeth honno i system arall. Mae cynnwys arall yn y dm+d, megis dyfeisiau meddygol, sydd wedi ei eithrio rhag cydymffurfio â'r safon.
Cyfrifoldeb pob bwrdd iechyd lleol y GIG, ymddiriedolaeth y GIG, ac awdurdod iechyd arbennig y GIG yw sicrhau bod eu systemau digidol yn gallu derbyn a phrosesu unrhyw god dm+d sy'n berthnasol i'w hachos defnydd mewn modd priodol.
Mae'r dm+d yn cael ei ddiweddaru bob wythnos ac fe'i cyflenwir fel ffeiliau data i'w defnyddio o fewn systemau gwybodaeth. Dylai sefydliadau iechyd a gofal sicrhau bod systemau'n cael eu diweddaru'n gyson, a dylai amlder diweddariadau gael eu gyrru gan ofynion y rhaglen neu’r achos defnydd penodol.
Yn gywir,
Mike Emery,
Cyfarwyddwr Digidol a Thechnoleg,
Trawsnewid Digidol / Prif Swyddog Digidol,
Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar,
Llywodraeth Cymru.