Mae disgwyl i Fil newydd gael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw fydd yn cyflwyno'r ail dreth i gael ei datganoli i Gymru, sef treth gwarediadau tirlenwi, o fis Ebrill 2018 ymlaen.
Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yw'r trydydd mewn cyfres o dri Bil i sefydlu trefniadau trethi yng Nghymru. Daw ddeufis ar ôl cyflwyno’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).
Fel y dreth dirlenwi bresennol yng Nghymru a Lloegr, treth ar waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi fydd y dreth hon. Gweithredwyr safleoedd tirlenwi fydd yn gyfrifol am ei thalu, ac fe fyddan nhw’n trosglwyddo'r costau hyn i weithredwyr gwastraff.
Ar hyn o bryd, mae 25 o safleoedd tirlenwi yng Nghymru yn nwylo 20 o weithredwyr safleoedd tirlenwi. Yng Nghymru, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd treth dirlenwi'n cynhyrchu £27m yn ystod 2018-19.
Bydd cynnwys y Bil yn eithaf cyson â'r dreth dirlenwi bresennol er mwyn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau ac osgoi sefyllfa lle mae unigolion yn teithio dros y ffin i waredu gwastraff. Ar y llaw arall, bydd hefyd yn ceisio gwella'r drefn bresennol drwy ddatgan y rheolau mewn ffordd glir, sy’n haws eu deall a thrwy fynd i'r afael â'r meysydd sy'n achosi dryswch ac ansicrwydd ar hyn o bryd.
Mae dwy gyfradd o dreth dirlenwi, cyfradd is ar gyfer deunyddiau cymwys a chyfradd safonol ar gyfer pob deunydd arall. Bydd y cyfraddau hyn yn parhau’n berthnasol i'r dreth gwarediadau tirlenwi, ond bydd y Bil hefyd yn ychwanegu trydydd cyfradd ar gyfer gwarediadau heb eu hawdurdodi ac mae disgwyl i'r gyfradd hon fod yn uwch na'r gyfradd safonol. Bydd hyn yn rhwystr ariannol a fydd yn helpu i atal gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon ac yn mynd i'r afael â ffynhonnell bosib o osgoi trethi.
Bydd rhan o'r arian gaiff ei godi o'r dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei roi i Gynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, fydd yn cael ei sefydlu cyn mis Ebrill 2018 i ddisodli'r Gronfa Cymunedau Tirlenwi.
Bydd y cyllid yn cael ei rannu ymhlith prosiectau sy'n canolbwyntio ar fioamrywiaeth, lleihau gwastraff a materion amgylcheddol eraill. Caiff rhagor o wybodaeth ynghylch sut bydd y cynllun yn cael ei ddatblygu ei chyhoeddi maes o law.
Bydd cyfraddau’r dreth yn cael eu cyhoeddi yn nes at fis Ebrill 2018 er mwyn rhoi ystyriaeth i amgylchiadau a blaenoriaethau economaidd y pryd. Bydd y dreth yn cael ei chasglu a'i rheoli gan Awdurdod Cyllid Cymru, a fydd yn cydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru i orfodi'r dreth a sicrhau cydymffurfiaeth.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Dyma'r trydydd o dri Bil i sefydlu trefniadau trethi yng Nghymru, ac mae'n gam pwysig tuag at ddatganoli trethi i ni. Am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd, ry'n ni'n datblygu ac yn rhoi system dreth ar waith sy'n diwallu anghenion penodol ein gwlad a'n pobl.
"Drwy gyflwyno'r dreth gwarediadau tirlenwi yn lle'r dreth dirlenwi o fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar yr arian a godir gan y dreth hon. Mae Cymru ar flaen y gad o ran ei pholisi gwastraff ac mae treth gwarediadau tirlenwi yn elfen bwysig ar gyfer cyrraedd y nod o Gymru ddiwastraff.
“Ry’n ni wedi gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r Bil hwn. Mae'n syml ac yn eglur, mae'n adlewyrchu arferion sydd wedi hen fagu eu plwyf, ac mae'n gyfredol ac yn berthnasol i Gymru."
Mae disgwyl i'r Bil gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol am y Bil yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd yfory.