Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwynwyd terfyn cyflymder o 20mya gennym ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru yn Medi 2023.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth wnaethom 

Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i basio cyfraith yn newid y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig i 20mya. 

Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle mae yna lawer o bobl. Yn aml mae ganddynt oleuadau stryd, wedi eu gosod o leiaf bob 200 llath. O’r blaen, y terfyn cyflymder yn y mannau hyn oedd 30mya. 

Gwnaethon ni weithio gydag:

  • Awdurdodau lleol, sy’n gyfrifol am ffyrdd sirol
  • Asiantaethau Cefnffyrdd, sy’n rhedeg y rhwydwaith ffyrdd strategol ar ran Llywodraeth Cymru

i nodi pa ffyrdd ddylai aros yn 30mya. Gwnaethon ni gyhoeddi canllawiau i helpu awdurdodau priffyrdd i benderfynu. 

Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddon ni ganllawiau newydd ar gyfer awdurdodau priffyrdd i’w helpu i benderfynu pa ffyrdd allai fynd yn ôl i’r hen derfyn cyflymder o 30mya. 

Rhaid i bob awdurdod priffyrdd ddilyn y broses statudol ar gyfer gorchmynion Rheoli Traffig i wneud eithriadau.

Mae map ar DataMapCymru yn dangos pa ffyrdd a fydd yn aros yn 30mya.

Arwyddion ffyrdd

Mae arwyddion ffyrdd yn dangos pryd rydych chi’n croesi’r ffin i ardal â therfyn cyflymder gwahanol.

Gan mai 20mya yw’r terfyn diofyn mwyach, ni fydd arwyddion atgoffa. Arwyddion atgoffa yw’r arwyddion llai hynny sy’n cael eu rhoi ar oleuadau stryd yn hytrach na mewn parau. 

Pam wnaethom ni hyn

  • Rydym wedi gwneud y newid hwn i:
    lleihau nifer y gwrthdrawiadau ac anafiadau difrifol ganddynt (gan leihau'r effaith ar y GIG hefyd o drin y bobl sydd wedi'u hanafu)
  • annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau
  • helpu i wella ein hiechyd a'n lles
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel

Effeithiau cynnar

Cyn cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd, cafodd ei dreialu mewn wyth cymuned ledled Cymru: 

  • Llandudoch, Sir Benfro
  • Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin
  • Sant-y-brid, Bro Morgannwg
  • Canol Gogledd Caerdydd
  • Pentref Cil-ffriw, Castell-Nedd Port Talbot
  • Y Fenni, Sir Fynwy
  • Glan Hafren, Sir Fynwy
  • Bwcle, Sir y Fflint

Yn gyffredinol, cafwyd bod cyflymder wedi gostwng yn yr ardaloedd hyn.

Cewch ddarllen mwy yn yr adroddiadau monitro ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Cael y cyflymder cywir ar y ffordd iawn

Credwn fod 20mya yn iawn, bydd yn achub bywydau ac yn lleihau gwrthdrawiadau ac anafiadau. Rydym am sicrhau ei fod wedi'i dargedu ar y ffyrdd cywir ac mae angen eich help arnom.

Rydym am i chi ddweud wrth yr awdurdod priffyrdd perthnasol os ydych chi'n credu y dylai ffordd benodol:

  • newid o 20mya i 30mya
  • newid o 30mya I 20mya
  • aros yn 20mya

Wrth roi adborth rhaid i chi:

  • fod yn glir ac yn fanwl ynghylch pa ran o'r ffordd rydych chi'n sôn amdani
  • roi rhesymau am eich barn

Bydd yr awdurdodau priffyrdd yn gwrando ar eich adborth ac yn ei ystyried law yn llaw â’r canllawiau newydd cyn iddynt benderfynu ar y terfyn ar gyfer pob ffordd.