Heddiw, mae Lesley Griffiths wedi cadarnhau y bydd rheoliadau yn cael eu cyflwyno ar gyfer Cymru gyfan y gwanwyn nesaf i warchod ansawdd dŵr rhag llygredd amaethyddol.
Bydd y rheoliadau'n dod i rym ym mis Ionawr 2020 ond bydd cyfnodau pontio ar gyfer rhai o'r elfennau er mwyn rhoi amser i ffermwyr addasu a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion.
Bydd y rheoliadau'n cynnwys y mesurau a ganlyn:
- cynllunio ar gyfer rheoli maethynnau
- defnyddio gwrtaith mewn ffordd gynaliadwy a fydd yn gysylltiedig ag anghenion y cnwd o dan sylw
- gwarchod dŵr rhag llygredd sy'n gysylltiedig â phryd, ble a sut y mae gwrteithiau'n cael eu gwasgaru
- safonau'n ymwneud â storio dom/tail.
Cafwyd adroddiadau eisoes y gaeaf hwn am arferion gwael yn ystod cyfnodau pan oedd amodau'r tywydd yn anaddas, ac rydym eisoes wedi gweld mwy o ddigwyddiadau eleni nag a welwyd y llynedd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet Lesley Griffiths:
“Y llynedd, amlinellais i fy mwriad i gyflwyno ffordd o fynd i'r afael â llygredd nitradau ar lefel Cymru gyfan. Eleni, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau sydd wedi achosi llygredd sylweddol, gan niweidio'r amgylchedd ac enw da'r diwydiant amaeth. Yr un mor niweidiol, yng nghyd-destun Brexit, yw’r effaith mae digwyddiadau o’r fath yn ei chael ar y gwaith sydd wrthi’n cael ei wneud ar Werthoedd Brand Cynaliadwy ar gyfer Cynhyrchion o Gymru.
“Ar drothwy'r gaeaf fel hyn, dwi’n cael adroddiadau am ragor o ddigwyddiadau o’r fath ac am wasgaru slyri pan fo amodau’r tywydd yn anaddas. ’Dyw gwasgaru slyri ddim yn wael bob tro, ond rhaid iddo gael ei wneud mewn ffordd gyfreithlon er mwyn osgoi canlyniadau mor ddinistriol.
“Mae'r arferion gwael hyn yn golygu nad oes unrhyw bysgod o gwbl mewn llawer o rannau o'n hafonydd. Rhaid gwarchod ein cymunedau gwledig, sy'n dibynnu ar dwristiaeth, genweirio a diwydiannau bwyd.
“Dwi wedi mynd ati'n ofalus i ystyried yr angen i gadw'r ddysgl yn wastad rhwng camau rheoleiddiol, mentrau gwirfoddol a buddsoddi er mwyn mynd i'r afael â llygredd amaethyddol.
“Yn y tymor hir, byddwn ni'n datblygu sylfaen reoleiddiol ar sail yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar Brexit a'n Tir. Ond yn y tymor byr, rhaid inni weithredu 'nawr i fynd i'r afael â'r lefelau annerbyniol hyn o lygredd amaethyddol.
“Dyna pam dwi'n cadarnhau heddiw y bydda i'n cyflwyno rheoliadau ar gyfer Cymru gyfan y gwanwyn nesaf i fynd i'r afael â’r llygredd hwn. Bydd y rheoliadau'n seiliedig ar arferion da y mae llawer o ffermydd yn eu defnyddio eisoes fel mater o drefn − rhaid i hynny fod yn norm yn y dyfodol.
“Bydd y rheoliadau'n golygu y bydd modd cymryd camau gorfodi cadarn a chyson. Byddan nhw hefyd yn sicrhau na fydd unrhyw rwystrau’n ein hatal rhag masnachu cynhyrchion amaethyddol gyda'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit ac yn ein helpu i fodloni rhwymedigaethau cenedlaethol a rhyngwladol ar ansawdd dŵr.
“Dyma'r peth iawn i'w wneud − ar gyfer yr amgylchedd, yr economi ac ar gyfer enw da ffermio yng Nghymru.”