Neidio i'r prif gynnwy

Manylion

Dyddiad cyhoeddi:

24 Mehefin 2024.

Statws:

Gweithredu.

Categori:

Iechyd y cyhoedd.

Teitl:

Cyflwyno rhaglenni brechu newydd GIG Cymru yn erbyn y Feirws Syncytiol Anadlol (RSV).

Dyddiad dod i ben / dyddiad adolygu:

Amherthnasol.

I’w weithredu gan y canlynol:

  • Prif weithredwyr, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
  • Arweinwyr imiwneiddio, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
  • Cydgysylltwyr imiwneiddio, byrddau iechyd.
  • Arweinwyr gweithredol brechu, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
  • Arweinwyr brechu rhag COVID-19, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
  • Cyfarwyddwyr meddygol, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
  • Cyfarwyddwyr gofal sylfaenol, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
  • Cyfarwyddwyr gweithredol nyrsio, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
  • Prif fferyllwyr, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
  • Cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
  • Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Cyfarwyddwr Cynllunio, Rhaglen Frechu Cymru, Gweithrediaeth GIG Cymru.
  • Fferylliaeth Gymunedol Cymru.
  • Y Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol, Cymru.
  • Ymarferwyr cyffredinol.
  • Fferyllwyr cymunedol.

Anfonir gan:

Dr Keith Reid, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (Iechyd y Cyhoedd).

Enwau cyswllt yng Ngrŵp Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, a Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru:

Yr Is-adran Frechu,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd.
CF10 3NQ.

E-bost:

llc.timyrhaglenfrechu@llyw.cymru

Cyflwyno rhaglenni brechu newydd GIG Cymru yn erbyn y Feirws Syncytiol Anadlol (RSV)

Annwyl Gydweithwyr,

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) y bydd dwy raglen imiwneiddio ar gyfer y Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) yn dechrau yng Nghymru o fis Medi 2024 i ddiogelu babanod yn ogystal ag oedolion hŷn.

Mae RSV yn un o'r feirysau cyffredin sy'n achosi peswch ac annwyd yn yr hydref. Ledled y byd, mae RSV yn heintio hyd at 90% o blant o fewn dwy flynedd gyntaf eu bywyd ac mae'n aml yn heintio plant hŷn ac oedolion. Babanod o dan flwydd oed a'r henoed sy'n wynebu'r risg fwyaf o orfod mynd i'r ysbyty oherwydd yr haint.

Yn ôl Cynllun Brechu Rhydychen:

In the UK RSV accounts for approximately 450,000 GP appointments, 29,000 hospitalisations and 83 deaths per year in children and adolescents, the majority in infants. It also has a major impact on elderly adults; 175,000 GP appointments, 14,000 hospitalisations and 8,000 deaths per year in the UK.

O'r herwydd, bydd rhoi rhaglen frechu rhag RSV ar waith yn helpu i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed ac yn lleihau'r pwysau ar y GIG yn ystod misoedd y gaeaf.

Rwy'n falch, felly, o allu ysgrifennu atoch i roi cyfarwyddiadau ynghylch cynnal rhaglenni brechu RSV o'r hydref hwn. Bydd y gweinidog yn gwneud cyhoeddiad cyn gynted ag y bydd modd i bedwar gweinidog iechyd y DU wneud cyhoeddiad sy'n gyson â'i gilydd. Mae deunyddiau cyfarwyddyd proffesiynol ychwanegol yn cael eu paratoi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu i roi'r rhaglen ar waith, a bydd y rhain yn cael eu rhannu cyn bo hir.

Mae'r llythyr hwn wedi'i anelu at weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gyfrifol am gomisiynu a chyflwyno'r rhaglen frechu RSV yng Nghymru. Rydym yn eich annog i rannu'r canllawiau hyn â phawb sy'n ymwneud â chyflwyno'r rhaglen yn eich ardal.

Egwyddorion craidd

Bydd y rhaglen frechu RSV arferol newydd yn cael ei chynnig drwy gydol y flwyddyn i'r grwpiau canlynol:

  • oedolion hŷn, wrth iddynt droi'n 75 oed
  • menywod beichiog, a fydd yn cael cynnig brechiad ar ôl 28 wythnos o feichiogrwydd, a bydd rhaglen dal i fyny ar gyfer y rhai sydd wedi mynd heibio i'r 28 wythnos ond sydd heb roi genedigaeth eto [troednodyn 1]

Bydd ymgyrch benodol yn cael ei chynnal ar gyfer oedolion hŷn hefyd, gan dargedu'r rhai rhwng 75 a 79 oed (+364 diwrnod) oed [troednodyn 2]. Bydd yr ymgyrch hon yn para am 12 mis ar ôl i'r rhaglen ddechrau ar 1 Medi 2024.

Bydd mamau'n cael cynnig y brechiad yn ystod pob beichiogrwydd er mwyn diogelu pob baban rhag RSV.

Disgwyliadau'r rhaglen

Disgwylir i'r byrddau iechyd sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael eu brechu, gwneud yn siŵr nad yw brechlynnau'n cael eu gwastraffu hyd y bo modd, canolbwyntio o hyd ar gyrraedd y bobl fwyaf agored i niwed, a deall annhegwch a mynd i'r afael ag ef drwy sicrhau bod pawb sy'n gymwys i gael brechiad yn gallu cael un.

O gofio hyn, rydym yn disgwyl:

  • bod pawb sy'n gymwys i gael brechiad RSV yn cael gwahoddiad mewn da bryd:
    • ar gyfer oedolion hŷn, dylid anelu at wahodd pobl i gael eu brechu o fewn 12 wythnos ar ôl eu pen-blwydd yn 75 oed
    • ar gyfer menywod beichiog, dylid cynnig brechiad iddynt yn eu hapwyntiad cynenedigol 28 wythnos, a dylai'r cynnig fod ar gael nes byddant wedi cael eu rhyddhau o wasanaethau bydwreigiaeth
  • dylai'r byrddau iechyd wneud pob ymdrech i sicrhau bod cymaint â phosibl yn cael eu brechu ym mhob grŵp, gan ganolbwyntio'n benodol ar sicrhau tegwch o ran brechu, er enghraifft drwy geisio sicrhau bod y cyfraddau brechu yn debyg yn ardaloedd lleiaf difreintiedig a mwyaf difreintiedig y bwrdd iechyd

Bydd y ffordd y cafodd y rhaglen ei rhoi ar waith yn cael ei hadolygu ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Bydd y disgwyliadau ar gyfer cam nesaf y rhaglen yn cael eu hystyried a'u rhoi ar waith fel rhan o'r adolygiad hwnnw. Bydd rhagor o gyngor a chyfarwyddiadau yn cael eu rhannu wedi hynny.

Dyddiad dechrau'r rhaglen

Y rhaglen arferol i oedolion hŷn

Bydd y rhaglen frechu arferol i oedolion, ar gyfer pobl sy'n troi'n 75 oed, yn dechrau o 1 Medi 2024, a bydd y rhai sy'n gymwys yn cael eu gwahodd o fewn 12 wythnos i'w pen-blwydd yn 75 oed.

Ymgyrch benodol ar gyfer oedolion hŷn

Bydd yr ymgyrch benodol ar gyfer pobl 75 i 79 [troednodyn 3] oed yn cael ei lansio'n ffurfiol fis Chwefror 2025. Yn ymarferol, mae hyblygrwydd ar gael i ddechrau arni o 1 Medi 2024, os bydd capasiti ar gael neu os bydd pobl gymwys yn gofyn am frechiad a bod modd i hynny ddigwydd. Bydd yr ymgyrch yn para am 12 mis ar ôl i'r rhaglen ddechrau, felly bydd yn dechrau ar 1 Medi 2024 ac yn dod i ben erbyn 31 Awst 2025. Yn ymarferol, mae hyblygrwydd ar gael o ran dechrau'r ymgyrch benodol ar gyfer oedolion hŷn, er mwyn cydnabod pa mor gyflym yr ydym yn sefydlu'r rhaglen RSV yr hydref hwn ac y bydd pwysau eraill ar wasanaethau yr adeg honno. Ni ddylai'r rhaglen RSV amharu ar gynnal rhaglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn 2024 i 2025.

Rhaglen i famau

Bydd y rhaglen arferol sy'n cynnig brechiad i bob menyw feichiog ar ôl 28 wythnos o feichiogrwydd, i ddiogelu babanod, yn dechrau ar 1 Medi 2024. Yn ddelfrydol, cyn i'r brechiad gael ei roi yn ystod yr apwyntiad 28 wythnos, dylid cael sgwrs gyda menywod beichiog yn eu hapwyntiad cynenedigol 20 wythnos am RSV a manteision y brechiad yn ei erbyn.

Rhaid cynnal rhaglen dal i fyny ar gyfer menywod sydd wedi mynd heibio i 28 wythnos o feichiogrwydd, hyd at yr adeg y byddant yn cael eu rhyddhau o wasanaethau bydwreigiaeth. Dylai hyn ddechrau o 1 Medi 2024, yn eu hapwyntiad cynenedigol nesaf neu'n agos ato.

Y rhaglen ddetholus bresennol ar gyfer gwrthgyrff RSV

Bydd y rhaglen ddetholus bresennol o driniaeth gwrthgyrff monoclonaidd yn erbyn RSV i fabanod newydd-anedig risg uchel yn parhau. Dylai'r byrddau iechyd barhau i ddilyn yr holl ganllawiau cyfredol fel y'u nodir yn y 'Llyfr gwyrdd'.

Cymorth ariannol

Cytunwyd ar gyllid i gynorthwyo'r byrddau iechyd i gynnal rhaglen frechu RSV, a bydd y manylion yn cael eu hanfon at y cyfarwyddwyr cyllid maes o law.

Trefniadau gwasanaeth

Mae trafodaethau ar y gweill gyda'r Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol (Cymru) i gytuno ar rôl gwasanaethau meddygol cyffredinol o ran darparu brechiad i'r rhai sy'n gymwys. Mae hyn yn cynnwys trafodaeth ynghylch manyleb gwasanaeth. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu maes o law.

Rwy'n ymwybodol iawn y bydd rhaid i dimau gynllunio'n gyflym ar gyfer y rhaglenni hyn, a hynny ochr yn ochr â'r paratoadau ar gyfer rhaglen frechu'r gaeaf yn erbyn clefydau anadlol, 2024 i 2025. Mae eich gwaith caled a'ch ymrwymiad i wneud i'r rhaglenni hyn lwyddo, ac i ddiogelu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed oherwydd RSV, yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.

Yn gywir,
Dr Keith Reid.
Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (Iechyd y Cyhoedd).

Annex 1

RSV vaccination programmes for 2024 to 2025

Further information:

RSV vaccine ordering, storage and waste

RSV vaccine for the NHS vaccination programme will be supplied by United Kingdom Health Security Agency (UKHSA) in line with other routine vaccination programmes (excluding flu and COVID-19) and ordering will be via the Immform platform. The vaccine will be available to order from 1 August 2024 and deliveries made in line with other routine vaccines.

Both the older adult programme including catch up and maternal programme will be implemented with Abrysvo® supplied by Pfizer. As the vaccine is the same for both programmes but will be ordered via separate codes on Immform, due care should be given to ensure volumes of vaccine used for each cohort are correct.

Abrysvo® is part of the Medicines and Healthcare products Regulatory Agency’s (MHRA) black triangle scheme for new medicines and vaccines to allow rapid identification of new safety information. Health professionals and those vaccinated are asked to report suspected adverse reactions through the online Yellow Card scheme, by downloading the Yellow Card app or by calling the Yellow Card scheme on 0800 731 6789 9am to 5pm Monday to Friday.

Detailed clinical guidance on RSV and RSV vaccination is contained in chapter 27a of Immunisation Against Infectious Disease (the 'Green book').

Vaccine orders should be reviewed to ensure that sufficient supplies of appropriate vaccines have been ordered to meet the needs of eligible groups without hold stock in excess of 2 weeks demand.

GPs and health boards must ensure that all vaccines are received, stored, prepared and subsequently transported (where appropriate) in accordance with the relevant manufacturer’s, Public Health Wales' and local health boards' guidance and all associated standard operating procedures.

Patient Group Directions (PGDs)

PGD links and supporting content will be available prior to the commencement of the programme, and should be reviewed, ratified, and authorised locally by the health board/trust for local use.

Patient Group Directions (PGD) - Welsh Medicines Advice Service (wales.nhs.uk)

Communications

The importance of public communications is fully recognised. Public Health Wales will lead the RSV immunisation programme communications and marketing campaign. Information will be available at Public Health Wales' RSV page.

Surveillance and reporting

Public Health Wales will lead surveillance and monitoring of RSV and the RSV immunisation programme in Wales. To support delivery of the programme, Public Health Wales will provide surveillance reports and will work closely with Digital Health and Care Wales to access data from appropriate national data systems, scoping potential for centrally reconciling uptake data where appropriate.

Work is being undertaken at pace to provide a national digital solution for the recording of and payment for RSV vaccinations. Further information will be communicated when possible.

Footnotes

[1] Bydd menywod beichiog yn parhau i fod yn gymwys nes y byddant wedi'u rhyddhau o'r gwasanaethau mamolaeth a dylid manteisio ar bob cyfle i gynnig brechiad iddynt.

[2] Bydd pob unigolyn rhwng 75 a 79 oed sydd â dyddiad geni rhwng 2 Medi 1944 a 1 Medi 1949 (gan gynnwys y dyddiad hwnnw) yn gymwys ar gyfer y rhaglen dal i fyny rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025. Ar ôl hynny, byddant yn parhau i fod yn gymwys tan eu pen-blwydd yn 80 oed. Bydd y rhai sy'n troi'n 80 oed rhwng 2 Medi 2024 a 31 Awst 2025 yn parhau i fod yn gymwys hyd at a chan gynnwys 31 Awst 2024 (hynny yw ar gyfer blwyddyn gyntaf y rhaglen yn unig).

[3] Bydd pob unigolyn rhwng 75 a 79 oed sydd â dyddiad geni rhwng 2 Medi 1944 a 1 Medi 1949 (gan gynnwys y dyddiad hwnnw) yn gymwys ar gyfer y rhaglen dal i fyny rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025, ac ar ôl hynny byddant yn parhau i fod yn gymwys tan eu pen-blwydd yn 80 oed.