Fel rhan o gytundeb rhwng y pedair gwlad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau sy’n atal rhai pobl LHDTC+ rhag rhoi meinweoedd, esgyrn llawfeddygol a bôn-gelloedd yn cael eu codi yng Nghymru.
Rhannwyd yr argymhellion â Llywodraeth Cymru yn dilyn adolygiad gan grŵp llywio FAIR (For the Assessment of Individualised Risk), sef cydweithrediad ledled y DU sy’n cynnwys cynrychiolwyr o holl wasanaethau gwaed y DU, arbenigwyr meddygol, gwyddonol ac academaidd, grwpiau LHDTC+, yn ogystal â detholiad o gleifion, rhoddwyr a’u teuluoedd.
Gall rhoi meinweoedd a chelloedd achub a newid bywydau cleifion mewn angen. Defnyddir croen, tendonau, esgyrn a meinweoedd eraill a roddir i atgyweirio neu ailadeiladu cyrff ac wynebau pobl sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol, tra defnyddir croen, esgyrn a falfiau’r galon a roddir i achub bywydau llawer o gleifion, neu wella ansawdd eu bywydau. Daw rhoddion gan roddwyr byw, neu roddwyr sydd wedi marw, yn dilyn trafodaethau gyda theulu’r ymadawedig.
Gall rhoi mêr esgyrn/bôn-gelloedd hefyd achub bywydau cleifion sy’n dioddef mathau penodol o ganserau a chlefydau gwaed a’r system imiwnedd eraill sy’n effeithio ar fêr yr esgyrn. Mae Cofrestrfa Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru a chofrestrfeydd eraill y DU yn casglu mêr esgyrn/bôn-gelloedd gan roddwyr ar gyfer cleifion sydd angen trawsblaniad i achub eu bywyd yma yn y DU ac ar draws y byd.
Yn 2020, yn dilyn adolygiad gan grŵp llywio FAIR, cyflwynodd Llywodraeth Cymru newidiadau pwysig i gymhwysedd rhoddwyr gwaed a phlatennau. Bellach, mae pawb sy’n rhoi gwaed, waeth beth yw eu rhywedd, yn cael cwestiynau am eu hymddygiadau rhywiol, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar y tri mis diwethaf. Mae’r newidiadau hyn wedi caniatáu i fwy o bobl o gymunedau LHDTC+ roi gwaed.
Gan adeiladu ar y newidiadau a ddaeth i rym yn 2020, mae grŵp llywio FAIR-III erbyn hyn wedi gwneud argymhellion pellach ar gyfer rhoi celloedd a meinweoedd. Mae’r argymhellion hyn wedi’u cymeradwyo gan y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau, sy’n cynghori Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig.
Yn dilyn y penderfyniad, bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru, Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn Lloegr a sefydliadau eraill sy’n ymwneud â rhoi a thrawsblannu nawr yn gweithio gyda’i gilydd i newid y cwestiynau cymhwysedd a ofynnir yn ystod y broses rhoi meinweoedd a chelloedd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
Mae rhoddion meinweoedd a chelloedd yn chwarae rhan bwysig ym maes meddygaeth fodern. Gallan nhw wella bywydau pobl yn aruthrol, ac weithiau achub eu bywydau.
Rwy’n falch o gyhoeddi y bydd gweithredu’r argymhellion yn ymestyn hyn i roi meinweoedd a chelloedd. Mae angen cynifer o roddwyr â phosib arnom ni, a bydd y cam hwn yn galluogi mwy o bobl i wneud y rhoddion amhrisiadwy hyn. Bydd y newidiadau yn sicrhau bod asesiad risg mwy teg a mwy diweddar yn cael ei gynnal ar gyfer pob rhoddwr, a hynny heb unrhyw wahaniaethu.
Byddwn i’n annog unrhyw un rhwng 17 a 30 oed i ymuno â Chofrestrfa Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru ac i barhau i optio i mewn i’r rhaglen genedlaethol ar gyfer rhoi organau a meinweoedd.
Wrth siarad am y newidiadau hyn, dywedodd Tracey Rees, Prif Swyddog Gwyddonol Dros Dro Gwasanaeth Gwaed Cymru:
Roedden ni’n falch o fod yn un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i gyflwyno argymhellion grŵp llywio FAIR yn 2020, gan alluogi mwy o bobl nag erioed i roi gwaed.
Er nad yw gwasanaethau meinweoedd a chelloedd yn gyfrifol am benderfynu ar y rheolau ar gyfer derbyn rhoddwyr, rydyn ni wrth ein boddau bod ein gwaith ar y cyd â grŵp llywio FAIR wedi arwain at newidiadau pellach i’r rheoliadau sy’n ymwneud â rhoi meinweoedd a chelloedd yn y Deyrnas Unedig.
Gan adeiladu ar y gwaith arloesol hwn, rydyn ni unwaith eto yn falch iawn o fod yn gweithio gyda gwasanaethau ledled y Deyrnas Unedig i wella diogelwch ym maes rhoi meinweoedd a chelloedd, diolch i’r ffaith fod meini prawf cymhwysedd tecach wedi’u cyflwyno.
Nawr ein bod wedi derbyn argymhellion grŵp llywio FAIR, rydyn ni’n aros am arweiniad pellach gan Gydbwyllgor Cynghori ar Wasanaethau Proffesiynol Trallwyso Gwaed a Thrawsblannu Meinweoedd y Deyrnas Unedig ar weithredu’r newidiadau hyn fel y gellir eu cyflwyno heb unrhyw oedi.
I gael gwybod beth mae’r rhoddion hyn yn eu golygu i gleifion, ewch i Gwasanaeth Gwaed Cymru.