Os ydych yn feistr ar gwch pysgota hamdden am diwna asgell las, rhaid i chi gwblhau ffurflen dal a rhyddhau.
Rhaid i chi gyflwyno eich ffurflen o fewn 24 awr i ddiwedd y daith bysgota.
Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais gofynnir ichi gwblhau;
- dyddiad y daith bysgota
- sawl tiwna asgell las gafodd ei ddal
- maint y pysgod (mewn modfeddi)
- lleoliad y gweithgaredd pysgota (gan ddefnyddio rhif yr ardal ICES)
- p'un a oedd y tiwna asgell las yn cael ei ryddhau yn farw neu'n fyw
- gwybodaeth am unrhyw sgil-ddalfa
Rydym yn casglu'r wybodaeth hon at ddibenion adrodd mewn perthynas ag Erthygl 19G o Reoliad (UE) 2016/1627 Senedd Ewrop a'r Cyngor fel y'i diwygiwyd.