Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a chyflwyno dogfennau i PCAC yn y fformat cywir i leihau oedi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut i anfon dogfennau

Gallwch gyflwyno ffeiliau hyd at 30 MB trwy e-bost: PEDW.GwaithAchos@llyw.cymru.

I gyflwyno ffeiliau mwy o faint (hyd at 50 MB), mae’n rhaid i chi ddefnyddio ein platfform rhannu ffeiliau (Objective Connect). Bydd angen i chi ddarparu’r cyfeiriad e-bost ar gyfer yr unigolyn a fydd yn lanlwytho’r ffeiliau. Byddwn yn anfon gwahoddiad ato i rannu ffeiliau. 

Ni allwn dderbyn cyflwyniadau: 

  • trwy unrhyw blatfform rhannu ffeiliau arall, fel Dropbox neu WeTransfer
  • ar ddisg neu gof bach
  • sy’n fwy na 50MB

Fformatio

Dylai dogfennau wedi’u teipio ddefnyddio ffont sans serif fel Arial neu Verdana o faint ffont 11 neu fwy. 

Dylai dogfennau llawysgrifen ddefnyddio priflythrennau ac inc du. Mae’n rhaid i bob dogfen, gan gynnwys delweddau, fod yn glir ac yn ddarllenadwy.

Defnyddiwch bapur o faint A4 neu A3, lle bynnag y bo’n bosibl.

Dylai cyflwyniadau gynnwys: 

  • rhestr dogfennau i esbonio ble y gallwn ddod o hyd i wybodaeth yn y cyflwyniad
  • rhestr cynnwys ar gyfer dogfennau hir fel Datganiad Amgylcheddol 
  • yr holl ddogfennau ategol hanfodol ar gyfer y ffurflen gais neu apêl berthnasol

Mae’n rhaid i ddogfennau: 

  • beidio â bod wedi’u diogelu gan gyfrinair neu’n ddogfennau darllen yn unig
  • bod ag argraffu a golygu wedi’u galluogi

Rydym yn derbyn y fformatau ffeiliau canlynol: 

  • PDF .pdf
  • Microsoft Word .doc neu .docx
  • TIF .tif neu .tiff
  • JPEG .jpg neu .jpeg
  • ZIP .zip

Mae’n rhaid i chi gael caniatâd y perchennog a thalu unrhyw ffi trwydded hawlfraint cyn cyflwyno dogfennau.

Rydym yn hyrwyddo ac yn annog defnyddio’r Gymraeg. Rydym yn croesawu cyfathrebu yn Gymraeg, yn ddwyieithog neu yn Saesneg. Byddwn yn gohebu â chi yn yr iaith ddatganedig o’ch dewis.

Tystiolaeth fideo

Bydd PCAC yn derbyn tystiolaeth fideo neu sain dim ond: 

  • os yw’n cael ei chynnal ar wefan sydd ar gael i’r cyhoedd 
  • os wedi’i chynnwys yn y daflen cyflwyno tystiolaeth fideo neu sain (fe all y daflen hon fod ar ei phen ei hun neu fel atodiad i ddogfennau tystiolaeth eraill)

Y sawl sy’n cyflwyno’r dystiolaeth fideo neu sain sy’n gyfrifol am sicrhau: 

  • bod y dolenni a ddarperir yn gywir 
  • bod cyfeiriadau clir at wybodaeth sydd i’w hystyried gan yr Arolygydd

Ni fydd Arolygydd yn gweld darn o ffilm: 

  • os yw’n cynnwys data personol sensitif unigolyn byw
  • os yw’n ddifrïol, yn hiliol neu’n graffig
  • os yw’n enllibus o bosibl neu’n ymwneud â gweithgarwch troseddol

Trwy gyflwyno’r daflen tystiolaeth fideo neu sain, rydych yn cadarnhau: 

  • nad yw’ch tystiolaeth fideo yn cynnwys unrhyw gynnwys annerbyniol a ddisgrifir uchod
  • bod unrhyw unigolyn y gellir ei adnabod o’ch tystiolaeth fideo wedi cydsynio i ymddangos
  • eich bod wedi cael caniatâd y perchennog a thalu unrhyw ffi drwydded berthnasol ar gyfer yr holl gynnwys sy’n destun hawlfraint

Mapiau a chynlluniau

Mae’n rhaid i fapiau a chynlluniau: 

  • ddangos graddfa, gogwydd a maint y papur
  • bod wedi’u hargraffu wrth raddfa 

Gofynion enwi dogfennau

Cadwch enwau’n syml a pheidiwch â defnyddio jargon diangen, rhifau cyfeirnod na chomas.

Argymhellwn eich bod yn defnyddio’r fformat canlynol: [Dyddiad cyflwyno BBBB-MM-DD – Teitl y Ddogfen – Gwybodaeth arall] 

Er enghraifft: 2024-02-13 – Ffigur 1 – Cynllun Lleoliad Safle 

Dylech roi rhif ac enw i atodiadau a’u cyflwyno fel dogfennau ar wahân. Gwnewch yn siŵr fod y dudalen gyntaf yn cynnwys rhif yr atodiad. Dylai enwau ffeiliau ddangos pa apêl maen nhw’n berthnasol iddi a’u dilyniant.

Er enghraifft: 2024-01-01 – Datganiad apêl Atodiad 2 – Cyfrifiad traffig

Defnyddiwch ‘Rhan 1 o 3’, ac ati, yn enw’r ffeil os ydych wedi rhannu dogfen fawrPlease.

Copïau caled

Mae’n rhaid i chi gyflwyno copïau caled ar gyfer rhai mathau o achosion (er enghraifft, ceisiadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol).

Dylai’r rhain: 

  • gael eu rhwymo’n briodol 
  • cael eu hanfon at ein swyddfeydd trwy gludwr neu eu danfon trwy apwyntiad