Heddiw, bydd Bil newydd ar gyfer gwella ansawdd a dulliau o ymgysylltu â'r cyhoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn cael ei gyflwyno’n swyddogol i’r Cynulliad Cenedlaethol gan yGweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Bydd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yn darparu dull o sicrhau ansawdd gwasanaethau iechyd a fydd ar waith ar draws y system gyfan, a hynny er lles cenedlaethau'r dyfodol. Gwneirhyn drwy ehangu cwmpas dyletswydd ansawdd presennol cyrff y GIG, a thrwy osod dyletswydd bellgyrhaeddol ar Weinidogion Cymru wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth iechyd. Wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol, bydd yn rhaididdynt ystyried yn llawn a yw pob penderfyniad yn gwella ansawdd a chanlyniadau.
Drwy sefydlu dyletswydd o onestrwydd sefydliadol, bydd y Bil yn helpu i greu'r diwylliant agored, tryloyw a gonest sy'n rhan annatod o ddarparu gofal o ansawdd uchel. Bydd yn rhaid i sefydliadau'r GIG fod ynagored ac yn onest â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth bob amser pan fo rhywbeth yn mynd o'i le.
Bydd y Bil hwn yn adeiladu ar y gwaith a wneir eisoes i sicrhau tryloywder yng nghyrff y GIG yng Nghymru, a bydd yn annog sefydliadau i ddysgu ac i wella'n barhaus, gan gynnal hyder ac ymddiriedaeth cleifiona defnyddwyr gwasanaeth.
Bydd y Bil hefyd yn creu llais newydd ac annibynnol i ddinasyddion a fydd yn disodli'r Cynghorau Iechyd Cymuned presennol. Bydd y llais hwn yn gweithredu fel un corff ar gyfer cynrychioli'r cyhoedd, gan ddarparucyngor a chymorth i unigolion sydd am wneud cwyn am eu profiad o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae hyn yn adlewyrchu amcanion cynllun 'Cymru Iachach' Llywodraeth Cymru drwy ei fod yn sicrhau mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn gwneud yr angen i wrando ar leisiau poblCymru yn rhan ganolog o'r gwaith o gynllunio, darparu, a gwella gwasanaethau.
Bydd y Bil yn rhoi'r cyfle i Weinidogion benodi Is-gadeirydd i fyrddau Ymddiriedolaeth y GIG os ydynt o'r farn y bydd hynny'n sicrhau cysondeb ar draws Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Lleol, ac yn cryfhau'rarweinyddiaeth a'r trefniadau llywodraethu.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
“Yma yng Nghymru, rydyn ni'n ffodus o gael mwynhau rhai o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau, a’r rheini’n caeleu darparu gan staff ymroddgar a charedig ar bob lefel. Ond rhaid inni sicrhau bod yr angen i sicrhau ansawdd, ac i fod yn agored ac i ddysgu yn rhannau annatod o ddiwylliant sy'n gwrando ar leisiau ein pobl wrth fynd ati i wella gwasanaethau.
“Mae'r Bil hwn yn cefnogi’r prif flaenoriaethau yn ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach', lle mae sicrhau ansawdd yn allweddol i sicrhau bod y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymruyn addas ar gyfer y dyfodol, a'i bod yn rhoi gwerth am arian.”
Bydd y Bil nawr yn dechrau mynd drwy broses graffu yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac os bydd yn cael ei basio, fe ddaw'n gyfraith yn haf 2020.