Mae deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno heddiw sy’n gwneud y dreth gyngor yn decach.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd hon yn dileu’r pŵer i garcharu pobl am beidio talu’r dreth gyngor, ac yn eithrio pobl ifanc (hyd at 25 oed) sy’n gadael gofal rhag gorfod talu’r dreth gyngor.
Y newidiadau hyn yw’r diweddaraf mewn cyfres o fesurau sydd wedi’u cynllunio i wneud y dreth gyngor yn decach, gan amddiffyn yr unigolion mwyaf agored i niwed yng Nghymru rhag y pwysau ariannol cynyddol sy’n eu hwynebu pan fyddant angen arian fwy nag erioed.
Ochr yn ochr â’r newidiadau deddfwriaethol, mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r awdurdodau lleol wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd fwy cyson, sy’n canolbwyntio ar y bobl wrth ymdrin â dyledion, ôl-ddyledion a gorfodi, drwy gyflwyno Protocol Treth Gyngor Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
“Rydyn ni’n gwybod bod aelwydydd yn cael trafferth ymdopi â diwygiadau lles Llywodraeth y DU ac rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru a’n hawdurdodau lleol yn gwneud popeth y gallwn i helpu. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn gam cadarnhaol arall i’r cyfeiriad cywir, ond mae llawer i’w wneud eto.
“Byddwn yn parhau i weithio yn agos gydag awdurdodau lleol, CLlLC a sefydliadau’r trydydd sector i archwilio sut y gellir gwella’r system dreth gyngor yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.”
Dywedodd y Cynghorydd Mary Sherwood (Abertawe), llefarydd Cydraddoldeb, Diwygio Lles a Threchu Tlodi Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC):
“Mae Protocol Treth Gyngor Cymru yn newid sylweddol yn ein hagwedd at ddyledion ac ôl-ddyledion a bydd yn canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau yn gynnar gyda phobl sy’n talu’r dreth gyngor. Mae hefyd yn hybu perthnasoedd gwaith agosach gyda’n partneriaid yn y sector cynghori ac asiantaethau gorfodi i sicrhau nad yw problemau yn gwaethygu y tu hwnt i reolaeth yn ddiangen ar gyfer pobl agored i niwed.
“Rydym yn edrych ymlaen at gyfrannu at y mesurau hyn gyda Llywodraeth Cymru.”
Mae’r dreth gyngor yn hanfodol i gynnal y gwasanaethau lleol yr ydym oll yn dibynnu arnynt, ond, mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylid trin y bobl hynny sy’n cael mwy o drafferth cyfrannu yn deg a chydag urddas. Mae’r ddeddfwriaeth newydd hon yn annog unigolion ac awdurdodau lleol i drafod yn gynnar ac mewn modd adeiladol, ac yn sicrhau agwedd gyson ym mhob rhan o Gymru.