Neidio i'r prif gynnwy

Helpu athrawon i ddatblygu i fod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr i wella safonau yn ein hysgolion fydd sylw'r academi arweinyddiaeth newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth roi gwybod y newyddion diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am gynlluniau ar gyfer Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, amlinellodd Kirsty Williams sut y byddai'r sefydliad newydd yn gweithredu o hyd braich i Lywodraeth Cymru. A nod yr Academi yw sicrhau bod yr holl arweinwyr sy'n rhan o'r system addysg yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth iawn er budd ein disgyblion.

Mae Ann Keane, cyn-Brif Arolygydd Estyn, wedi  bod yn cydweithio ag amrywiaeth o arbenigwyr i ystyried sut y gellir sefydlu'r Academi. Mae ei 'bwrdd cysgodol' wedi gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys:

  • Caniatáu mynediad teg i athrawon ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth.
  • Defnyddio'r dystiolaeth a'r ymchwil ddiweddaraf sy'n dangos sut mae arweinyddiaeth mewn ysgolion yn gwneud gwahaniaeth. 
  • Datblygu arweinwyr presennol ein hysgolion, ac amlygu arweinwyr ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Kirsty Williams:

“All ansawdd ein system addysg ddim fod yn well nag ansawdd ein hathrawon, ac mae arweinyddiaeth yn ganolog i hynny.

“Ein her, fel y nodwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), yw sicrhau dull cenedlaethol o weithredu i wella arweinyddiaeth, a gwneud yn siŵr bod hynny'n llywio'r diwygiadau ym maes addysg.

“Mae'r dystiolaeth yn dangos y gall yr arweinwyr yn ein hysgolion wneud gwahaniaeth mawr. Rwy am inni gael yr arweinwyr iawn sy'n meddu ar y sgiliau iawn i wella safonau a phennu'r disgwyliadau uchaf ar gyfer pob un o'n pobl ifanc.

“Rwy wedi gofyn i swyddogion ddechrau gwaith cwmpasu i benderfynu ar yr amserlen a'r adnoddau sydd eu hangen i sefydlu'r Academi erbyn gwanwyn 2018 fan bellaf.  Rwy'n disgwyl i'r Academi fod yn sefydliad hyblyg a chanddo bwrdd strategol bach dan arweiniad prif weithredwr.

“Rwy am ddiolch i Ann Keane am ei gwaith wrth inni fynd ati i sefydlu'r Academi. Mewn cyfnod byr o amser, mae Ann a'r bwrdd cysgodol wedi gwneud cynnydd da yn hynny o beth.”


Dywedodd Ann Keane:

“Rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn argymhellion y bwrdd cysgodol.  Canlyniad nid yn unig ein trafodaethau, ond hefyd y cysylltiadau yr ydym wedi'u meithrin â phenaethiaid ac arweinwyr eraill yn y sector addysg ar draws Cymru yw'r argymhellion hyn - gan gynnwys deall am yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill.

“Byddwn ni'n rhannu cynigion mwy manwl ar gyfer yr Academi mewn cyfarfodydd ar hyd a lled Cymru dros yr wythnosau nesaf, i wneud yn siŵr bod yr hyn sydd wedi'i drefnu ar gyfer yr Academi yn sicrhau mynediad cyfartal at ddatblygu arweinyddiaeth o safon uchel i arweinwyr a darpar arweinwyr sy'n gweithio ym maes addysg yng Nghymru, er budd ein dysgwyr yn y pen draw.

“Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am i'r Academi gael ei sefydlu, ac yn gweithredu'n llawn, erbyn 2018. Mae'r sefydliad yn rhan o amrediad o ddiwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith, sy'n cynnwys newidiadau i hyfforddiant cychwynnol athrawon, cynigion i ailwampio ein safonau addysgu a meini prawf achredu newydd ar gyfer darparwyr ym maes hyfforddiant cychwynnol athrawon.”