Fe'i sefydlwyd ym mis Ebrill 2016, ac mae'r prosiect yn gweithio ar y cyd â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a phartneriaid eraill i gynnig cyngor a chymorth ar fanteision magu plentyn yn ddwyieithog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Prosiect unigryw yw 'Cymraeg i Blant' a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Mudiad Meithrin i gefnogi ac annog rhieni a darpar rieni i drosglwyddo'r Gymraeg i'w plant a hyrwyddo manteision dwyieithrwydd.

Fe'i sefydlwyd ym mis Ebrill 2016, ac mae'r prosiect yn gweithio ar y cyd â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a phartneriaid eraill i gynnig cyngor a chymorth ar fanteision magu plentyn yn ddwyieithog. Mae'n darparu grwpiau i rieni a gofalwyr hefyd, er mwyn iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n helpu i ddatblygu sgiliau Cymraeg plant o'r crud i oedran ysgol.

Mae rhwydwaith o swyddogion ar hyn o bryd yn cynnig y gwasanaethau hyn mewn 14 o awdurdodau lleol. Ond bydd y cyllid newydd hwn yn galluogi Mudiad Meithrin i gyflwyno'r gweithgareddau hyn ar draws Cymru gyfan am y tro cyntaf. Bydd natur y gwasanaethau a gynigir yn cael ei addasu i fodloni anghenion ieithyddol penodol rhieni.

Dywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

“Rydyn ni'n gwybod bod y cyfuniad o ryngweithio â rhieni a rhyngweithio cymdeithasol, gan gynnwys clywed iaith ymarferol bob dydd  yn helpu plant i ddysgu iaith. Mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar gymhwysedd ieithyddol y plentyn yn nes ymlaen yn ei fywyd.

“Mae annog a hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn y cartref teuluol yn parhau i fod yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru.

“Mae'n hanfodol ein bod ni'n cefnogi'n hadnodd pwysicaf, sef ein pobl – p'un a ydyn nhw'n rhugl, yn ddihyder neu'n awyddus i ddysgu. Rhaid inni sicrhau eu bod nhw'n gallu defnyddio'r iaith mewn ffyrdd sy'n fwy ymarferol, creadigol a difyr.”

Dywedodd Dr Gwenllian L. Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Rydyn ni'n hynod o falch ein bod ni'n gallu cyflwyno 'Cymraeg i Blant' i bob rhan o Gymru ac yn edrych ymlaen at annog a chefnogi teuluoedd i ddefnyddio a throsglwyddo'r iaith ar yr aelwyd.  Byddwn ni'n parhau i gydweithio'n agos â gwahanol bartneriaid ar lawr gwlad sydd i gyd yn rhannu'r un weledigaeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”