Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd rheolau'r coronafeirws yn cael eu tynhau ar draws y De y penwythnos hwn, gan gynnwys yn y brifddinas, mewn ymateb i gynnydd yn lledaeniad y feirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd cyfyngiadau lleol yn dod i rym yn Llanelli am 6pm ddydd Sadwrn – y tro cyntaf i gyfyngiadau gael eu cyflwyno yn fwy lleol – ac yn Abertawe a Chaerdydd am 6pm ddydd Sul.

Bydd Gweinidogion hefyd yn cwrdd ag arbenigwyr iechyd y cyhoedd, arweinwyr awdurdodau lleol ac eraill dros y penwythnos i ystyried a oes angen estyn y cyfyngiadau lleol i Gastell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thorfaen nos Sul.

Dyma’r cyfyngiadau a fydd yn berthnasol i bawb sy’n byw yn Llanelli, Caerdydd ac Abertawe:

  • Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardaloedd hyn na'u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu i dderbyn addysg.
  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw. Ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig, na bod yn rhan o aelwyd estynedig (a elwir weithiau’n ‘swigen’). Mae hyn yn golygu nad yw cwrdd o dan do (yn nhai pobl, mewn tafarn neu rywle arall) ag unrhyw un nad yw’n byw gyda chi yn cael ei ganiatáu ar hyn o bryd, oni bai bod gennych reswm da, fel gofalu am rywun agored i niwed.
  • Rhaid i bob safle trwyddedig beidio â gwerthu alcohol ar ôl 10pm.
  • Bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau o dan do, sy’n agored i’r cyhoedd, fel siopau, yn ogystal ag ar drafnidiaeth gyhoeddus – fel yng ngweddill Cymru. (Mae rhai eithriadau cyfyngedig i bobl ag anableddau a chyflyrau meddygol – mae’r rhain yr un fath ag ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.)

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

“Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweithredu i gyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol mewn rhannau o’r De. Yn sgil cynnydd pryderus yn nifer yr achosion o’r coronafeirws yn nhref Llanelli ac yn nwy o’n dinasoedd mwyaf, gan gynnwys y brifddinas – Caerdydd ac Abertawe – rydym yn cymryd camau pellach drwy gyflwyno mesurau ychwanegol yn yr ardaloedd hyn.

“Mae cyflwyno cyfyngiadau mewn unrhyw ran o Gymru bob amser yn benderfyniad anodd iawn inni ei wneud – mae gorfod cyflwyno’r cyfyngiadau hyn yn ein dinasoedd mwyaf, gan gynnwys ein prifddinas, yn garreg filltir ddifrifol arall mewn blwyddyn anodd.

“Rydym yn cymryd y camau hyn i ddiogelu iechyd pobl a cheisio torri’r gadwyn drosglwyddo ac atal y sefyllfa rhag gwaethygu.

"Mae angen cymorth pawb arnom i reoli'r coronafeirws. Mae angen i bawb gyd-dynnu a dilyn y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i'ch diogelu chi a'ch anwyliaid.”

Yn sir Gaerfyrddin, mae camau mwy lleol yn cael eu cymryd gan fod mwy nag wyth o bob 10 achos yn gysylltiedig â thref Llanelli. Bydd ffiniau ward y dref yn cael eu defnyddio i ddiffinio terfynau’r cyfyngiadau.

Bydd gwiriwr cod post ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ynghyd â manylion llawn am y cyfyngiadau.

Mae cyfyngiadau lleol eisoes ar waith mewn chwe ardal arall yn y De – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, bwrdeistref Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd.

Bydd y cyfyngiadau lleol newydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Byddant yn cael eu gorfodi gan awdurdodau lleol a'r heddlu.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw golwg agos ar y sefyllfa yn y Gogledd, lle mae’r darlun yn un cymysg – mae nifer yr achosion yn llawer is nag yn y De, ond mae tystiolaeth bod y coronafeirws yn cynyddu mewn rhai rhannau o’r rhanbarth.

Dyma’r camau i’w dilyn i Ddiogelu Cymru:

  • Cadw'ch pellter bob amser
  • Golchi'ch dwylo'n rheolaidd
  • Gweithio gartref pan allwch chi
  • Dilyn unrhyw gyfyngiadau lleol
  • Dilyn y rheolau ynghylch cwrdd â phobl 
  • Aros gartref os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau.