Bydd deddfwriaeth newydd i gyfyngu ar werthu cynnyrch uchel mewn braster, siwgr a halen am brisiau rhatach dros dro, ac i gyfyngu ar eu lleoliad mewn siopau, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru.
Mae’r gyfraith newydd, a fydd yn cael ei chyflwyno yn 2024 ac mewn grym ar draws Cymru erbyn 2025, yn adeiladu ar yr ymrwymiad i wella deiet ac atal gordewdra drwy gyfyngu ar y ffyrdd y gellir hyrwyddo bwydydd uchel mewn braster, siwgr neu halen.
Bydd hyn yn cynnwys cynigion cyfaint, fel opsiynau amleitem a chyfyngiadau ar ble gellir arddangos cynnyrch uchel mewn braster, siwgr neu halen mewn siopau, fel ar ben yr eil. Yn ogystal, er mwyn mynd i’r afael â graddfa’r her, bwriedir cynnwys prisiau rhatach dros dro a chynigion ‘bargen pryd bwyd’. Er na fyddai’n gwahardd bargeinion pryd bwyd na mathau eraill o gynigion, byddai’n cyfyngu ar gynnwys y cynnyrch lleiaf iach yn y cynigion hyn.
Mae cynnyrch sy’n uchel mewn braster, siwgr neu halen yn dueddol o gael eu hyrwyddo’n fwy, a byddant yn cael eu lleoli mewn safleoedd amlycach mewn siopau. Mae hyn yn annog pobl i brynu’n fyrbwyll, ac yn golygu y bydd pobl yn prynu mwy o fwyd nad ydynt yn rhai iach, yn gwario wario mwy, ac yn bwyta mwy nag yr oeddent wedi’i fwriadu.
Mae dros 60% o oedolion yng Nghymru’n drymach na’r hyn sy’n bwysau iach, ac mae dros chwarter o blant dros eu pwysau neu’n ordew erbyn y byddant yn dechrau yn yr ysgol. Gall hyn gael effaith sylweddol ar iechyd pobl, gyda lefelau clefydau cysylltiedig â gordewdra, fel diabetes math 2, ar eu huchaf erioed yng Nghymru.
Dangosodd arolwg Amser i Siarad diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cefnogaeth gryf gan y cyhoedd ar gyfer camau’r llywodraeth i wneud ein bwyd yn iachach, gyda 57 y cant o bobl yn cytuno y dylai llywodraethau ddefnyddio dulliau ariannol fel trethi i leihau siwgr mewn bwydydd â lefelau uchel o siwgr. Dywedodd wyth deg pedwar y cant o ymatebwyr eu bod yn bwriadu gweithredu yn y 12 mis nesaf i gyrraedd neu i gadw pwysau iach.
Er na fydd y ddeddfwriaeth hon yn berthnasol i bob cynnyrch uchel mewn braster, siwgr a halen, bydd yn targedu’r bwyd a diod sy’n cyfrannu fwyaf at ordewdra.
Y gobaith yw y bydd y mesurau hyn yn annog y diwydiant bwyd a manwerthu i ystyried sut y gellir sicrhau bod dewisiadau iachach ar gael yn haws ac yn fwy fforddiadwy, fel y gall pawb fforddio deiet iach. Gallai hyn gynnwys darparu mwy o gynigion ar fwydydd iachach neu leihau cynnwys y braster, siwgr a halen yn y cynnyrch sy’n berthnasol i’r cyfyngiadau ar hyn o bryd.
I'w gwneud yn haws i’r diwydiant bwyd weithredu ar draws ffiniau, y nod yw y bydd cynnyrch sy’n dod o dan y ddeddfwriaeth newydd yn cyd-fynd â’r cynnyrch sydd wedi’i gynnwys yn neddfwriaeth Lloegr. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio'n agos gyda’r diwydiant bwyd i roi canllawiau iddynt a’u cefnogi i ail-greu cynnyrch er mwyn lleihau’r lefelau braster, siwgr a halen.
Mae tystiolaeth yn parhau i gael ei hystyried ar gyfer cynigion eraill sy’n destun ymgynghoriad ar yr un pryd, gan gynnwys tystiolaeth mewn lleoliadau y tu allan i’r cartref, fel labeli calorïau ac atal gwerthiant diodydd egni i blant o dan 16 oed.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:
Bydd y ddeddfwriaeth hon yn datblygu ein hymrwymiad i wella deiet pobl a helpu i atal gordewdra yng Nghymru. Er bod deddfwriaeth debyg yn cael ei chyflwyno yn Lloegr, rwyf o blaid cynnwys prisiau rhatach dros dro a chynigion bargen pryd bwyd yn ein cyfyngiadau ni.
Ni fyddwn yn gwahardd unrhyw gynnyrch nac unrhyw fath o gynnig. Ein nod yw ailgydbwyso ein hamgylcheddau bwyd tuag at gynnyrch iachach, fel bod y dewis iach yn ddewis hawdd.
Mae hyn yn rhan bwysig o’r jig-so fel rhan o’n strategaeth Cymru Iach: Pwysau Iach fel rhan o ddull aml-elfen. Mae ein cenhedlaeth nesaf yn haeddu ‘normal’ gwahanol, lle bydd bwydydd iachach ar gael yn haws, yn fwy fforddiadwy, ac yn fwy atyniadol, a lle nad yw bwydydd braster, siwgr a halen uchel yn rhan ganolog o’n deiet. Mae ein cenhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol yn haeddu gwell.
Dywedodd Gemma Roberts, Cyd-gadeirydd Cynghrair Gordewdra Cymru:
Mae Cynghrair Gordewdra Cymru yn gefnogol iawn o strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach Llywodraeth Cymru. Mae argyfwng gordewdra yng Nghymru, ac ry’n ni’n falch o weld bod Llywodraeth Cymru’n cynnig deddfwriaeth a fydd yn cefnogi pobl Cymru i wneud dewisiadau iachach.
Mae prisiau rhatach dros dro yn dechnegau marchnata sy’n cael eu defnyddio i gynyddu gwerthiant a chynyddu’r nifer sy’n cael eu bwyta. Nid rhoddion am ddim ydyn nhw, a dydyn nhw ddim yn arbed arian inni. Rydym mewn argyfwng costau byw, ac mae defnyddwyr yn cael eu peledu â chynigion arbennig sy’n cynyddu gwariant ar y cynnyrch lleiaf iach. Mae angen i Gymru symud y cydbwysedd a chefnogi teuluoedd i’w gwneud yn haws i brynu ffrwythau a llysiau.
Dywedodd Dr Ilona Johnson, Meddyg Ymgynghorol mewn Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu’r ddeddfwriaeth newydd hon i gefnogi pobl i wneud y dewisiadau iachach y gwyddom eu bod yn dymuno eu gwneud. Gyda mwy na 60 y cant o oedolion ac oddeutu chwarter y plant o dan bump nawr dros eu pwysau neu’n ordew, mae hwn yn fater difrifol yng Nghymru. Mae hwn yn fater eithriadol o gymhleth a does dim un ateb clir. Gwyddom o’r dystiolaeth fod polisïau sy’n targedu’r amgylchedd bwyd yn effeithiol a bod fframwaith deddfwriaethol cryf yn gam pwysig i’n helpu ni i newid y cydbwysedd tuag at ddewisiadau iachach a phobl iachach.
Cynhelir ymgynghoriad ar fesurau gorfodi yn nes ymlaen eleni.