Disgwylir i ddeddfwriaeth arfaethedig i ddiddymu'r Hawl i Brynu a hawliau cysylltiedig gael ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Bydd y Bil yn darparu bod yr Hawl i Brynu, yr Hawl i Brynu a Gadwyd a'r Hawl i Gaffael – ar gyfer tenantiaid i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig – yn cael eu diddymu ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf yn dilyn cael y Cydsyniad Brenhinol. 

Wrth gyflwyno'r Bil, nod Llywodraeth Cymru yw diogelu ein stoc o dai cymdeithasol yng Nghymru rhag lleihau ymhellach, gan sicrhau ei bod ar gael i gynnig tai diogel a fforddiadwy i bobl nad ydynt yn gallu prynu na rhentu cartref drwy'r farchnad dai. 

I sicrhau bod tai cymdeithasol newydd yn cael eu datblygu, mae'r Bil, os caiff ei basio gan y Cynulliad, yn darparu y bydd yr Hawl i Brynu a'r Hawl i Gaffael yn dod i ben ar gyfer tai newydd ddau fis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol. Bydd hynny'n helpu i annog landlordiaid cymdeithasol i adeiladu cartrefi newydd, o wybod na fyddant mewn perygl o gael eu gwerthu ar ôl cyfnod cymharol fyr. 

Mae'r Bil yn cyd-fynd â chamau gweithredu eraill sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflenwad o dai. 

Cyn cyflwyno'r Bil, dywedodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau:

"Mae ein tai cymdeithasol yn adnodd gwerthfawr, ond yn un sydd o dan bwysau sylweddol. Mae maint y stoc wedi lleihau'n sylweddol ers 1980 pan gafodd yr Hawl i Brynu ei chyflwyno. Mae nifer y tai a werthwyd yn cyfateb i 45% o'r stoc o dai cymdeithasol yn 1981. Fel canlyniad i hynny, roedd y rheini yr oedd angen tai arnynt - a nifer yn eu plith yn agored i niwed - yn gorfod aros am gyfnodau hirach i gael cartref yr oedden nhw’n gallu ei fforddio.

"Mae'r Bil yn cefnogi nodau ehangach Llywodraeth Cymru yn y gwaith o greu Cymru sy'n decach a mwy llewyrchus, gan helpu i drechu tlodi drwy ddiogelu ein stoc o dai cymdeithasol rhag lleihau ymhellach.

"Rwy'n cydnabod bod y cynnig yn effeithio ar denantiaid sydd eisoes yn byw mewn tai cymdeithasol, a byddwn ni’n sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o effaith y Bil mewn da bryd cyn i'r hawliau gael eu diddymu. Bydd y Bil yn cynnwys gofyniad i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth, y bydd rhaid i landlordiaid cymdeithasol yn eu tro ddarparu i bob tenant sy'n cael ei effeithio, o fewn dau fis i'r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol.

"Rydyn ni wedi pennu targed uchelgeisiol o greu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon. Yn ogystal â thai cymdeithasol, byddwn ni hefyd yn cynnig cynlluniau fel Cymorth i Brynu a Rhentu i Brynu, fel bod pobl sy'n ennill incwm gweddol isel yn gallu perchen ar dŷ eu hunain. Rydyn ni’n cefnogi dulliau rhad o brynu tŷ, ac rydyn ni’n ehangu'r stoc o dai cymdeithasol. Bydd diddymu'r Hawl i Brynu yn cyd-fynd â'r camau gweithredu eraill hyn yr ydyn ni’n eu cymryd i gefnogi pobl y mae angen tai arnyn nhw."

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru:

"Yn ystod cyfnod o brinder mawr o dai rhent cymdeithasol, a miloedd o bobl ar restri aros am dai ar hyn o bryd, mae'r cynnig gan Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r hawl i brynu yn gam i'w groesawu er mwyn mynd i'r afael â phroblem gynyddol yng Nghymru. Mae'n hanfodol bod pobl yn gallu rhentu tai rhent cymdeithasol o ansawdd da, nid yn unig i wella bywydau pobl, ond hefyd i adfywio cymunedau lleol."