Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Manylion

Statws:

Cydymffurfio.

Categori:

Safonau data.

Teitl:

Cyflwyno Cofrestr Codau Daearyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fel safon sylfaenol i’w defnyddio ar draws cyrff GIG Cymru.

Dyddiad dod i ben / dyddiad yr adolygiad:

30 Ebrill 2027.

I’w weithredu gan:

Fyrddau iechyd y GIG, ymddiriedolaethau'r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig y GIG.

Gwybodaeth:

Cyflenwyr iechyd a gofal digidol.

Angen gweithredu erbyn:

Ar unwaith.

Anfonwr:

Mike Emery,
Cyfarwyddwr Digidol a Thechnoleg,
Trawsnewid Digidol/Prif Swyddog Digidol,
Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar,
Llywodraeth Cymru.

Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:

Amir Ramzan,
Uwch-reolwr – Safonau Iechyd Digidol,
Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd.
CF10 3NQ.
E-bost: amir.ramzan@llyw.cymru

Dogfennau amgaeedig:

Dogfen ganllaw.

Dogfen ganllaw

Annwyl Gydweithwyr,

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i weithredu strwythur codau sydd wedi ei safoni ar gyfer data daearyddol.

Fe wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol weithredu polisi codau ac enwi ar 1 Ionawr 2011 ar ffurf ei chofrestr codau daearyddol. Mae strwythur codau alffaniwmerig naw-nod syml yn ganolog i’r gofrestr hon. Mae’r gofrestr codau daearyddol, ei strwythur a’i pholisi codau, wedi eu cynllunio mewn modd sy’n golygu nad yw’n bosibl ailddefnyddio neu newid codau dim ond oherwydd bod newid enw yn digwydd.

Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gorfodaeth ffurfiol fel bod yn rhaid defnyddio'r gofrestr codau daearyddiol ar draws cyrff GIG Cymru fel safon strwythurol ar gyfer codau data daearyddol ymhob system/gwasanaeth TG a digidol.

Drwy fabwysiadu’r gofrestr codau daearyddol, gellir darparu rhestr ddiffiniol o wahanol rannau daearyddol y DU a ddefnyddir ar gyfer ystadegau swyddogol. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnal y rhestr hon o wahanol rannau daearyddol, gan gydlynu’r gwaith o ddarparu codau newydd. Mae hefyd yn cynnal y cysylltiadau rhwng ystodau codau gweithredol a’r rheini sydd wedi eu harchifo ar ran Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Dylid defnyddio’r gofrestr codau daearyddol ar y cyd â’r gronfa ddata hanes codau.

Drwy ddefnyddio’r safon hon gellir gwella cysondeb a dibynadwyedd data daearyddol a gedwir, yn ogystal â gwella’r gallu i rhyngweithredu mewn perthynas â rhannu data daearyddol yng Nghymru.

Mae mabwysiadu'r gofrestr codau daearyddol fel safon sylfaenol yn sicrhau bod cyrff GIG Cymru yn cyd-fynd yn strategol â phartneriaid ar draws y DU.

Yn gywir,

Mike Emery,
Cyfarwyddwr Digidol a Thechnoleg,
Trawsnewid Digidol/Prif Swyddog Digidol,
Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar,
Llywodraeth Cymru.