Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, y bydd clinigau grŵp rhithwir ar draws Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru yn cael eu hehangu i gynnwys ymgyngoriadau grŵp rhithiwr, neu glinigau grŵp rhithiwr, ar gyfer cleifion allanol ar draws gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal yn y gymuned.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r defnydd o ymgyngoriadau fideo, sy’n cael eu galw’n Attend Anywhere, wedi ehangu’n gyflym dros y misoedd diwethaf ac wedi helpu i sicrhau bod cleifion yn parhau i allu cael gafael ar wasanaethau gofal iechyd yn ddiogel yn ystod y pandemig.

Hyd yma, mae ychydig o dan 11,000 o ymgyngoriadau gyda meddygon teulu a bron i 62,000 o apwyntiadau gofal eilaidd a gofal yn y gymuned wedi cael eu cynnal o bell yng Nghymru.

Cyflwyno clinigau grŵp rhithwir yw’r cam nesaf yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal yn nes at y cartref, a byddant yn cael eu cynnig ar draws lleoliadau gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal yn y gymuned.

Bob blwyddyn, mae tua 3.1m o gleifion yn cael eu gweld mewn adrannau cleifion allanol ledled Cymru. Bydd yr clinigau grŵp rhithwir yn darparu gofal i grwpiau o bobl ag anghenion iechyd tebyg, gan gynnwys diabetes, cyflyrau cyhyrysgerbydol, rhewmatoleg a dermatoleg.

Bydd clinigwyr yn cynnal sesiwn gyda rhwng 10 a 15 o gleifion ar faes penodol o’u gofal. Bydd y gofal hwn a rennir yn caniatáu i gleifion a chlinigwyr ddod at ei gilydd er budd pawb. Gall cleifion ddysgu o brofiadau cleifion eraill, elwa ar gymorth gan bobl sydd yn yr un sefyllfa â nhw a datblygu strategaethau eraill i gefnogi eu llwybrau eu hunain. Bydd clinigwyr yn gallu rhoi sylw i nifer o gleifion ar yr un pryd, gan ddarparu dulliau cyson o reoli eu gofal.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes wedi dechrau darparu gwasanaethau therapi o bell mewn nifer o feysydd, gan gynnwys deieteg, adsefydlu yr ysgyfaint a therapi lleferydd ac iaith yn arbennig.

Mae’r adborth ar y dull rhithiwr wedi bod yn gadarnhaol gan y cleifion a’r staff, a nodwyd bod y dechnoleg yn hawdd ei defnyddio. Dywedodd cleifion fod y gwasanaeth yn llawer mwy cyfleus a’i fod yn osgoi costau sy’n gysylltiedig â chymryd amser i ffwrdd o’r gwaith a theithio i apwyntiadau. Ystyriwyd bod y cyfle i rannu profiadau gydag eraill yn fantais hefyd.

Bydd clinigau grŵp rhithwir yn cynnig mynediad cyfleus at gymorth a chyngor i’r unigolion hynny sy’n hunanynysu, sydd ag anawsterau symud neu sy’n gaeth i’r tŷ. Byddant hefyd yn helpu’r rhai sydd ag ymrwymiadau eraill ac sy’n brin o amser, fel gofalwyr di-dâl ac unigolion sy’n gweithio gartref.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Yn ystod y pandemig, rydyn ni wedi gweld newidiadau trawsnewidiol a ffyrdd newydd o weithio i sicrhau parhad gofal i gleifion gan feddygon teulu, gwasanaethau iechyd yn y gymuned ac adrannau cleifion allanol mewn ysbytai. Mae miloedd o gleifion wedi cael gofal rhagorol yn barod drwy ymgyngoriadau fideo unigol a gallwn nawr gyflymu ein cynlluniau i gyflwyno clinigau grŵp rhithwir.

Cymru yw’r wlad gyntaf i gyflwyno’r dull hwn o weithio ar draws pob un o dair rhan ein Gwasanaeth Iechyd. Bydd ein clinigau grŵp rhithwir yn arwain y ffordd ac yn sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu manteisio ar ofal a chymorth meddygol gan ba bynnag glinigydd y mae angen iddynt ei weld, ym mha leoliad bynnag, mewn modd cyfleus o’u cartref eu hunain.

Bydd clinigau grŵp rhithwir hefyd yn ein helpu i sicrhau cadernid a pharhad gwasanaethau ac yn galluogi ein gweithwyr proffesiynol iechyd ymroddgar i ddarparu gofal a chyngor mewn ffordd ddiogel, gefnogol, a fydd o fudd i bawb, sy’n cynnig manteision hirdymor i’r Gwasanaeth Iechyd yma yng Nghymru.

Mae Redmoor-ELC, mewn partneriaeth â GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cydlynu ac yn cyflwyno’r datblygiadau rhithiwr ac yn rhoi’r cymorth technegol sydd ei angen i dros 250 o dimau clinigol i’w galluogi i ddefnyddio’r clinigau grŵp dros fideo yn ddiogel.