Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Cwnsler Cyffredinol Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad a fydd yn gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hon yn garreg filltir bwysig yn esblygiad y broses o wneud deddfwriaeth yng Nghymru, gan mai dyma’r tro cyntaf i Fil gael ei gyflwyno sy’n ymdrin â’r gyfraith ei hun fel pwnc.

Mae dwy brif ran i Fil Deddfwriaeth (Cymru).

Y nod yn y rhan gyntaf yw sefydlu system sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gadw golwg ar ba mor hygyrch yw’r gyfraith a chymryd camau i wella’r sefyllfa. Er bod hon yn broblem i’r Deyrnas Unedig i gyd, mae diffyg hygyrchedd y gyfraith yn taro Cymru’n waeth oherwydd ein setliad datganoli cymhleth, y ffaith ein bod yn rhannu awdurdodaeth gyfreithiol â Lloegr, a’r cyfrifoldeb sydd arnom i lunio cyfreithiau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r ail ran yn ymwneud â dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru; mae’n cynnwys rheolau pwrpasol ar gyfer Cymru a fydd yn ein galluogi i gwtogi a symleiddio’r ddeddfwriaeth a sicrhau ei bod yn fwy cyson.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles:

“Mae cymhlethdod y gyfraith yn y Deyrnas Unedig a’n llyfr statud anferth a di-drefn wedi bod yn bryder mawr ers blynyddoedd.

“Bydd Bil Deddfwriaeth (Cymru) yn ein galluogi i ddechrau o’r newydd ar broses o wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch i bawb.

“Mae llyfr statud clir, sicr a hygyrch yn ased economaidd ac mae’n rhoi fframwaith cyfreithiol cadarnach a mwy sefydlog i’r rhai sy’n dymuno cynnal busnes yng Nghymru, gan hybu buddsoddiad a thwf drwy hynny.

“Mae hefyd yn galluogi cyrff y sector cyhoeddus a sefydliadau eraill i ddeall y cyd-destun y maent yn gweithio ynddo yn well, ac yn gwneud y broses o wneud cyfreithiau yn fwy effeithiol ac effeithlon.

“Ond, yn bennaf oll, mae sicrhau bod y gyfraith yn hygyrch yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Mewn oes lle mae’n dod yn fwyfwy anodd cael cyngor cyfreithiol oherwydd toriadau mewn cymorth cyfreithiol, mae’n ddyletswydd ar lywodraethau a deddfwrfeydd i wneud yn siŵr ei bod yn hawdd i ddinasyddion ddarganfod a deall y cyfreithiau sy’n nodi eu hawliau a’u cyfrifoldebau.”