Dawn Bowden AS, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol
Heddiw, gosodwyd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) gerbron y Senedd.
Rydym wedi ymrwymo i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal. Bydd y Bil hwn yn sicrhau mai dim ond endidau nid-er-elw neu awdurdodau lleol fydd yn gallu darparu mathau penodol o ofal cymdeithasol i blant yn y dyfodol. Rydym hefyd, drwy'r Bil hwn, yn bwriadu galluogi pobl sy'n cael gofal iechyd parhaus y Gwasanaeth Iechyd i ofyn am daliadau uniongyrchol.
Bydd y cyfyngiadau ar elw yn gwireddu'r hyn yr ydym wedi'i gredu ers tro, sef na ddylai yna fod marchnad ar gyfer gofal i blant ac na ddylid gwneud elw o ofalu am blant sy’n wynebu heriau penodol yn eu bywydau. Nid yw'r farchnad yn gweithio'n effeithiol nac yn diwallu anghenion llawer o blant. O dan ein cynigion, bydd gofal preswyl, llety diogel a gofal maeth i blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn y dyfodol yn cael eu darparu gan y sector cyhoeddus, neu gan sefydliadau elusennol neu nid-er-elw.
Mae darpariaethau'r Bil sy'n ymwneud â gofal iechyd yn diwygio Deddf y GIG (Cymru) 2006 i ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud taliadau uniongyrchol i unigolion i ddiwallu eu hanghenion a aseswyd, neu i gyfarwyddo byrddau iechyd i arfer y swyddogaethau hyn. O ganlyniad, bydd taliadau uniongyrchol yn opsiwn i unigolion sydd wedi cael eu hasesu fel rhai y mae ganddynt angen iechyd sylfaenol ac sydd â hawl i gael gofal iechyd parhaus y GIG. Bydd taliadau uniongyrchol yn galluogi'r unigolion hyn i ddewis sut i sicrhau gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion.
Bydd y Bil hefyd yn gwneud rhai diwygiadau eraill i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i sicrhau bod y Deddfau hyn yn gweithredu'n llawn ac yn effeithiol.
Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl waith y mae fy rhagflaenydd uniongyrchol Julie Morgan, y cyn Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi'i wneud ar y Bil hwn.
Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory, gan roi mwy o fanylion am y Bil.
Edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau wrth i'r Senedd graffu ar Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).