Heddiw, mae bil i ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal wedi’i gyflwyno. Mae'r bil hwn yn rhan o'r gwaith ehangach a radical i drawsnewid gofal plant yng Nghymru.
Bydd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), sydd wedi’i osod gerbron y Senedd heddiw, hefyd yn rhoi mwy o lais a rheolaeth i bobl dros eu gofal iechyd drwy sicrhau bod taliadau uniongyrchol ar gael ar gyfer gofal iechyd parhaus.
Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn nodi ymrwymiadau i ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal.
Mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan yr elusen Voices from Care Cymru, clywodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden gan bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal pam eu bod wedi bod yn ymgyrchu dros roi diwedd ar leoliadau gofal i blant er elw yng Nghymru.
Dywedodd:
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drawsnewid gwasanaethau gofal plant mewn modd uchelgeisiol fel eu bod yn gweithredu'n well er budd plant a'u teuluoedd.
Dydyn ni ddim yn credu ei bod yn iawn gwneud elw o ofalu am blant a phobl ifanc pan fo'u hamgylchiadau yn golygu bod rhaid iddyn nhw fod yng ngofal awdurdodau lleol.
Bydd y bil hwn yn dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal ac yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau gwell sy'n diwallu anghenion plant ac yn sicrhau profiadau a chanlyniadau gwell.
Bydd hefyd yn sicrhau bod taliadau uniongyrchol ar gael ar gyfer gofal iechyd parhaus fel bod pobl yn gallu penderfynu drostynt eu hunain pwy sy'n rhoi'r gofal sydd ei angen arnyn nhw.
Bydd taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus yn caniatáu i bobl anabl a'r rhai sydd ag anghenion iechyd hirdymor gael mwy o reolaeth a mwy o lais ynghylch sut y mae eu gofal yn cael ei ddarparu.
Ar hyn o bryd, nid oes gan bobl sy'n cael gofal iechyd parhaus yng Nghymru unrhyw lais ynglŷn â hyn. Y Gwasanaeth Iechyd sy'n gwneud trefniadau ynghylch eu hanghenion gofal. Bydd eu galluogi i gael taliadau uniongyrchol yn caniatáu iddynt ddewis sut y mae eu hanghenion gofal yn cael eu diwallu. Mae hyn eisoes yn opsiwn i'r rhai sy'n cael gofal cymdeithasol.
Dywedodd Brendan Roberts, person ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac aelod o fwrdd ymddiriedolwyr Voices from Care Cymru:
Bob tro rydyn ni wedi siarad â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal am hyn, maen nhw bob amser yn dweud yn glir nad yw'n iawn bod cwmnïau yn gwneud elw o ganlyniad i'n hangen ni am ofal a chymorth.
Rydyn ni'n credu y dylai'r cyfan o'r arian cyhoeddus sy'n cael ei wario gan ein rhieni corfforaethol i ddarparu ein gofal ni gael ei wario ar hynny. Ym mis Rhagfyr 2022, gwnaeth gweinidogion Cymru addewid i ddileu elw o ofal mewn datganiad ar y cyd rhyngddyn nhw a llysgenhadon ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Rydyn ni'n falch o weld heddiw eu bod yn cadw at eu haddewid.
Dywedodd Rhian Davies, prif weithredwr Anabledd Cymru:
Mae llais, dewis a rheolaeth yn hanfodol i sicrhau hawliau pobl anabl, gan gynnwys pobl â chyflyrau iechyd hirdymor. Mae'r newidiadau angenrheidiol i ofal iechyd parhaus sy'n adlewyrchu'r rhain i'w croesawu'n fawr.
Am gyfnod rhy hir, nid yw'r rhai sy'n cael gofal iechyd parhaus wedi gallu penderfynu sut y mae eu gofal yn cael ei ddarparu, a gan bwy. Bydd y newid hwn yn caniatáu i bobl anabl gael, a mwynhau, yr un hawliau â'r rhai sy'n cael taliadau uniongyrchol gofal cymdeithasol.