Neidio i'r prif gynnwy

Mewn ymgais i hybu iechyd y genedl, mae disgwyl i Fil arloesol a fydd yn gwahardd smygu ar dir ysgolion, ysbytai ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus, gael ei gyflwyno heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yw gwella llesiant pobl yng Nghymru, ac mae’n rhoi pwyslais arbennig ar hybu iechyd plant a phobl ifanc. 

Mae’r Bil yn cynnwys cynigion i greu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer gweithdrefnau arbennig fel aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio, ac mae’n gwahardd tyllu rhannau personol o gorff unrhyw unigolyn o dan 16 oed. 

Mae hefyd yn cynnig:

  • Cynnal cofrestr genedlaethol o werthwyr tybaco neu nicotin, fel bod awdurdodau lleol yn gallu gorfodi deddfwriaeth yn well ac addysgu a chefnogi gwerthwyr

  • Gwahardd cynnyrch tybaco a nicotin rhag cael eu rhoi i unigolion o dan 18 oed, er enghraifft drwy wasanaeth cludo cynnyrch sy’n cael ei gynnig gan archfarchnadoedd 
  • Rhoi gorfodaeth ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i asesu sut bydd eu penderfyniadau yn effeithio ar iechyd corfforol a meddwl unigolion 
  • Rhoi gorfodaeth ar awdurdodau lleol i lunio strategaeth am doiledau at ddefnydd y cyhoedd yn eu hardal 
  • Gwneud fferyllfeydd yn fwy atebol i anghenion eu cymuned leol 
Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol:  

“Roedd y cyhoedd, rhanddeiliaid a’r pleidiau i gyd yn gefnogol iawn i lawer o’r mesurau yn Bil Iechyd y Cyhoedd a gafodd ei gyflwyno yn 2015. Felly, pan na chafodd y Bil ei basio, roedd yna dipyn o siom. 

“Wrth ailgyflwyno’r Bil, rydyn ni’n cadw’r meysydd hynny a gafodd eu cadarnhau yn ystod y broses graffu flaenorol – fel mesurau i gyfyngu ar smygu ar dir ysgolion, ysbytai ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus.

“Hybu iechyd plant a phobl ifanc yw’r nod sy’n ganolog i’r Bil. Bwriad y cynigion fel y gwaharddiad ar smygu ar dir ysgolion ac mewn meysydd chwarae yw atal plant rhag dod i gysylltiad ag ymddygiadau yn ymwneud â smygu. Bydd hyn yn golygu eu bod nhw’n llai tebygol o ddechrau smygu eu hunain.

“Mae’r Bil yn canolbwyntio hefyd ar wella lles pobl gan sicrhau, er enghraifft, fod awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer diwallu anghenion y bobl leol i gael mynediad at gyfleusterau toiled. O ganlyniad, bydd pobl hŷn, pobl anabl a phobl sy’n gofalu am blant ifanc yn gallu gadael y tŷ heb orfod poeni bod perygl iddyn nhw wynebu embaras. 

“Yn gyffredinol, mae iechyd pobl Cymru yn gwella ond rydyn ni yn wynebu heriau ac rydyn ni am weld gwelliannau’n digwydd yn gyflymach. Rwy’n hyderus y bydd Bil Iechyd y Cyhoedd yn ein helpu i gyflawni’r nodau hyn.”

Mae disgwyl i’r Bil gael ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw [dydd Llun 7 Tachwedd] a bydd y Gweinidog yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol ynghylch y Bil yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd yfory [dydd Mawrth 8 Tachwedd].