Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd deddfwriaeth uchelgeisiol i greu dull newydd a dewr ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Os caiff ei basio, bydd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg yn gweddnewid y system ar gyfer cefnogi disgyblion ag ADY yn llwyr, gan effeithio ar bob ystafell ddosbarth yng Nghymru.

Bydd y Bil yn rhoi'r lle canolog i'r dysgwr yn y broses, ac yn sicrhau y bydd y system yn llawer symlach a llai tebygol o achosi gwrthdaro i'r bobl hynny sy'n rhan ohoni, sy’n gwyn gyffredin am y system bresennol.

Mae'r Bil yn rhan o raglen ehangach sy’n anelu i drawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol, er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus ar gyfer pob dysgwr.

Dyma rai o brif amcanion y Bil:

  • cyflwyno'r term newydd ‘anghenion dysgu ychwanegol’ yn lle'r termau ‘anghenion addysgol arbennig’ (AAA) ac ‘anawsterau a/neu anableddau dysgu’ (AAD)
  • creu un system ddeddfwriaethol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY sy'n 0 i 25 oed, yn lle'r ddwy system wahanol sydd ar waith ar hyn o bryd
  • dileu'r system o ddatganiadau a chreu un cynllun (y cynllun datblygu unigol (CDU)) yn lle'r ystod o gynlluniau statudol ac anstatudol sydd gennym ar hyn o bryd o ran AAA/AAD ar gyfer dysgwyr, gan sicrhau hawliau teg beth bynnag yw lefel anghenion y dysgwr neu'r lleoliad addysg y mae'n ei fynychu
  • sicrhau bod barn dysgwyr a rhieni yn cael ei hystyried drwy gydol y broses gynllunio i wneud yn siwr bod pawb yn ei gweld fel rhywbeth sy'n eu cynnwys, yn hytrach na rhywbeth sy'n digwydd iddynt, a bod y plentyn neu'r person ifanc yn ganolog i bopeth
  • annog cydweithio gwell rhwng asiantaethau, fel bod anghenion yn cael eu nodi'n gynnar a bod y cymorth cywir yn ei le.

Bydd gan bron i chwarter yr holl ddysgwyr yng Nghymru ryw ffurf ar anghenion dysgu ychwanegol yn ystod eu blynyddoedd cynnar neu rywbryd yn ystod eu haddysg. Mae'r fframwaith deddfwriaethol cyfredol sy'n eu cefnogi yn seiliedig ar fodel a gyflwynwyd dros 30 o flynyddoedd yn ôl, ac erbyn hyn, cydnabyddir yn gyffredinol nad yw'n addas i'r diben mwyach.

Dywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, “Rwy'n credu y dylai pawb yng Nghymru allu cael addysg sy'n diwallu eu hanghenion, ac sy'n rhoi cyfle iddynt gymryd rhan ac elwa ohoni. Gobeithio y byddant yn mwynhau'r profiad dysgu hefyd.

“Y llynedd, 23% yn unig o ddysgwyr ag ADY a lwyddodd i gael 5 TGAU da gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg, o'i gymharu â 59% o'r holl ddisgyblion. Rhaid i ni wella ar y sefyllfa hon.

“Dydy'r system bresennol ddim yn addas i'r diben mwyach, a bydd y Bil hwn yn dod â'r fframwaith deddfwriaethol cyfan i mewn i'r unfed ganrif ar hugain, a fydd yn ein galluogi i roi cymorth effeithiol i ddysgwyr ag ADY drwy gydol eu taith addysgol.

“Dyma garreg filltir bwysig i addysg yng Nghymru sy'n ganlyniad i fisoedd a misoedd o waith gyda'n partneriaid, gan gynnwys athrawon, rhieni, llywodraeth leol, y GIG, a'r trydydd sector. Rwy'n ddiolchgar iddynt i gyd am eu holl gymorth er mwyn i ni gyrraedd y cam hwn. Mae eu cyfraniad gwerthfawr wedi rhoi dealltwriaeth lawer gwell i ni o'r heriau sydd o'n blaen, a'r angen i ni fod yn hyblyg wrth reoli newid.

“Mae'n bwysig cofio nad mater ymylol yw hwn; mae'n effeithio ar chwarter yr holl ddysgwyr yng Nghymru a gall y gwelliannau rydym yn eu cynnig yma arwain at ddeilliannau dysgu gwell ar gyfer ein dysgwyr i gyd. Bydd gwneud pethau'n iawn ar gyfer ein dysgwyr ag ADY yn helpu i sicrhau bod pethau'n iawn ar gyfer pob dysgwr. Mae'n ymwneud â gwella'r system gyfan. Mae’n gonglfaen, felly, yn ein rhaglen uchelgeisiol o ddiwygio addysg yng Nghymru.”

Dywedodd y Gweinidog hefyd, er bod angen i ni ddiwygio'r system ar raddfa eang, ein bod wedi cydweithio'n agos ag eraill er mwyn sicrhau y bydd y newidiadau pwysig hyn yn effeithiol wrth iddynt gael eu rhoi ar waith, a hefyd, fel y gallant gael eu cyflwyno mewn partneriaeth o fewn amserlen resymol. Bydd cymorth sylweddol, gan gynnwys £2.1m ar gyfer arloesi a gweithio mewn partneriaeth ar draws Cymru, yn cael ei ddarparu er mwyn helpu ein partneriaid i drosglwyddo o'r system gyfredol i'r system newydd.

“Dim ond un agwedd ar y pecyn o newidiadau ehangach sydd eu hangen yng Nghymru yw Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, ond agwedd sylfaenol iawn serch hynny. Mae ein Rhaglen Trawsnewid ADY hefyd yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau'r gweithlu addysg, er mwyn darparu cymorth effeithiol i ddysgwyr ag ADY yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â chynnig cymorth, gwybodaeth a chyngor arbenigol yn fwy hwylus. Rhan ganolog o'n holl ddiwygiadau yw'r ffocws ar gynhwysiant; rhoi plant a phobl ifanc yng nghanol y broses, a sicrhau eu bod yn cael y cymorth cywir i gyflawni eu potensial.”