Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Dogfen ganllawiau yw’r cyhoeddiad hwn, sy’n canolbwyntio ar yr egwyddorion cynllunio ar gyfer canolfannau trefol a mannau gwyrdd mwy diogel yng nghyd-destun pandemig y coronafeirws.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (fel y’u diwygiwyd) yn gosod cyfyngiadau statudol dros dro ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd yn unol â Rheoliad 2.

Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth ac enghreifftiau o ymyriadau dros dro y gall perchnogion a gweithredwyr mannau agored eu rhoi ar waith i gadw pobl yn ddiogel pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio a mannau trefol yn prysuro.

Dim ond i Gymru y mae’r canllawiau hyn yn berthnasol ac nid ydynt yn gosod unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol.

Mae’r canllawiau hyn i berchnogion a gweithredwyr mannau cyhoeddus yn bennaf, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain:

  • Awdurdodau lleol, cynghorau tref a rheolwyr/fforymau canol y dref/dinas
  • Tirfeddianwyr
  • Landlordiaid masnachol sy’n gyfrifol am fannau cyhoeddus
  • Cwmnïau rheoli
  • Y trydydd sector

Mae’r ddogfen hon yn darparu fframwaith ar gyfer adnabod y problemau sy’n gysylltiedig â defnyddio mannau cyhoeddus, gan ystyried bod angen cadw pellter cymdeithasol. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar fannau sy’n debygol o gael llawer o ymwelwyr. Mae hefyd yn cynnwys ymyriadau ymarferol dros dro ar gyfer addasu a rheoli mannau cyhoeddus.

Ei bwriad yw galluogi perchnogion a gweithredwyr mannau cyhoeddus i gynllunio ar gyfer yr addasiadau a’r ymyriadau dros dro y bydd angen eu gwneud wrth i’r cyfyngiadau ar adael y tŷ gael eu llacio’n raddol.

Wrth fynd i’r afael ag addasiadau dros dro, dylid ystyried newidiadau sy’n gwella tir y cyhoedd a phrofiad pobl o ganol ein trefi a’n dinasoedd. Lle y bo hynny’n bosibl, dylid cynnig arddangosiad gweledol ac ymarferol o beth fyddai’r ffordd orau o ailddychmygu ein mannau cyhoeddus a’r stryd fawr a’u haddasu at ddibenion gwahanol er mwyn sicrhau eu bod nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu yn y dyfodol.

Mae’r canllawiau hyn yn darparu’r ymateb cychwynnol i greu lleoliadau cyhoeddus mwy diogel yng Nghymru. Bydd canllawiau pellach ar ddulliau ymarferol o ail-greu canol trefi fel llefydd llewyrchus y mae pobl yn dymuno ymweld â nhw a’u mwynhau yn cael eu harwain gan waith a wneir gan y Grŵp Gweithredu Gweinidogol ar Ganol Trefi a Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru.

Mae’r cyhoeddiad wedi cael ei baratoi gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar Ganllawiau Llywodraeth y DU, a’i ddatblygu gyda chyngor gan arbenigwyr technegol a mewnbwn gan grwpiau allweddol yn y diwydiant sy’n gysylltiedig â pherchnogi a rheoli mannau trefol a gwyrdd. Gofynnwyd am fewnbwn gan awdurdodau lleol Cymru, Anabledd Cymru a drwy Gyngor y Bartneriaeth Gymdeithasol yng Nghymru a Chomisiwn Dylunio Cymru.

Mae iechyd y cyhoedd wedi’i ddatganoli yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

I gael cyngor am rannau eraill o'r DU, edrychwch ar y canllawiau a ddarparwyd gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban, a Llywodraeth y DU (y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol) ar gyfer Lloegr.

Bydd y ddogfen hon yn cael ei diweddaru yn unol â gofynion y lefelau Rhybudd presennol. Os oes gennych chi unrhyw adborth am gynnwys y ddogfen hon neu wybodaeth ar gyfer canllawiau yn y dyfodol, anfonwch e-bost at: customerhelp@gov.wales

Mae’r ddogfen hon yn un o blith set o ddogfennau gan Lywodraeth Cymru am fannau cyhoeddus mwy diogel a materion cysylltiedig. Mae modd gweld holl Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar y wefan Llywodraeth Cymru.

 

1.1 Sut mae defnyddio'r canllawiau hyn

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r canllawiau ar draws y prif fathau o safleoedd mewn canolfannau trefol a mannau gwyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn cynghori y dylent gael eu hasesu a’u haddasu yn ôl yr angen, er mwyn gweithredu’n ddiogel yn unol â’r mesurau cadw pellter cymdeithasol.

Caiff pob perchennog/gweithredwr ei gynghori i droi’r egwyddorion a'r enghreifftiau yn y canllawiau hyn yn gamau gweithredu penodol y mae angen eu cymryd, ochr yn ochr â chanllawiau eraill a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru.

1.2 Beth yw ystyr mannau “trefol” a “gwyrdd”

Mae’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar ganolfannau trefol a mannau gwyrdd sy’n debygol o gael llawer o ymwelwyr, yn enwedig wrth i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar aros gartref gael eu llacio’n raddol.

Canolfannau trefol – mae’r rhain yn canolbwyntio ar ardaloedd sy’n hygyrch i'r cyhoedd, fel y stryd fawr, sgwâr y dref, canolfannau trafnidiaeth ac ardaloedd siopa.

Mae canol trefi a dinasoedd yn hollbwysig i Gymru. Maen nhw’n creu synnwyr o berthyn a hunaniaeth, ac maen nhw’n hyrwyddwyr economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol allweddol.

Ein gweledigaeth ni ar gyfer canol ein trefi yw eu bod yn lleoedd gwych i fyw, gweithio a chwarae ynddynt, a’u bod yn ffynonellau hyder llesiant a balchder bro/balchder dinesig.

Canol trefi sy’n:

  • edrych yn wych, yn teimlo’n ddiogel, yn hygyrch ac yn fywiog
  • darparu cartrefi, swyddi a gwasanaethau
  • cynnig adnoddau manwerthu pwrpasol a chynaliadwy
  • darparu amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol a hamdden
  • dathlu eu treftadaeth a’r hyn sy’n eu gwneud yn unigryw
  • cynnwys seilwaith gwyrdd/tir y cyhoedd sy’n cefnogi bioamrywiaeth

Dylai unrhyw addasiadau i dir y cyhoedd adlewyrchu’r nodweddion hyn.

Mannau gwyrdd – mannau agored sy’n hygyrch i'r cyhoedd, mewn cyd-destunau trefol a maestrefol yn bennaf (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny), gan gynnwys parciau, claddfeydd a mynwentydd.

Mae’r prif egwyddorion y dylid eu hystyried yn unol â'r canllawiau hyn – a’u hintegreiddio’n llawn mewn unrhyw gynlluniau, datblygiadau neu newidiadau i wneud mannau cyhoeddus yn fwy diogel – yn cynnwys:

  • Iechyd a diogelwch y cyhoedd
  • Asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, sy’n ystyried anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig, yn eu cynnwys ac yn ymgynghori â nhw.
  • Cynaliadwyedd (effaith amgylcheddol) – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg ar gyfer pob cyfathrebiad ac arwydd. 

Ar gyfer pob ardal ac ymyriad, dylid cymryd gofal i osgoi defnyddio deunyddiau a/neu baent a allai niweidio’r ansawdd amgylcheddol cyffredinol.  Ni ddylent gyfrannu at y gwastraff sy’n cael ei adael ar dir y cyhoedd.

Dylid rheoli’r defnydd o faneri ar ffensys, gorchuddion bolardiau ac arwyddion sydd wedi’u gwneud o finyl, a’u tynnu i lawr yn brydlon pan nad oes eu hangen mwyach.

Dylai unrhyw strwythurau angenrheidiol fod wedi’u gwneud o ddefnydd o ansawdd digonol er mwyn peidio â thanseilio ansawdd profiadau defnyddwyr.  Mae angen bod yn sensitif mewn mannau o gwmpas asedau treftadaeth a/neu amgylcheddau arbennig eraill yn enwedig.

Rhwymedigaethau cyfreithiol i sicrhau bod polisïau, arferion, gweithdrefnau a threfniadau gweithio sy’n cefnogi cydraddoldeb a llesiant pobl anabl wedi’u nodi yn Neddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio diffiniad y ‘model meddygol’ ar gyfer anabledd (nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a thymor hir ar allu unigolyn i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd).

Fodd bynnag, wrth ddatblygu a gweithredu polisïau a rhaglenni, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r Model Cymdeithasol o Anabledd, gan gydnabod bod y rheini sydd wedi’u cynnwys yn y diffiniad cyfreithiol o anabledd yn aml yn cael eu hanalluogi gan rwystrau mewn cymdeithas, neu yn y gweithle, yn hytrach na’u nam neu eu cyflwr.

Mae hi bob amser yn haws dileu rhwystrau wrth ddechrau datblygu polisi neu ddylunio gwasanaeth, yn hytrach na gorfod ceisio gwneud newidiadau’n nes ymlaen pan fydd y rhwystrau’n dod i'r amlwg. 

Wrth ddylunio Mannau Cyhoeddus Mwy Diogel, dylai sefydliadau ystyried materion sy’n ymwneud â hygyrchedd yn ofalus a chynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, gan ystyried anghenion penodol y bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig ac ymgynghori â nhw. 

Mae’n bwysig ystyried anghenion pobl ddall / rhannol ddall yn enwedig, oherwydd yr effaith bosibl y gallai newid gosodiadau neu osodiadau dros dro eu cael arnynt. Drwy weithio gyda sefydliadau fel RNIB yn ystod y cam cynllunio, gellid sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu diwallu i’r graddau mwyaf posibl. 

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 103 KB.

Maint Ffeil 103 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.