Allwedd Band Eang Cymru
Mae’r cynllun hwn yn rhoi grantiau i ariannu (neu dalu’n rhannol) am gostau gosod band eang newydd mewn cartrefi a busnesau yng Nghymru. Nid yw’n cynnwys costau rhentu misol.
Trwy’r cynllun hwn, mae’n rhaid i gyflymder lawrlwytho’r cysylltiad newydd fod ddwy waith yn gynt na’r hen gysylltiad lawrlwytho e.e. mae’n rhaid i gyflymder y cysylltiad presennol gynyddu o 10Mbps i 20Mbps o leiaf.
Mae’r grant yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd:
- £400 ar gyfer 10Mbps neu uwch
- £800 ar gyfer 30Mbps neu uwch
Os ydych chi’n rhan o gymuned wledig, efallai y gall Llywodraeth y DU helpu i’ch cysylltu â band eang gigabit. Efallai y bydd help hefyd ar gael gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau hyn i’r rheini sydd â chyswllt arafach na 30Mbps.
Ymgeisio am y grant
- Ystyriwch yr opsiynau eraill sydd ar gael ar gyfer sicrhau band eang cyflymach, gan gynnwys gwirio pa wasanaethau band eang y gallwch eu derbyn nawr, cyn cwblhau cais am grant.
- A ydych chi’n gymwys – gallwch ddod o hyd i’r manylion yn y ddogfen ‘Meini prawf cymhwysedd ac amodau’r’ cynllun yn yr adran lawrlwytho dogfennau.
- Ystyriwch yn ofalus pa gyflymder y mae eich cartref neu fusnes ei angen heddiw a thros y 12 mis nesaf.
- Dewiswch Ddarparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd (ISP).
- Cwblhewch y ffurflen gais sydd ar gael yn yr adran lawrlwytho dogfennau. Cewch lenwi’r ffurflen yn electronig a’i dychwelyd drwy e-bost.
- Anfonwch eich cais i gael ei gymeradwyo, gyda’r dyfynbris gan yr ISP rydych wedi’i ddewis, at broadband@llyw.cymru. Noder oherwydd y pandemig nid ydym yn derbyn ceisiadau trwy’r post
- Os caiff eich cais ei gymeradwyo, cewch lythyr cynnig. Yna, mae’n rhaid i chi drefnu i’ch offer band eang cyflym iawn gael ei osod gan eich ISP. Unwaith y bydd wedi cael ei osod ac mae’r cyflymder newydd wedi’i gadarnhau, bydd y cyllid yn cael ei ryddhau ar eich rhan.
- Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, ebostiwch cymorth@llyw.cymru.