Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau fod pawb yn gallu cael mynediad at seilwaith digidol cyflym a dibynadwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Estyn darpariaeth band eang ffeibr

Trawsnewidiodd ein darpariaeth ffeibr a ariennir gan y cyhoedd gydag Openreach dirwedd ddigidol Cymru. Helpodd buddsoddiad y sector cyhoeddus o dros £250 miliwn i:

  • darpariaeth band eang cyflym iawn ledled y wlad hyd at 97%
  • darpariaeth band eang gigabit i fwy na 55%

Mae lleiafrif bach o bobl yng Nghymru yn parhau heb fynediad at fand eang cyflym a dibynadwy.

Er nad yw telathrebu wedi'i ddatganoli i Gymru, rydym yn cefnogi'r rheini heb fynediad at fand eang cyflym a dibynadwy. Rydym yn archwilio opsiynau i ddefnyddio arian o'r ddarpariaeth band eang cyflym iawn i wella cysylltedd digidol.

Ariannu datrysiadau cysylltedd

Mae technolegau sy’n gallu dod â band eang cyflym i ardaloedd sydd hebddo ar hyn o bryd. I eiddo nad yw wedi’i gynnwys mewn unrhyw ddarpariaeth band eang ffeibr, gallwn gyllido cysylltedd i unigolion, busnesau a chymunedau drwy ein cynlluniau grant. Rydym hefyd wedi sicrhau bod £10 miliwn ar gael drwy ein Cronfa Band eang Lleol i gefnogi awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i ddarparu prosiectau band eang yn lleol.

Cysylltu'r sector cyhoeddus

Mae ein rhwydwaith band eang sector cyhoeddus yn cysylltu sefydliadau sector cyhoeddus. Mae'n darparu seilwaith digidol cost effeithiol i helpu darparu gwasanaethau cyhoeddus gwych.

Cymryd camau i wella darpariaeth ffonau symudol

Rydym wedi datblygu cynllun gweithredu ffonau symudol. Dyma sut y byddwn yn gweithio gyda'r diwydiant ffonau symudol ac Ofcom i ddarparu cysyllted i fodloni anghenion pobl a busnesau Cymru.

Edrych tua'r dyfodol

Rydym am gysylltu Cymru â gweddill y byd drwy dechnolegau newydd o’r radd flaenaf.

Rydym yn buddsoddi mewn gweithgarwch sy’n helpu i adeiladu rhwydwaith ffeibr pellgyrhaeddol ar draws Cymru. Mae rhwydwaith mwy ffisegol yn creu mwy o gystadleuaeth, gan ddarparu mwy o ddewis a chyflenwad rhyngrwyd cadarn.

Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod Cymru yn elwa ar dechnolegau newydd ac arloesol megis 5G a’r rhyngrwyd pethau.

Codi llais Cymru

Nid yw polisi telegyfathrebu wedi ei ddatganoli i Gymru. Rydym yn cydweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, gweithredwyr telegyfathrebu ac Ofcom. Mae hyn yn ein helpu i ddeall cynlluniau'r farchnad, dylanwadu ar bolisi'r DU a chymryd camau sy'n iawn i Gymru.