Gwybodaeth am gyflogi plant yn ystod pandemig y coronafeirws.
Cynnwys
A oes modd i bobl ifanc barhau i weithio os oes ganddynt drwydded?
Oes, ar yr amod bod y gweithgarwch yn cadw at Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a chanllawiau cysylltiedig. Mae’r rheoliadau yn cael eu hadolygu’n rheolaidd a gellid eu diwygio bob ychydig wythnosau.
Hefyd mae pob trwydded waith sy’n cael ei rhoi ar gyfer cyflogi plant oedran ysgol gorfodol yn parhau i gael eu cyfyngu gan ddarpariaethau yn Rhan 2 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 a Rhan 2 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963.
Dylai swyddogion awdurdodau lleol asesu ceisiadau am drwyddedau gwaith i blant fesul achos unigol, gan roi blaenoriaeth i’r mesurau sydd yn eu lle gan y cyflogwr i ddiogelu iechyd a lles y plentyn; a sicrhau na fyddai’r gyflogaeth yn digwydd yn ystod yr hyn y byddid yn cael ei ystyried fel y diwrnod ysgol. Byddai angen i’r awdurdod lleol drafod gyda’r cyflogwr pa gamau y mae’n eu cymryd i ddiogelu lles pobl ifanc, ac ystyried deddfwriaeth a chanllawiau Coronafeirws Llywodraeth Cymru wrth wneud unrhyw benderfyniadau. Ceir rhagor o wybodaeth a chanllawiau am y rheoliadau yma: https://llyw.cymru/deddfwriaeth-chanllawiau-coronafeirws-ar-y-gyfraith
Ymysg y prif feysydd i’w hystyried mae’r canlynol:
- a oes gan y plentyn gyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes?
- mesurau cadw pellter cymdeithasol
- cysylltiad disgwyliedig gyda’r cyhoedd
- pa gyfarpar diogelu fydd ar gael, ee menig, hylif golchi dwylo ac ati?