Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gyfanswm y gweithwyr cyflogedig, pobl hunangyflogedig a hyfforddeion a gefnogir gan y llywodraeth ar lefel ddiwydiannol eang ar gyfer 2017.

Mae'r adroddiad hwn wedi'i seilio ar ystadegau o dair ffynhonnell wahanol sydd eisoes wedi'u cyhoeddi i'r cyhoedd, ac sy'n darparu amcangyfrifon o gyflogaeth yn y gweithle (neu gyfanswm swyddi) yng Nghymru. Trwy gynnwys manylion dros amser mae'r adroddiad yn ehangu ar yr wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus am swyddi yng Nghymru.

Prif bwyntiau

Trwy ddefnyddio cyflogaeth yn y gweithle i gymharu strwythur diwydiant yng Nghymru gyda’r DU, gwelwn:

  • cyfran uwch o gyflogaeth yng Nghymru yn sector gweinyddiaeth gyhoeddus, amddiffyn, addysg ac iechyd (sy’n wahanol i’r sector cyhoeddus); y sector cynhyrchu; a'r sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
  • cyfran is o gyflogaeth yng Nghymru yn y sector cyfanwerthu, manwerthu, trafnidiaeth, gwestai a bwyd; y sectorau cyllid a busnes; a'r sector diwydiannau eraill.

Cymharu cyflogaeth yn y gweithle yng Nghymru yn 2017 gyda blynyddoedd cynt:

  • yn 2017 roedd cyflogaeth yn y gweithle yng Nghymru yn 1.42 miliwn; y lefel uchaf ers i’r gyfres ddechrau
  • rhwng 2016 a 2017, bu cynnydd o 11 mil (0.8%) yng nghyfanswm cyflogaeth yn y gweithle; cynyddodd y ffigwr cyfatebol y DU o 1.6%.

Roedd amrywiad sylweddol rhwng diwydiannau ar lefel awdurdod lleol yng Nghymru.

Adroddiadau

Cyflogaeth gweithle fesul diwydiant, 2001 i 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1010 KB

PDF
Saesneg yn unig
1010 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.