Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gyfanswm y gweithwyr cyflogedig, pobl hunangyflogedig a hyfforddeion a gefnogir gan y llywodraeth ar lefel ddiwydiannol eang ar gyfer 2019.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi'n hwyrach nag arfer o ganlyniad i fwy o lwyth gwaith yn dilyn pandemig COVID-19. Mae'r datganiad wedi'i raddio'n ôl o'r bwletin ystadegol arferol. Mae'r holl ddata i'w weld ar StatsCymru.

Mae'r ffigyrau yma wedi'u seilio ar ystadegau o dair ffynhonnell wahanol sydd eisoes wedi'u cyhoeddi i'r cyhoedd, ac sy'n darparu amcangyfrifon o gyflogaeth yn y gweithle (neu gyfanswm swyddi).

Prif bwyntiau

  • Yn 2019 roedd cyflogaeth yn y gweithle yng Nghymru yn 1.44 miliwn. Dyma’r ail lefel uchaf ers i’r gyfres ddechrau.
  • Rhwng 2018 a 2019, bu gostyngiad o 8,000 (0.6%) yng nghyfanswm cyflogaeth yn y gweithle. Cynyddodd ffigwr cyfatebol y DU o 1.1% dros yr un cyfnod.

Wrth gymharu â’r DU, gwelwn

  • Cyfran uwch o gyflogaeth yng Nghymru yn sector gweinyddiaeth gyhoeddus, amddiffyn, addysg ac iechyd (sy’n wahanol i’r sector cyhoeddus); y sector cynhyrchu; a'r sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota.
  • Roedd cyfran is o gyflogaeth yng Nghymru nag yn y DU o fewn y sector cyllid a gweithgarwch busnes a’r sector diwydiannau eraill. Roedd yn debyg i’r DU yn y sector cyfanwerthu, manwerthu, cludiant, gwestai a bwyd

Roedd amrywiad sylweddol rhwng diwydiannau ar lefel awdurdod lleol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein cyhoeddiadau a'n setiau data sy'n amcangyfrif cyflogaeth a swyddi yng Nghymru. Os ydych yn defnyddio’r cyhoeddiad a’r data hwn yn rheolaidd, cysylltwch â ystadegau.economi@llyw.cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.