Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gyfanswm y gweithwyr cyflogedig, pobl hunangyflogedig a hyfforddeion a gefnogir gan y llywodraeth ar lefel ddiwydiannol eang ar gyfer 2018.

Mae'r adroddiad hwn wedi'i seilio ar ystadegau o dair ffynhonnell wahanol sydd eisoes wedi'u cyhoeddi i'r cyhoedd, ac sy'n darparu amcangyfrifon o gyflogaeth yn y gweithle (neu gyfanswm swyddi) yng Nghymru. 

Prif bwyntiau

  • Yn 2018 roedd cyflogaeth yn y gweithle yng Nghymru yn 1.45 miliwn. Dyma’r lefel uchaf ers i’r gyfres ddechrau.
  • Rhwng 2017 a 2018, bu cynnydd o 28 mil (2.0%) yng nghyfanswm cyflogaeth yn y gweithle. Cynyddodd y ffigwr cyfatebol y DU o 0.7%.
  • Mae hwn yn cynrychioli cyflymiad mewn tyfiant yng Nghymru ar ôl ychydig o flynyddoedd lle tyfodd y DU yn gynt.

Wrth gymharu â’r DU, gwelwn

  • Cyfran uwch o gyflogaeth yng Nghymru yn sector gweinyddiaeth gyhoeddus, amddiffyn, addysg ac iechyd (sy’n wahanol i’r sector cyhoeddus); y sector cynhyrchu; a'r sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota.
  • Cyfran is o gyflogaeth yng Nghymru yn y sector cyfanwerthu, manwerthu, trafnidiaeth, gwestai a bwyd; y sectorau cyllid a busnes; a'r sector diwydiannau eraill.

Roedd amrywiad sylweddol rhwng diwydiannau ar lefel awdurdod lleol yng Nghymru.

Adroddiadau

Cyflogaeth gweithle fesul diwydiant, 2001 i 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 515 KB

PDF
Saesneg yn unig
515 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.