Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y gweinidog

Mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario oddeutu £6bn y flwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy’n golygu defnyddio cadwyni cyflenwi rhyngwladol. Mae amrywiaeth enfawr o nwyddau, gwaith a gwasanaethau’n cael eu prynu gan bob rhan o’r sector cyhoeddus, ond yr hyn sy’n gyffredin i’r cyfan yw bod pobl yn chwarae rhan ar bob lefel o’r cadwyni cyflenwi hyn.

Mae’n hanfodol, felly, bod arferion cyflogaeth da yn bodoli ar gyfer y milynau o weithwyr sy’n gweithio ym mhob cam o’r gadwyn. Mae arferion cyflogaeth da, sy’n grymuso ac yn gwobrwyo gweithwyr, yn helpu i wella ansawdd bywydau pobl yng Nghymru a’r tu hwnt. Mae hyn yn ei dro yn arwain at nwyddau a gwasanaethau o ansawdd uwch. Gall arferion gwael – ac anfoesegol hyd yn oed – fel defnydd annheg o gontractau dim oriau, arwain at forâl isel a throsiant staff uchel. Mewn rhai achosion, gall fod yn beryglus a gall pobl gael eu hecsbloetio.

Er bod caethwasiaeth wedi’i wahardd ers blynyddoedd maith ac yn anghyfreithlon drwy’r byd, mae’n dal yn broblem fawr mewn rhai diwydiannau ac mewn rhai rhannau o’r byd. Yn wir, bydd pobl weithiau’n cael eu darganfod yn byw dan amodau caethwasiaeth fodern yn y Deyrnas Unedig. Rhaid inni wneud mwy i wneud yn siŵr nad oes modd i achosion o’r fath ddigwydd yng Nghymru nac yn y cadwyni cyflenwi a ddefnyddir gan ein sector cyhoeddus ledled y byd.

Rydym wedi llunio’r Cod Ymarfer – Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi i sicrhau bod holl sefydliadau’r sector cyhoeddus yn cymryd camau i ddileu arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol ac i sicrhau bod pob gweithiwr ym mhob cam o’r gadwyn gyflenwi yn cael ei drin yn deg. Mae’r deuddeg ymrwymiad yn y cod ymarfer wedi’u targedu at sefydliadau’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector, ac mae’r canllawiau sy’n cyd-fynd â hwy yn cynnwys cyngor a dulliau ar gyfer rhoi pob ymrwymiad ar waith.

Fy ngobaith yw y bydd cymaint o sefydliadau â phosibl yn ymrwymo i’r cod ymarfer. Bydd hynny’n sicrhau ein bod yn gwneud ein rhan i gefnogi llesiant y bobl sy’n byw ac yn gweithio yma yng Nghymru, a llesiant pobl sy’n rhan o’n cadwyni cyflenwi ledled y byd.

Image

 

Mark Drakeford AC
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Rhagarweiniad

Cafodd y Cod Ymarfer hwn ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi mwy moesegol ar gyfer cyflawni contractau sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru sy’n derbyn arian cyhoeddus.

Mae yna dystiolaeth sy’n dangos bod arferion cyflogaeth anfoesegol yn cael eu dilyn mewn cadwyni cyflenwi ledled Cymru a thu hwnt.

Mae’r Cod hwn wedi cael ei gynllunio i sicrhau bod gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus yn cael eu cyflogi mewn ffordd foesegol, gan gydymffurfio ag ysbryd a llythyren y ddeddf yng nghyfreithiau’r DU, yr UE ac yn rhyngwladol. Mae’r Cod yn ymdrin â’r materion cyflogaeth a ganlyn:

  • Caethwasiaeth Fodern a thorri hawliau dynol
  • Cosbrestru
  • Hunangyflogaeth ffug
  • Defnydd annheg o gynlluniau mantell a chontractau dim oriau
  • Talu’r Cyflog Byw

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r materion hyn i’w gweld yn y Pecyn Cymorth sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymarfer.

Wrth ymrwymo i’r Cod, bydd sefydliadau yn cytuno i gydymffurfio â 12 ymrwymiad sydd wedi’u cynllunio i ddileu caethwasiaeth fodern a hybu cyflogaeth foesegol.

Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i holl sefydliadau’r sector cyhoeddus, busnesau a sefydliadau’r trydydd sector sy’n cael cyllid cyhoeddus ymrwymo i’r Cod Ymarfer hwn. Anogir cyrff eraill sy’n gweithredu yng Nghymru, mewn unrhyw sector, i ddilyn y Cod.

Dylai’r camau a fydd yn cael eu cymryd mewn perthynas â’r 12 ymrwymiad yn y Cod fod yn briodol ac yn gymesur, yn unol â maint a dylanwad pob sefydliad a lefel y risg sydd y gallai’r llafurlu sy’n rhan o’i gadwyn gyflenwi gael ei ecsbloetio.

Dylai’r Cod Ymarfer gael ei ddarllen ar y cyd â’r Pecyn Cymorth, sy’n cynnwys canllawiau ymarferol a thestun a thempledi enghreifftiol fel cymorth i fynd i’r afael â phob un o’r pynciau sy’n cael ei drafod, a chyngor ar bolisi ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus.

Ymrwymiadau’r Cod Ymarfer

Bydd ein sefydliad yn: 

1. Llunio polisi ysgrifenedig ar gyflogaeth foesegol yn ein sefydliad ninnau ac yn ein cadwyni cyflenwi. Wedi inni lunio’r polisi hwn, byddwn yn ei rannu ar draws ein sefydliad ac yn ei adolygu’n flynyddol a monitro pa mor effeithiol ydyw.

Fel rhan o hyn, byddwn yn:

  1. Penodi Hyrwyddwr Cyflogaeth Foesegol ac Atal Caethwasiaeth

2. Llunio polisi ysgrifenedig ar chwythu’rchwiban i rymuso staff i godi amheuonynghylch arferion cyflogaeth anghyfreithlonac anfoesegol, ac sy’n gosod cyfrifoldeb arstaff i adrodd am weithgarwch troseddolsy’n cael ei gynnal yn ein sefydliad ninnauac yn ein cadwyni cyflenwi. Wedi inni lunio’rpolisi hwn, byddwn yn ei rannu ar draws ein sefydliad. Byddwn yn adolygu’r polisi yn flynyddol ac yn monitro pa mor effeithiolydyw. Byddwn hefyd yn:

  1. Darparu dull i bobl o’r tu allan i’nsefydliad godi amheuon ynghylch arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol.

3. Sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig â phrynu/caffael a recriwtio a defnyddio gweithwyr yn cael hyfforddiant ar gaethwasiaeth fodernac arferion cyflogaeth foesegol, a chadwcofnod o’r rhai sydd wedi cael hyfforddiant.

4. Sicrhau bod arferion cyflogaeth yn caeleu hystyried fel rhan o’r broses gaffael.Byddwn yn:

  1. Cynnwys copi o’n polisi ar gyflogaethfoesegol (Ymrwymiad 1) yn yr holl ddogfennaeth gaffael.
  2. Cynnwys cwestiynau priodol ar gyflogaeth foesegol mewn gwybodaeth dendro ac asesu’r ymatebion a ddaw i law.
  3. Lle y bo’n briodol, cynnwys elfennau o’r Cod fel amodau’r contract.
  4. Bob tro y ceir dyfynbris neu dendr anarferol o isel, gofyn i ymgeiswyr esbonio’r effaith y gallai costau isel ei chael ar eu gweithwyr.

5. Sicrhau nad yw’r ffordd yr ydym yn gweithiogyda’n cyflenwyr yn arwain at ddefnyddioarferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol yn y gadwyn gyflenwi.Byddwn yn:

  1. Sicrhau nad oes pwysau diangen o ran costau ac amser yn cael eu gosod ar unrhyw un o’n cyflenwyr os yw hyn yn debygol o arwain at drin gweithwyr mewn modd anfoesegol.
  2. Sicrhau bod ein cyflenwyr yn cael eu talu ar amser – cyn pen 30 diwrnod odderbyn anfoneb ddilys.

6. Disgwyl i’n cyflenwyr ymrwymo i’r CodYmarfer hwn er mwyn helpu i sicrhau bodarferion cyflogaeth foesegol yn cael eucynnal drwy’r gadwyn gyflenwi gyfan.

7. Asesu ein gwariant i ddod o hyd i faterioncaethwasiaeth fodern, torri hawliau dynolac arferion cyflogaeth anfoesegol, ac ymdrinâ hwy. Byddwn yn:

  1. Cynnal adolygiadau rheolaidd owariant a chynnal asesiad risgar y canfyddiadau, i ddod o hyd
    i gynnyrch a/neu wasanaethau lle ceir risg o gaethwasiaeth fodern a/neuarferion cyflogaeth anghyfreithlon neuanfoesegol yn y DU a thramor.
  2. Ymchwilio i arferion unrhyw gyflenwr sydd wedi’i nodi fel risg uchel, drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â’r gweithwyr lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
  3. Gweithio gyda’n cyflenwyr i unioni unrhyw faterion yn gysylltiedig ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol.
  4. Monitro arferion cyflogaeth ein cyflenwyr risg uchel, gan wneud hyn yn eitem safonol ar yr agenda ar gyfer pob cyfarfod/adolygiad rheoli contractau.

8. Sicrhau na fydd unrhyw arferion hunangyflogi ffug yn cael eu cynnal ac na fydd cynlluniau mantell a chontractau dim oriau yn cael eu defnyddio’n annheg neu fel modd o:

  1. Osgoi, neu hwyluso osgoi, talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r isafswm cyflog perthnasol.
  2. Rhoi gweithwyr dan anfantais yn ddiangen o ran hawliau tâl a chyflogaeth, sicrwydd swyddi a chyfleoedd gyrfa.
  3. Osgoi cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch.

9. Sicrhau bod gweithwyr yn rhydd i ymuno ag Undeb Llafur neu gydgytundeb ac i ymgymryd ag unrhyw weithgaredd cysylltiedig a chodi pryderon gweithwyr heb berygl y byddant yn wynebu unrhyw fath o wahaniaethu yn eu herbyn. Byddwn yn:

  1. Peidio â defnyddio cosbrestri/rhestri gwaharddedig.
  2. Sicrhau nad yw ein cyflenwyr yn defnyddio cosbrestri/rhestri gwaharddedig.
  3. Peidio â llunio contract ag unrhyw gyflenwr sydd wedi defnyddio cosbrestr/rhestr waharddedig ac sydd wedi methu cymryd camau i unioni’r sefyllfa.
  4. Disgwyl i’n cyflenwyr sicrhau bod cynrychiolwyr Undebau Llafur yn gallu cael mynediad at aelodau a gweithwyr contract.

10. Ystyried talu Cyflog Byw y Sefydliad Cyflog Byw fel isafswm i bob aelod o staff ac annog ein cyflenwyr i wneud yr un fath. Byddwn yn:

  1. Ystyried talu Cyflog Byw’r Sefydliad Cyflog Byw fel isafswm i’n holl staff yn y DU.
  2. Ystyried cael ein hachredu fel Cyflogwr Cyflog Byw.
  3. Annog ein cyflenwyr sydd wedi’u lleoli dramor i dalu cyflog teg i’w holl staff, a sicrhau bod staff sy’n gweithio yn y DU yn cael yr isafswm cyflog o leiaf.

11. Llunio datganiad blynyddol ysgrifenedig yn amlinellu’r camau a gymerir yn ystod y flwyddyn ariannol, a’r camau gweithredu sy’n cael eu cynllunio, i sicrhau nad oes unrhyw achos o gaethwasiaeth na masnachu pobl yn unrhyw ran o’n sefydliad a’i gadwyni cyflenwi. Byddwn yn:

  1. Sicrhau bod y datganiad yn cael ei lofnodi gan uwch-reolwr/aelod o’r bwrdd.
  2. Cyhoeddi’r datganiad ar ein gwefan. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn darparu copi i unrhyw un cyn pen 30 o ddiwrnodau o dderbyn cais.

Disgwylir i bob sefydliad sy’n ymrwymo i’r Cod hwn lunio datganiad blynyddol ysgrifenedig a’i gyhoeddi – yn achos sefydliadau masnachol sydd â throsiant o £36m neu fwy, mae hyn hefyd yn bodloni gofynion Adran 54 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

Rydym yn annog pob sefydliad i gyhoeddi eu datganiadau ar y gofrestr Tryloywder mewn Cadwyni Cyflenwi (TISC) sydd am ddim i bob corff cyhoeddus a bychan.

Ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus y mae’r Cod Ymarfer ar Faterion y Gweithlu (2014) yn berthnasol iddynt:

12. Sicrhau bod y rheini sy’n gwneud gwaith ar gontract allanol yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal. Byddwn yn:

  1. Sicrhau bod staff y sector cyhoeddus sy’n cael eu trosglwyddo fel rhan o wasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei drefnu’n allanol drwy drydydd parti yn cadw eu telerau ac amodau cyflogaeth.
  2. Sicrhau bod aelodau eraill o staff sy’n gweithio ar wasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei drefnu’n allanol yn cael eu cyflogi ar delerau ac amodau tebyg i’r staff sydd wedi eu trosglwyddo o’r sector cyhoeddus.

Cymhwyso’r Cod Ymarfer

Mae’r ‘Cod Ymarfer - Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi’ wedi ei sefydlu i helpu i sicrhau bod gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu cyflogi mewn ffordd deg a moesegol.

Mae’r Cod Ymarfer yn gymwys i gaffael, dewis cyflenwyr, tendro, rheoli contractau a rheoli cyflenwyr.

Pwy all ymrwymo i’r Cod?

Math o sefydliadCam

Cyrff cyhoeddus yng Nghymru y mae eu swyddogaethau wedi cael eu datganoli yn gyfan gwbl neu’n bennaf i Gymru:

  • Llywodraeth Cymru
  • Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol
  • Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • GIG Cymru
  • Llywodraeth Leol
  • Gwasanaethau Brys (ac eithrio’r Heddlu)
Mae disgwyl iddynt ymrwymo i’r Cod
Sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg BellachMae disgwyl iddynt ymrwymo i’r Cod
Sefydliadau’r trydydd sector sy’n derbyn arian cyhoeddus yng Nghymru trwy grantiau, contractau neu unrhyw ddull arall.Mae disgwyl iddynt ymrwymo i’r Cod
Busnesau sy’n cymryd rhan yng nghadwyni’r sector cyhoeddus yng NghymruMae disgwyl iddynt ymrwymo i’r Cod
Cyrff cyhoeddus eraill sydd wedi’u lleoli yng NghymruMaent yn cael eu hannog i ymrwymo i’r Cod
Busnesau eraill sydd wedi’u lleoli yng NghymruMaent yn cael eu hannog i ymrwymo i’r Cod

Sut i ymrwymo

I roi gwybod inni eich bod yn ymrwymo i’r Cod, anfonwch e-bost atom i’r cyfeiriad PolisiMasnachol@llyw.cymru gan roi ‘Cod Ymarfer’ fel pwnc. Dylech hefyd gynnwys yr wybodaeth isod yn eich e-bost:

  • Eich enw
  • Teitl eich swydd
  • Eich cyfeiriad e-bost
  • Enw eich sefydliad
  • Manylion cyswllt eich sefydliad – cyfeiriad a rhif ffôn.

Pecyn Cymorth y Cod Ymarfer

Mae Pecyn Cymorth ar gael i gyd-fynd â’r Cod hwn sy’n cynnwys cyfres o Ganllawiau a Nodiadau Cyngor Caffael, ynghyd â thempledi ar gyfer dogfennau, enghreifftiau o gwestiynau tendro, ac enghreifftiau o amodau contract. Mae’r rhain yn cynnig cyngor a chanllawiau ymarferol i’ch helpu i roi’r Cod ar waith.

Mae'r canllawiau canlynol ar gael i'w lawrlwytho ar LLYW.CYMRU:

  • Canllaw i drechu caethwasiaeth fodern ac achosion o dorri hawliau dynol
  • Canllaw i drechu arferion cyflogaeth anfoesegol
  • Canllaw i fynd i’r afael â Chosbrestru
  • Canllaw i gymhwyso’r Cyflog Byw wrth gaffael
  • Cwestiynau, Amodau a Pholisïau enghreifftiol.

Mae’r Nodiadau Cyngor Caffael a ganlyn, sy’n targedu caffaelwyr y sector cyhoeddus, hefyd yn rhan o’r Pecyn Cymorth:

  • Arferion Cyflogaeth mewn Prosiectau sy’n Derbyn Arian Cyhoeddus
  • Cosbrestru yn y Diwydiant Adeiladu
  • Cod Ymarfer Diwygiedig ar Faterion y Gweithlu.

Yn achos y sector cyhoeddus yn arbennig, dylid mabwysiadu ymrwymiadau polisi eraill hefyd, er enghraifft y rhai a gynhyrchir gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu. Ceir cyfeiriadau at y rhain yn y Canllawiau, lle y bo hynny’n berthnasol.

Sut i gymhwyso’r Cod hwn

Yn eich sefydliad eich hun:

Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi bod yr ymrwymiadau yn y Cod yn eang eu natur. Dylech allu rhoi’r rhan fwyaf o’r ymrwymiadau ar waith yn sydyn, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â’ch gweithgarwch contractio, ond bydd yn cymryd amser i weithredu rhai ohonynt yn llawn. Wedi ichi ymrwymo i’r Cod, rydym yn argymell y dylech gymryd y camau a ganlyn:

  • Cynnal asesiad i nodi’r ymrwymiadau yr ydych eisoes yn cydymffurfio â hwy.

Ar gyfer yr ymrwymiadau sy’n weddill:

  • Blaenoriaethu’r ymrwymiadau sy’n weddill yn unol ag effeithiau a sefyllfa eich sefydliad eich hun.
  • Datblygu Cynllun Gweithredu, yn cynnwys manylion y gweithgareddau y byddwch yn ymgymryd â hwy i gymhwyso pob ymrwymiad.
  • Pennu amserlenni ar gyfer pob cam yn eich Cynllun Gweithredu.

Os ydych yn sefydliad bach

Os ydych yn sefydliad bach gall fod angen mwy o amser arnoch i gymhwyso’r Cod yn llawn. Rydym yn argymell y dylech ddechrau gyda’r ymrwymiadau yr ydych o’r farn sy’n fwyaf perthnasol i’ch sefydliad a gweithio ar rai eraill dros amser. Fel arall, efallai y byddwch am gymryd camau ac iddynt fwy o ffocws yn erbyn pob un o’r ymrwymiadau. Er enghraifft, ar gyfer Ymrwymiad 7 ‘Asesu ein gwariant i ddod o hyd i faterion caethwasiaeth fodern, torri hawliau dynol ac arferion cyflogaeth anfoesegol, ac ymdrin â hwy’ – gallech ddechrau drwy asesu dim ond y cyflenwyr hynny sy’n cyflenwi math arbennig o nwyddau, neu’r cyflenwyr hynny sy’n gysylltiedig â chyflenwi eich cynnyrch neu wasanaeth craidd.

Yn eich Cadwyn(i) Cyflenwi:

Mae amryw o’r ymrwymiadau yn y Cod yn ymwneud ag arferion moesegol yn eich cadwyni cyflenwi. Mae gosod disgwyliad ar eich cyflenwyr i ymrwymo i’r Cod yn ffordd effeithiol o gyflawni hyn.

Gofynion adrodd

Yn achos cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru yn unig:

Bydd yn ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru adrodd ar eu statws o ran ymrwymo i’r Cod, a’i gymhwyso, gan ddarparu gwybodaeth am:

  • Nifer y staff sy’n cymryd rhan yn y gwaith caffael sydd wedi cael hyfforddiant ar gaethwasiaeth fodern ac arferion cyflogaeth foesegol (fel rhif ac fel canran)
  • Nifer y cyflenwyr sydd wedi ymrwymo i’r Cod Ymarfer o ganlyniad i gamau a gymerwyd gan y sefydliad.

Byddwn hefyd yn gofyn ichi anfon copiau o’ch Cynllun Gweithredu’r Cod Ymarfer (a ddylai fod yn rhan o’ch Datganiad Blynyddol ysgrifenedig).

Bydd materion yn ymwneud ag arferion cyflogaeth foesegol ar brosiectau sy’n cael arian cyhoeddus a godir drwy’r Gwasanaeth Gwrando ar Gyflenwr yn cael eu hadrodd.

Yn achos pob sefydliad:

Drwy Ymrwymiad 11 o’r Cod, mae pob sefydliad yn cytuno y bydd yn cynhyrchu a chyhoeddi datganiad blynyddol ysgrifenedig yn amlinellu’r camau a gymerir mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern.

Gwybodaeth ategol

Mae cyngor a chanllawiau ymarferol ar gymhwyso’r Cod i’w cael yn y Pecyn Cymorth sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymarfer.